Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

The Girl Who Waited (Cy: Y Ferch ag Arhosodd) oedd degfed episôd Cyfres 6 Doctor Who.

O achos y dewis moesol ag oedd yn craidd i'r stori, mae'r stori yma yn astudiaeth ar berthynas Amy a Rory. Byddai diffyg difrifoldeb y Doctor tuag at teithio hefyd yn cael cwestiynnu, megis sut ddewisodd ef i ddweud celwydd wrth wynebu canlyniad cethinol.

Crynodeb[]

Mae'r Unarddegfed Doctor, Rory Williams ac Amy Pond yn glanio ar Apalapucia yng nghanol pla. Mae Amy yn cael ei gadael ar ei phen ei hun, ac mae ar Rory a'r Doctor yw'r cyfrifoldeb i'w hachub... ond mae amser yn rhedeg yn gloiach am Amy.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Dwbl y Doctor:[1]
    • Matthew Humphries
  • Handbots:[1]
    • Barbara Fadden
    • Naomi Berners
    • Louise Bowen
    • Nathalie Cuzner
    • Victoria Thomas
  • Dwbl hen Amy:[1]
    • Louise Bowen
  • Handbot stỳnt:[1]
    • Belinda McGinley
  • Handbot marw:[1]
    • Louise Bowen
  • Rorybot:[1]
    • Nathalie Cuzner
  • Dwbl Amy:[1]
    • Rhiannon Ward
  • Handbot:[1]
    • Astrid Hall
  • Dwbl y Doctor:[1]
    • Andy Jones
  • Handbot stỳnt:[1]
    • Stephanie Carey
  • Llais yr Handbots:[1]
    • Stephen Bracken-Keogh

Cyfeiriadau[]

Technoleg cyfathrebu[]

  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at Trydar.
  • Mae'r spiendryll amser yn gallu cyfathrebu rhwng nentydd amser mewn ardal â sawl nant amser.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn fodlon derbyn y bai amm y TARDIS yn glanio yn rhy hwyr yn llinell amser Amy.
  • Mae'r Doctor yn dweud celwydd wrth y ddwy Amy am eu cyfleuoedd o fodoli ar yr un pryd, ac yn y pendraw, mae'n cloi'r hen Amy allan wrth iddi rhedeg tuag at y TARDIS, yn gadael hi i gael ei dileu.
  • Mae'r Doctor yn rhoi bâr o sbectol i Rory wrth ei fag.

Lleoliadau[]

  • Mae Clom yn cael ei ddynodi fel lleoliad dyfodol Disneyland.

TARDIS[]

  • Mae gan TARDIS y Doctor bar karaoke a chasgliad DVD.
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn ystyried gollwng rhai o ystafellau'r TARDIS am bwer.

Theori amserol[]

  • Mae Amy yn sôn am dynged, achosiaeth, a nexus amser.

Anifeiliaid anwes[]

  • Mae'r dwy Amy yn trafod eu hoff gath, Biggles.

Planedau[]

  • Mae'r Doctor yn crybwyll Planed y Siopau Coffi, gan egluro enillodd y blaned teitl o le rhif un ar gyfer teithiwr rhyngalaethol. Apalapuchia oedd lle rhif dau.

Nodiadau[]

  • Mae'r teitl, The Girl Who Waited, yn cyfeiriad at lysenw rhodd y Doctor i Amy achos arhosodd hi amdano am gymaint o amser y tro cyntaf cwrddon nhw. (TV: The Eleventh Hour, The Big Bang)
  • Roedd cast y stori yma, nes Heaven Sent, y lleiaf o ran nifer o actorion mewn stori hyd llawn yng nghyfres newydd Doctor Who. Yn ystyried y gyfres clasurol hefyd, ond The Edge of Destruction ar gyfer y nifer lleiaf o gast.
  • Wrth edrych am y sbectol, mae chwaraewr tâp yn chwarae ar gonsol y TARDIS, ac mae modd clywed amrywiad o thema 1966 Doctor Who (gyda'r bâs a rhai elfennau eraill ar goll) wedi'i chwarae yn gyflymach, tuag yn ôl, a mewn traw is.
  • Mae'r mynedfad lle mae Amy yn cwrdd y rhyngwyneb yn unfath â mynedfa Ysbyty Efrog Newydd Newydd yn TV: New Earth.
  • Byddai Matt Smith ac Imelda Staunton yn mynd ymlaen i chwarae'r Tywysog Philip, Dug Caeredin, a'r Frenhines Elisabeth II, yn y gyfres The Crown.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 6.0 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 7.6 miliwn[2]

