Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

War of the Sontarans, gyda rhagarweiniad o Chapter Dau yn y Dilyniant agoriadol, oedd ail episôd Cyfres 13 Doctor Who. Dyma ail bennod y stori chwe rhan, Doctor Who: Flux.

Cyflwynodd y pennod yma Deml Atropos ar y blaned Amser. Gwelodd diwedd yr episôd Dan Lewis yn ymuno â'r TARDIS yn swyddogol, yn dilyn ei gyflwyniad yn yr episôd blaenorol. O ganlyniad, mae'n dynodi'r terfyn ar deithiau unigol Yasmin Khan gyda'r Trydydd ar Ddegfed Doctor.

Crynodeb[]

Wedi'i thaflu nôl i Ryfel Crimea, mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn dod o hyd i'r Adran Golau ar fin rhyfel gyda... byddin Sontaran?

Mae Yaz a Dan wedi'u tynnu wrthi, lle maent yn dadrganfod mae ganddynt tasgiau unigol i adfer amser. Mae'r Sontarans yn barod am frwydr fythbarhaol, ac yn Nheml Atropos, mae'r gelyn wedi cyrraedd yn bwriadu cymryd popeth.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Ceffyl:[2]
    • Zaleno
  • Milwr marw:[3]
    • David Cromarty
  • Cyflegrwr:[3]
    • Lex Lamprey
  • Sontaran:[3]
    • Katie Tranter
  • Styntiau:[4]
    • Berlinda McGinley
    • Christina Low
    • Ellie Keighley
    • Rob Jarman
    • Joseph Paxman
    • Annabel Canavan
    • Matt Hermmiston
  • Mouri:[5][6]
    • Chloe Williams
    • Antonia Shanice
    • Annette Sandles
    • Maty Carpenter

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn sôn am y Flux fel "diwedd y bydysawd".
  • Mae Dan a Yaz yn cael eu taflu i mewn i ffenestri amser wedi eu hachosi gan y Flux ac egni'r fortex yn gwrthdaro.
  • Mae Svild yn cyfeirio at y Cyhoeddiad Cysgod.
  • Mae Dan a Karvanista yn dianc wrth y llong Sontaran trwy tiwb gwastraff.

Hanes[]

  • Yn gwreiddiol, gwelodd Rhyfel y Crimea yr Ymerodraeth Brydeinig yn brwydro Rwssia. Mae amser wedi'i newid fel bod Prydain yn rhyfela'r Sontarans yn lle.
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at wanhad yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Nodiadau[]

I'w hychwanegu.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 3.96 miliwn[7]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.12 miliwn[8]

Cysylltiadau[]

