The King's Demons oedd chweched stori a stori olaf Hen Gyfres 20 Doctor Who.
Cyflwynodd y stori yma Kamelion, cydymaith di-ddynolffurf cyntaf y Doctor ers K9. A hefyd dyma ymddangosiad cyntaf Vislor Turlough lle nad yw ef o dan dylanwad y Gwarchod Du, ac felly yn gydymaith ac yn gefnogwr uniongyrchol o'r Pumed Doctor. Yn ychwanegol, mae'r stori yma yn canolbwyntio ar ffigwr hanesyddol a digwyddiad hanesyddol - sef Brenin John ac arwyddiad y Magna Carta - rhywbeth nad oedd wedi'i ei weld ers gadawodd William Hartnell y sioe.
Rhodd y stori cyfle i Peter Davison arddangos ei sgiliau cleddyfa. O ganlyniad, y Pumed Doctor oedd trydydd ymgorfforiad olynol y Doctor i ddangos ei abl gyda chleddyf, gyda'i drydydd a phedwerydd ymgorfforiadau wedi brwydro gyda chlefyddau yn flaenorol yn The Sea Devils, The Masque of Mandragora, a The Androids of Tara. Yn wir, mewn modd hawliodd Demons cyfle i'r Doctor a'r Meistr, gan adlewyrchu'r frwydr cynharach rhwng y Trydydd Doctor a'r Meistr. Dyma'r stori deledu olaf i gynnwys y Doctor fel cleddyfwr nes cyflwyniad David Tennant yn 2005.
O ran naratif y stori, mae'r stori yn gorffen gyda diweddglo-clogwyn "un ffordd, yn ôl" rhyfeddol. Mae'r diweddglo-clogwyn i'w weld yn unig os gwelwyd The Five Doctors union yn dilyn Demons. Ar ddiwedd y stori yma, mae'r Doctor yn addo tywys ei gymdeithion i Lygad Orion. Oherwydd mae'r Doctor yn aml yn addo sawl antur arall ar ddiwedd storïau nid yw hon i'w weld o'i le. Ond wrth wylio The Five Doctors, mae'r gwylwyr yn gweld cyflawnodd y Doctor ei addewid wrth y stori flaenorol. Efallai'n fwy bwysig yw sut cafodd y Meistr ei alw nôl i Galiffrei yn union dilyn ei drechiad yn yr 13eg ganrif gan y Pumed Doctor; ffaith sydd yn gallu newid safbwynt gwylwyr o olygfeydd penodol yn The Five Doctors os yn adnabyddus.
Am flynyddoedd, roedd y ffaith yma'n amlwg iawn ar gyfryngau cartref, achos gorfodwyd gwylwyr fideo cartref i brynu copi VHS o The Five Doctors, gan roedd y ddwy stori wedi'u pacedi ynghyd. Yn dilyn rhyddhad 2010 unigol y stori yma ar DVD, roedd fwy o gyfle i'r diweddglo-clogwyn cael ei anwybyddu gan wylwyr.
Yn ddiolch i gyfartaleddau gwylio erchyll y stori gyfan yma, dyma stori'r Pumed Doctor gyda'r nifer lleiaf o wylwyr. Yn ddiddorol, mae'n cyferbynu gyda'r stori dwy ran diwethaf, Black Orchid, sef stori Davison gyda'r nifer mwyaf o wylwyr. (CYF: The Fifth Doctor Handbook)
Crynodeb[]
Lloegr, Mawrth 1215. Mae'r Brenin John yn ymweld â chastell Syr Ranulph Fitzwilliam. Mae cyrhaeddiad y TARDIS yn ymyrru ar dylt canoloesol, ond mae'r Doctor a'i gymdeithion yn cael eu cyhoeddi'n gythreuliaid tosturiog gan y Brenin, ac mae ganddo diddordeb mawr yn eu "hinjan glas". Yn fuan, mae'n dod yn eglir nad yw'r Brenin John, na'i gampwr, Syr Gilles Estram, yn dweud y gwir am eu hunaniaeth. Mae un o elynion hynaf a mwyaf anfarwol y Doctor yn fygwyth dyfodol democratiaeth ar y Ddaear, ac mae rhaid iddo gael ei rwystro!