Cysylltiadau[]

  • Mae Rory yn crybwyll Fes y Doctor. (TV: The Big Bang)
  • Mae Amy yn gweld fersiwn o'i hun o'r gorffennol/dyfodol. (TV: The Hungry Earth / Cold Blood, The Big Bang, Space / Time)
  • Cyfeiriwyd at sgriwdreifar sonig y Doctor fel prôb gan y Daleks o'r blaen. (TV: Doomsday)
  • Yn flaenorol, roedd modd i'r TARDIS cynnal paradocs trwy ail-adeiladu'r rotor amser i mewn i beiriant paradocs gan y Meistr. (TV: Last of the Time Lords)
  • Mae'r Doctor yn nodi bod y TARDIS yn "casàu"'r paradocs creodd y ddwy Amy. Mae'r ffiath bod gan y TARDIS emosiynnau a phersonoliaeth wedi cael ei cyfeirio at gan y Doctor ar sawl adeg, (TV: The Ribos Operation, The Five Doctors, Utopia) wedi'u cadarnhau gan enaid y TARDIS trwy Idris. (TV: The Doctor's Wife)
  • Mae modd gweld adlun o'r Mona Lisa. (TV: City of Death, Mona Lisa'r Revenge)
  • Unwaith eto, mae Rory ac Amy yn cael eu gwahanu am amser annaturiol o faith. (TV: The Big Bang, The Doctor's Wife) Ond, yn yr achos yma, Amy yw'r un sydd yn aros am flynyddoedd.
  • Mae Rory yn gwneud dewis rhwng bywyd a marwolaeth y ddwy Amy. Yn flaenorol, roedd gan Amy dewid rhwng y Doctor a Rory. (TV: Amy's Choice) Yn hwyrach, byddai Rory ac Amy yn gwneud yr un math o ddewis gyda'i gilydd i drechu'r Angylion Wylo. (TV: The Angels Take Manhattan)
  • Mae Amy yn gwisgo sbectol y Doctor. Yn hwyrach, byddai optometrist Amy yn gadael neges iddi, (TV: The Power of Three) ac yn y pendraw, bydd gan Amy sbectol ddarllen ei hun, gyda hi'r rhoi nhw i'r Doctor wedyn. (TV: The Angels Take Manhattan)
  • Mae Rory yn pregethu at y Doctor i edrych mewn llyfr hanes i ddysgu am ddyfodol y llefydd mae'n teithio ati. Ond, gall y Doctor bod yn anfodlon i wneud hon gan mae'n gwybod bod hanes yn bwynt sefydlog unwaith mae'n cael ei ddarllen. (TV: The Angels Take Manhattan) Mae'r Doctor hefyd wedi ymweld â lleoliadau lle er mae'n ymwybodol o hanes lleoliad yr adeg honno, nid yw'n ymwybodol o beth achosodd digwyddiad i ddigwydd a sut mae modd newid amser i ddyfodol erchyll. (TV: The Fires of Pompeii, The Unicorn and the Wasp, The Waters of Mars)
  • Yn union fel Rory, roedd gan gydymaith wrywaidd arall, Steven Taylor, tuedd i Anne Chaplet, menyw a fyddai'n cael ei lladd yn ei hamgylchfyd cyfredol, a roedd Steven am ei hachub. Ond nid oedd modd i'r Doctor Cyntaf newid y digwyddiad hanesyddol heb ganlyniadau enfawr, ac felly dywedodd ef gelwydd tuag at ei gydymaith a'r ferch er mwyn eu twyllo i feddwl allai ei hachub. Yn y pendraw, gorfodwyd y Doctor i adael Chaplet i'w thynged yn union fel yr hen Amy, ac o ganlyniad roedd Steven mor crac ag oedd Rory. (TV: The Massacre)
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Rory bydd ef yn marw os gaiff ef Chen-7, a nad oedd ganddo adfywiau pellach. Ymhellach yn ei fywyd, byddai'r Doctor yn cyfaddef mai hyn oherwydd defnyddiodd ef ei adfywiau cyfan yn barod ac felly nid oes modd iddo adfywio pellach. (TV: The Day of the Doctor)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhawyd yr episôd yma, yngyd gweddill ail hanner cyfres 6, ar DVD a Blu-ray ar 10 Hydref 2011.

Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd yma gyda chyfres 6 cyfan ar DVD a Blu-ray ar 21 Tachwedd 2011.

Troednodau[]