Planhigyn
Planhigion | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukaryota |
Ddim wedi'i restru: | Archaeplastida |
Teyrnas: | Plantae Haeckel, 1866 |
Rhaniadau/Ffyla | |
|
Grŵp o bethau byw yw planhigion. Ceir tua 300,000 o rywogaethau, gan gynnwys coed, blodau, glaswelltau, rhedyn, mwsoglau a rhai grwpiau o algâu. Astudiaeth planhigion yw botaneg. Organebau amlgellog (ac eithrio rhai o'r algâu) ac ewcaryotig yw planhigion. Maent i gyd yn creu bwyd eu hun drwy ffotosynthesis gan ddefnyddio cloroffyl.
Tacsonomeg
[golygu | golygu cod]Dosberthir planhigion yn y deyrnas Plantae. Mae'r deyrnas hon yn cynnwys y planhigion tir (Embryophyta) ac, yn aml, mae'n cynnwys yr algâu gwyrdd (Chlorophyta a Charophyta) hefyd. Weithiau, mae'r algâu coch (Rhodophyta) a'r glawcoffytau (Glaucophyta) yn cael eu cynnwys tu fewn i'r deyrnas. Dosbarthwyd grwpiau eraill o algâu, ffyngau a bacteria fel planhigion yn y gorffennol ond fe'u dosberthir mewn teyrnasoedd gwahanol bellach.
Strwythur planhigion
[golygu | golygu cod]Celloedd planhigion
[golygu | golygu cod]Fel arfer, mae gan gelloedd planhigion gloroplastau, gwagolyn fawr a chellfur sy'n cynnwys seliwlos.