Plot[]
Rhan un[]
I'w hychwanegu.
Rhan dau[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Peter Davison
- Tegan Jovanka - Janet Fielding
- Turlough - Mark Strickson
- Y Meistr - Anthony Ainley
- Y Brenin / Llais Kamelion - Gerald Flood
- Ranulf - Frank Windsor
- Isabella - Isla Blair
- Hugh - Christopher Villiers
- Syr Geoffrey - Michael J. Jackson
- Ffôl - Peter Burroughs
Cast di-glod[]
|
|
|
Criw[]
- Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Sue Hedden
- Gwisgoedd - Colin Lavers
- Dylunydd - Ken Ledsham
- Trefnydd brwydrau - John Waller
- Dyn camera ffilm - Remi Adefarasin
- Golygydd ffilm - Mike Robotham
- Sain ffilm - Simon Wilson
- Cerddoriaeth achlysurol - Jonathan Gibbs, Peter Howell
- Chwaraeydd Liwt - Jakob Lindberg
- Colur - Elizabeth Rowell
- Cynhyrchydd - John Nathan-Turner
- Cynorthwyydd cynhyrchu - Sue Upton
- Cynhyrchydd cyswllt - June Collins
- Rheolwr cynhyrchu - Jeremy Silberton
- Golygydd sgript - Eric Saward
- Hŷn dyn camera - Alec Wheal
- Sain arbennig - Dick Mills
- Goleuo stiwdio - Peter Smee
- Sain stiwdio - Martin Ridout
- Rheolydd technegol - Tony Troughton
- Trefniant thema - Peter Howell
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
- Dilyniant thema - Sid Sutton
- Effeithiau fideo - Dave Chapman
- Golygydd fideo - Ron Waldron
- Cymysgydd lluniau - Nigel Finnis
- Dylunydd effeithiau gweledol - Tony Harding
- Awdur - Terence Dudley
Cyfeiriadau[]
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Mae Tegan yn tybio mae'r Diafol yw'r Brenin. Mae'r Uffern yn cael ei sôn am.
- Mae Crist yn cael ei sôn am yn siant Kamelion ar y Croesgadau.
Unigolion[]
- Defnyddiodd y Meistr Kamelion, offeryn goresgynwyr cynharach Xeriphas, i ddianc wrth y blaned ac i ddynwared y Brenni John.
Lleoliadau[]
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Tegan am Lygad Orion.
Cerddoriaeth[]
- Mae Kamelion yn chwarae liwt.
Pwerau seicig[]
- Mae gan Kamelion ewyllus unigol, ond mae modd i ei reoli'n seicocinetigol.
Arfau[]
- Mae Gwaredydd Cywasgedd Cnodwe yn cael ei gyfeirio ato fel "cywasgydd" ar sawl adeg.
- Mae sawl cymeriad yn cael eu bygwth gan "iron maiden", sydd mewn gwirionedd yn cuddwisg ar gyfer TARDIS y Meistr.
Nodiadau[]
- Roedd gan y stori yma sawl teitl gwithredol, gan gynnwys The Android, The Demons, A Knight's Tale a Demons Keeper. (Mae'r teitl Demons Keeper yn ymddangos ar rai lluniau hysbysol.)
- Dyma'r stori gyntaf i gynnwys Meistr Anthony Ainley i beidio cynnwys Adric na Nyssa.
- Hysbyswyd rhan un gan y BBC fel 600fed episôd Doctor Who.
- Er mwyn cuddio dychweliad y Meistr, cafodd John Nathan-Turner i Radio Times credydu rôl Syr Gilles Estram (gydag Estram yn anagram o "Master") fel cael ei chwarae gan "James Stoker" - sef anagram o "Master's Joke".
