Astrofioleg
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, cangen o fywydeg, arbenigedd, maes astudiaeth |
---|---|
Math | bywydeg, seryddiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Astrofioleg yw'r astudiaeth o fywyd yn y gofod sy'n cyfuno elfennau o seryddiaeth, bioleg a daeareg yn ei disgyblaeth. Ei phrif ganolbwynt yw astudio tarddiad, dosraniad ac esblygiad bywyd. Daw'r enw o'r geiriau Groeg αστρον (astron 'seren'), βιος (bios 'bywyd') a λογος (logos 'gair/gwyddoniaeth); enwau arall arni yw allfioleg (exobiology) neu estronfioleg (xenobiology).
Mae meysydd pwysicaf astrofioleg yn cynnwys:
- Beth ydy bywyd?
- Sut dechreuodd bywyd ar y Ddaear?
- Pa fath o amgylcheddau sy'n addas i fywyd?
- Sut medrwn ni ddarganfod os oes bywyd ar blanedau eraill? Pa mor aml ydyw'r bywyd hwnnw'n 'gymhleth' (h.y. esblygiedig)?
- Pa ffurfiau fydd i fywyd ar blanedau eraill?
Ymchwil am fywyd yn y gofod
[golygu | golygu cod]Ym Medi 2015 cyhoeddodd NASA fod un o'u cerbydau gofod, Curiosity, wedi darganfod olion dŵr ar ochrau un o geudyllau Mawrth, sef Gale. Ceir cafnau ar ochr y ceudwll (sy'n 154 km (96 mill) mewn diameter sy'n debyg i greithiau a adewir pan fo dŵr wedi llifo.[1][2] eisoes yn Rhagfyr 2012, roedd gwyddonwyr wedi cyhoeddi fod dadansoddiad o bridd y blaned a analeiddiwyd gan Curiosity wedi awgrymu'r posibilrwydd y bu yno ddŵr ar un cyfnod, gan y canfuwyd yno foleciwlau dŵr, swlffwr, clorin a chyfansoddion organig. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd, ac yn un o'r pethau pwysicaf mae gwyddonwyr y gofod yn chwilio amdano.
Y pedwar lle mwyaf tebygol o fod a dŵr arnynyt yw Y Blaned Mawrth, Titan (un o leuadau Sadwrn), Ewropa (un o leuadau Iau) ac Enceladus (lleuad arall Sadwrn). Yn y tabl canlynol, edrychir ar y tebygolrwydd; nodir hefyd, er mwy eu cymharu - y Ddaear a'n lleuad:
Testun y pennawd | Planed Daear | Y Lleuad | Y Blaned Mawrth | Titan
(un o leuadau Sadwrn) |
! Europa
(un o leuadau Iau) |
! Enceladus
(un o leuadau Sadwrn) |
---|---|---|---|---|---|---|
Pellter o'r Ddaear (Mewn cilometrau) |
356,400 | 54 miliwn | 1.2 biliwn | 628 miliwn | 1.2 biliwn | |
Diametr (Mewn milltiroedd) |
7,918 | 2,159 | 4,212 | 1,950 | 3,200 | 313 |
Posibilrwydd | Dim | Posibilrwydd cryf iawn fod dŵr
o dan wyneb y blaned |
Posibilrwydd cryf fod dŵr o dan wyneb y blaned | Posibilrwydd cryf iawn | Posibilrwydd cryf | |
Ymweliadau | Na | Yn 2015 roedd 5 lloeren yn ei amgylchynu a dau robot yn
crwydro'i wyneb |
TiME (NASA) | *US Europa (NASA) *European Juice (Ewrop) |
*2030 Life Finder |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Astroffiseg
- Panspermia
- Philae - cerbyd gofod a laniodd ar y comed 67P/Churyumov–Gerasimenko
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brown, Dwayne; Cole, Steve; Webster, Guy; Agle, D.C. (27 Medi 2012). "NASA Rover Finds Old Streambed On Martian Surface". NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-13. Cyrchwyd 28 Medi 2012.
- ↑ NASA (27 Medi 2012). "NASA's Curiosity Rover Finds Old Streambed on Mars - video (51:40)". NASAtelevision. Cyrchwyd 28 Medi 2012.