  • Llwyddodd y TARDIS dianc y Flux. (TV: The Halloween Apocalypse)
  • Unwaith, nododd yr Ail Ddoctor ei fod wedi ymweld â Rhyfel Crimea. (TV: The Evil of the Daleks) Cafodd milwyr wrth y rhyfel hefyd eu herwgipio gan yr Arglwyddi Rhyfel. (TV: The War Games)
  • Glaniodd y Seithfed Doctor yn ystod goresgyniad Sevastopol, lle cafodd y TARDIS ei hanafu, y tro yma gan belen magnel yn gwahanu'r tu mewn wrth y tu fas. Ar yr adeg hon, daeth y Doctor ac Ace yn garcharorion Ymerodroaeth Rwssia, tra chwrddodd Hex arwr ei blentyndod, Florence Nightingale. (SAIN: The Angel of Scutari)
  • Yn flaenorol, rhodd y Deuddegfed Doctor gymorth i Mary Seacole i ymateb i haint estronaidd. (SAIN: The Charge of the Night Brigade)
  • Unwaith eto mae rhaid i'r Trydydd ar Ddegfed Doctor profi mân rhywiaeth o ganlyniad i'w chorff benywaidd. (TV: The Witchfinders, Spyfall, The Haunting of Villa Diodati)
  • Mae Yaz a'r Doctor unwaith eto yn cael eu gwahanu, gyda Yaz yn cael y Doctor i addo dod i'w ffeindio unwaith eto, gan gofio nôl i bryd cafon nhw eu gwahanu yn dilyn ymgarchariad y Doctor gan y Judoon. Y tro yma, mae Yaz yn cadw symud, gan wneud dewisiadau actif i helpu'r rhai o'i hamgylch, yn lle aros am y Doctor i ddychwelyd. (TV: Revolution of the Daleks) Byddent yn cael eu gwahanu unwaith eto wrth i'r Doctor cael ei hadalw i Division. (TV: Village of the Angels, Survivors of the Flux)
  • Mae Yaz yn gofyn i'w hun "Beth Byddai'r Doctor yn Wneud?", gyda Swarm yn cellweirio hon. Unwaith, defnyddiodd y Meistr Saxon yr ymadrodd i gellweirio edmygedd Martha Jones tuag at y Degfed Doctor. (TV: Last of the Time Lords)
  • Mae'r Doctor yn cofio gweithredu fel Arlywydd Gallifrey. (TV: The Invasion of Time, The Five Doctors, Hell Bent)
  • Mae Svild yn myfyrio ar y cywilydd o gael ei anafu mewn brwydr a'r rhaid i gael ei ddienyddu am ei bechau. Mae hon yn adlewyrchu teimladau Cadlywydd Kaagh. (TV: The Last Sontaran)
  • Mae Yaz yn nodi ei bod hi'n "Swyddog Gweithredol Khan, Heddlu Hallamshire, Rhanbarth y Ddaear", gan gyfeirio at ei swydd fel heddwas, er yn flaenorol awgrymodd hi gadawodd hi'r heddlu. (TV: The Woman Who Fell to Earth, The Halloween Apocalypse)
  • Mae rhieni Dan yn gofyn ef am ei ddiflaniad, ac am beth ddigwyddodd i'w dŷ. (TV: The Halloween Apocalypse)
  • Mae'r Doctor yn holi'r Sontarans os mai nhw yw'r grym y tu ôl i'r Flux, ond maen nhw'n gyfaddef i beidio achosi'r Flux ond maent yn cymryd mantais o'r argyfwng presennol, yn union fel disgrifiodd Cyber-Leader One defnydd y Cybusmen o Long Gwacter y Daleks. (TV: Army of Ghosts)
  • Mae Skaak yn cyfeirio at y Lupari yn amddiffyn y Ddaear rhag y Flux. (TV: The Halloween Apocalypse)
  • Mae Skaak yn cyfeirio at gais Cadlywydd Linx ar gyfer cymryd y Ddaear ar gyfer Ymerodraeth y Sontarans. (TV: The Time Warrior)
  • Mae'r Doctor unwaith eto yn trechu rhywun gyda'i bys bach gan ddefnyddio Venusian aikido. (TV: The Ghost Monument, Kerblam!)
  • Mae Azure yn cofio bod yn Nheml Atropos, gyda Swarm yn ei gyfeirio ati fel y "lleoliad ddechreuodd popeth". (TV: Once, Upon Time)
  • Yn union fel roedd y Degfed Doctor gyda Harriet Jones yn ôl y Sicoracs, mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn grac o safbwynt moesau wrth mae Logan yn llofruddio'r Sontarans. (TV: The Christmas Invasion) Yn yr un modd, roedd y Trydydd Doctor llawn ddicter tuag at y Brigadydd, er nad oeddent eisioes yn fygythiad iddynt. (TV: Doctor Who and the Silurians)
  • Mae'r Porth, sydd yn cysylltu Gofod-E a Gofod-N, wedi'i nodi fel cael cyfesurennau o sero, gyda'r Doctor yma yn nodi'r un peth am Deml Atropos. (TV: Warriors' Gate)
  • Mae'r Doctor yn tawelu Mary Seacole trwy hustio, gan ei hadael wedu syndodu. Defnyddiodd yr Unarddegfed Doctor union yr un dull i dawelu Craig, Stormageddon a'i gyd-weithwyr yn y siop. (TV: Closing Time)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhada DVD a Blu-ray[]

Rhyddhawyd War of the Sontarans ar DVD a Blu-ray ar 24 Ionawr 2022, ynghyd pob episôd arall Doctor Who: Flux.

Rhyddhadau digidol[]

Mae'r episôd ar gael i ffrydio ar BBC iPlayer.

Troednodau[]