- Mae modd gweld un o bropiau canolog y stori, sef guddwisg TARDIS y Meistr fel iron maiden, yn siambr Edmund yn ail episôd The Black Adder ("Born to be King")
- Mae'r stori yma yn dynodi cyflwyniad cydymaith byr-dymor newydd o'r enw Kamelion - mewn gwirionedd, robot animeiddedig wedi'i reoli gan gyfrifiaduron, wedi'i actifadu gan sain a gafodd ei greu gan ddylunudd meddalwedd Mike Power ac arbenigwr caledwedd cyfrifiaduron Chris Padmore wrth CP Cybernetics.
- Oan ddanfonodd swyddfa cynhyrchu Doctor Who gwybodaeth credydau'r stori i Radio Times, mae'n ymddangos cafodd cymeriad y "Chwaraewr Liwt" am Jakob Lindberg ei gam-ystyried fel cymeriad go iawn, gan gyhoeddwyd y rhestriadau - gyda rhan un yn rhestru'r criw, a rhan dau'r cast - yn credydu Lindberg yn rhan o'r cast yn lle'r criw. Serch hynny, mae Lindberg yn ymddangos ar sgrîn yn rhan un yn chwarae'r liwt.
- Er yn cael ei ychwanegu i dîm y TARDIS ar ddiwedd rhan dau, mae Kamelion yn diflannu o'r gyfres nes ei ymddangosiad olaf yn TV: Planet of Fire. Er cafodd golygfa yn cynnwys Kamelion ei ffilmio ar gyfer rhan un TV: The Awakening, roedd rhaid ei dorri o ganlyniad i gyfyngiadau amser.
- Dyma un o llond llaw o storïau rhediad gwreiddiol Doctor Who i gynnwys cân gwreiddiol - yn yr achos yma, "The King's Song" gan Peter Howell.
- Yn rhyfeddol, cafodd gerddoriaeth achlysurol y stori yma gan ddau gyfarwyddwr. Yn gwreiddiol byddai Peter Howell wedi cyfansoddi popeth, ond roedd ymrwymiadau eraill wedi achosi iddo ond cyflawni cerddoriaeth y liwt. O ganlyniad, cyfansoddodd Jonathan Gibbs gweddill y cerddoriaeth. (CYF: The Fifth Doctor Handbook)
- Gyda threfniant gan John Waller, ni pherfformiwyd y brwydr cleddyfau rhwng y Doctor a'r Meistr gan berfformwyr stỳnt - Peter Davison ac Anthony Ainley wnaeth popeth. (CYF: The Fifth Doctor)
- Ailddarlledwyd y stori yma ar wythnosau olynol ar 6 Gorffennaf a 13 Gorffennaf 1984. Cyfeiliwyd rhestriad Radio Times gan lun du a gwyn o Kamelion yn chwarae liwt, a llun du a gwyn o wyneb y Meistr.
- Ystyriwyd Joss Ackland, George Baker, Ian Bannen, Brian Blessed, James Ellis, Julian Glover, Michael Jayston, Peter Jeffrey, Dinsdale Landen, Alfred Lynch, T.P. McKenna, Clifford Rose, Peter Vaughan ac Edward Woodward at gyfer rôl Syr Ranulf Fitzwilliam.
- Ystyriwyd Elanor Bron ar gyfer Isabella.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Rhan un - 5.8 miliwn
- Rhan dau - 7.2 miliwn
Cysylltiadau[]
- I ddechrau, mae Tegan yn pryderu'n cyrhaeddodd y TARDIS Lloegr yn y 13eg ganrif o achos trap gan y Gwarchod Du i ad-dalu am ymyrraeth y Doctor yn TV: Enlightenment.
