Hinsawdd
Yr Amgylchedd | |
![]() | |
Tywydd Newid hinsawdd
Cynhesu byd eang |
Hinsawdd yw cyflwr y tywydd mewn ardal dros gyfnod o amser. Cyflwr tymor hir o dywydd rhagweladwy yw hinsawdd. Mae hinsawdd yn cael ei heffeithio gan nodweddion ffisegol y ddaear megis mynyddoedd, afonydd, lledred, diffeithdiroedd a diwasgeddau.
Dosbarthiadau hinsawdd
[golygu | golygu cod]Dosberthir hinsawdd y byd i bum prif gategori:


Pegynnol
Mae'r rhanbarthau yma yn oer iawn trwy gydol y flwyddyn. Mae'r tymheredd cynhesaf yn llai na 10C.


Tymherus
Ardaloedd sy'n dueddol o orwedd rhwng 23.5 a 66.0 lledred. Ardaloedd lle bo'r mis oeraf llai na 18 °C ac yn fwy na -3 °C a lle bo'r mis cynhesaf yn fwy na 10 °C. Mae rhan fwyaf o Orllewin Ewrop yn yr ardal tymherus. Gweler Hinsawdd Cymru.
Cras
Dyma'r ardaloedd sych lle mae'r anweddiad yn uwch na'r dyddodiad. Mae'r ardaloedd hyn ymhell o'r môr a gall y tymheredd amrywio llawer.
Trofannol
Mae'r tymheredd yn uchel trwy gydol y flwyddyn yn yr ardaloedd hyn. Mae ganddynt 2 dymor; gwlyb a sych.
Y Môr Canoldir
Mae'r hinsawdd hon yn gynnes ac yn sych yn yr haf ac yn oer ac yn wlyb yn y gaeaf.
Ffactorau sy'n effeithio a'r hinsawdd
[golygu | golygu cod]Lledred
[golygu | golygu cod]Mae lledred yn cael ei benderfynu gan ein pellter oddi wrth y gyhydedd. Lledred y gyhydedd yw 0 gradd.
Dylanwad morol
[golygu | golygu cod]
Ym Mhrydain, mae'r môr yn effeithio'r tymheredd:
- Yn y gaeaf mae'r môr yn araf i oeri ac felly mae'r lleoedd arfordirol yn gynhesach ac yn llaith.
- Yn yr haf mae'r môr yn araf i dwymo ac felly mae'r ardaloedd arfordirol yn oerach na'r ardaloedd bellach o'r môr.
- Mae yna lai o amrediad i dymereddau ardaloedd arfordirol nag o dymereddau ardaloedd bellach o'r môr.
Uchder
[golygu | golygu cod]Ymhob 165m uwchben lefel y môr, mae'r tymheredd yn gostwng 1 °C oherwydd mae tir uchel yn colli mwy o wres na thir isel.
Agwedd
[golygu | golygu cod]Mae agwedd yn cyfeirio at y ffordd y mae tir yn wynebu'r haul. Yn hemisffer y gogledd, mae llethrau serth sydd yn wynebu'r dde (agwedd ddeheuol) yn gweld mwy o'r haul na'r llethrau sydd yn wynebu'r gogledd (agwedd ogleddol) ac felly maent yn gynhesach.
Gweler Hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peel, M. C. and Finlayson, B. L. and McMahon, T. A. (2007). "Updated world map of the Köppen–Geiger climate classification". Hydrol. Earth Syst. Sci. 11: 1633–1644. doi:10.5194/hess-11-1633-2007. ISSN 1027-5606. http://www.hydrol-earth-syst-sci.net/11/1633/2007/hess-11-1633-2007.html. (direct: Final Revised Paper)