Amgylchedd
Math | amgylchedd, gwrthrych ffisio-ddaearyddol |
---|---|
Yn cynnwys | coedwig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Amgylchedd | |
Tywydd Newid hinsawdd
Cynhesu byd eang |
Mae'r term amgylchedd yn cyfeirio at y pethau byw a difywyd i gyd sy'n bodoli yn naturiol ar y ddaear neu ar ran ohoni (e.e. yr amgylchedd naturiol mewn gwlad). Mae'r term yn cynnwys dwy gydran allweddol:
- Unedau cyflawn tirweddol sy'n gweithio fel systemau naturiol heb ymyriad sylweddol gan fodau dynol, gan gynnwys planhigion, anifeiliaid, creigiau ac ati, yn ogystal â'r ffenomenau naturiol sy'n digwydd y tu mewn i'w ffiniau.
- Adnoddau naturiol cyffredinol a ffenomenau corfforol sydd heb ffiniau clir, megis awyr, dŵr a hinsawdd, yn ogystal ag ynni, ymbelydredd, gwefr trydanol a magnetedd, nad ydynt yn tarddu o weithgaredd dynol.
Gellir cyferbynnu'r amgylchedd naturiol â'r amgylchedd adeiledig, sy'n cynnwys yr ardaloedd a chydrannau y dylanwadir yn drwm arnynt gan fodau dynol. Ystyrir ardal ddaearyddol i fod yn amgylchedd naturiol os ydy'r effaith ddynol wedi ei chadw dan lefel gyfyngedig. Mae'r lefel hon yn dibynnu ar y cyd-destun penodol, felly mae'n newid yn ôl yr ardal a'r cyd-destun. Y term anial, ar y llaw arall, sy'n cyfeirio at ardaloedd sydd heb ymyriad gan fodau dynol o gwbl (neu sydd ag ychydig iawn o ymyriad).
Y Byd Bregus
[golygu | golygu cod]Yn ystod y blynyddoedd dwethaf, mae gwyddonwyr wedi taflu golau ar rai materion amgylcheddol sy'n achosi pryder. Rydym oll yn gyfarwydd â'r materion amgylcheddol hyn megis cynhesu byd eang a haen yr oson sy'n cael eu harddangos yn y cyfryngau yn aml. Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am y problemau, y gwyddoniaeth ynghylch y problemau a hefyd y datrysiadau.