- Yn olygfa olaf TARDIS y stori, mae'r Doctor yn cyflwyno Tegan i Kamelion. Mae'n honni bod stori Kamelion "yn ymddangos i ddechrau ar Xeriphas" a mi fyddai'n "gorffen gyda'r Meistr". Mae hon yn cysylltu'n lân gyda'r storïau teledu eraill sydd yn ymwneud â Kamelion: gyda chyflwyniad y planed lle mae'n cael ei ffeindio (TV: Time-Flight) a'i dinistriad hwyrach. (TV: Planet of Fire)
- Mae'r Doctor yn gadarnhau ei sgiliau fel cleddyfwr, gan ddangos sgiliau gyda chleddyf yn ei drydydd (TV: The Sea Devils, The Time Warriors) a'i bedwerydd ymgorfforiadau. (TV: The Masque of Mandragora, The Androids of Tara) Yn ychwanegol, dyma'r ail frwydr cleddyfau rhwng y Doctor a'r Meistr, er i'r Doctor gwisgo cuddwisg yn y frwydr yma. Yn union fel yn y frwydr cyntaf, (TV: The Sea Devils) mae'r Doctor yn danos abl gwell. Bydd ei ablau yn cael eu harddangos unwaith eto yn eu degfed, (TV: The Christmas Invasion) deuddegfed, (TV: Robot of Sherwood) a'u trydydd ar ddegfed ymgorfforiadau; (TV: Legend of the Sea Devils) er i'r Deuddegfed Doctor brwydro gan ddefnyddio llwy yn lle cleddyf.
- Mae'r stori yma (ac felly'r gyfres) yn gorffen ar diweddglo-clogwyn bach, er mae'n debyg na fyddai gwylwyr wedi meddwl am y diwedd yn y modd honno. Yn union fel y cysylltiad rhwng TV: Invasion of the Dinosaurs a Death to the Daleks, gyda'r Doctor yn cynnig mynd i weld un o "rhyfeddodau" y bydysawd, sydd yn cael ei cyfeirio ato yn y stori olynol. Yn wahanol i addewid cynharach y Trydydd Doctor i fynd â Sarah Jane Smith i Florana, mae addewid y Pumed Doctor i Tegan a Turlough yn cael ei chyflawni. Mae'n cynnig mynd i Lygad Orion, sef gosodiad gwreiddiol The Five Doctors.
- Mae'n debyg roedd yna Syr Gilles Estram go iawn, gyda'r Meistr wedi ei ladd er mwyn ei ddynwared. Yn PRÔS: Sanctuary, wedi'i osod yn 1242, mae'r Doctor yn cwrdd ag un o ddisgyblion y Syr Gilles go iawn, gyda'i wir dynged yn anhysbys.
- Yn flaenorol, cwrddodd y Doctor Cyntaf â brawd a chwaer hŷn John, sef Rhisiard Llewgalon a Thywysoges Joanna ym Mhalesteina yn ystod y Trydydd Croesgad. Cafodd Ian Chesterton ei urddo'n farchog yr adeg honno gan y Brenin Rhisiart. (TV: The Crusade)
- Mae'r Doctor yn cael ei urddo'n farchog yma, er nid gan y Brenin John go iawn. Yn hwyrach, mae'n cael ei urddo'n farchog gan y Frenhines Fictoria. (TV: Tooth and Claw)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori yma ar DVD ar 14 Mehefin 2010 yn y DU yn rhan o'r set bocs Kamelion Tales, ynghyd y stori Planet of Fire, ac fel rhyddhad unigol yn America ar 7 Medi 2010.
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Peter Davison, Isla Blair ac Eric Saward
- Sylwebaeth sain eiledol gan Tony Virgo (episôd un yn unig)
- Trac sain ynysol
- Kamelion - Metal Man, edrychiad ar grëad a defnydd Kamelion yn Hen Gyfresi 20 a 21, gan gynnwys Peter Davison, Nicola Bryant, Eric Saward a Chris Padmore
- Magna Carta, rhaglen dogfen ffeithiol ag edrychodd ar bwysigrwydd y Magna Carta i ddeddfyddiaeth y gorllewin
- "Yn dod yn fuan" - trelar ar gyfer The Dominators
- Rhestrau Radio Times
- Isdeitlau cynhyrchu
- Oriel
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd The King's Demons ar fideo gan BBC Worldwide yn Nhachwedd 1995 yn rhan o set bocs gyda The Five Doctors.
Troednodau[]
|