1859 yng Nghymru
Gwedd
Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd arbennig y flwyddyn 1859 i Gymru a'i phobl.
Deiliaid
[golygu | golygu cod]- Tywysog Cymru - Albert Edward
- Tywysoges Cymru - yn wag
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Ionawr - Y Brython yn newid o gyhoeddiad wythnosol i fisol.
- Chwefror - Ras gyntaf ar gae rasio Bangor-is-y-coed
- 1 Ebrill - Agor Rheilffordd Corris.
- 5 Ebrill - Lleddir 27 o ddynion gan lifogydd ym mhwll glo'r Cadwyn Castell-nedd.
- 31 Mai - etholiad cyffredinol y DU. Dyma'r etholiad cyffredinol diwethaf lle fu cyfran bleidlais y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn fwy na'r hyn a chafwyd yn Lloegr.
- 29 Mehefin - Benjamin Hall yn cael ei godi i'r bendefigaeth fel Barwn 1af Llanofer.
- 15 Hydref - 17 Hydref - y Frenhines Victoria yn aros yng Nghastell Penrhyn.
- 25 Hydref - 26 Hydref - ' Storm Fawr 1859 ':
- Dryllio'r Royal Charter oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Ynys Môn, gyda cholled amcan-gyfrifedig o tua 459 o fywydau, y golled fwyaf mewn unrhyw ddamwain forol yn nyfroedd Cymru.[1]
- Dinistrio Eglwys Sant Brynach, Cwm yr Eglwys.
- Y flwyddyn uchaf ar gyfer cynhyrchu copr yng Nghymru.
- Mae cam olaf Doc East Bute, Caerdydd, wedi'i gwblhau a'i agor.[2]
- Uno Yr Amserau a Baner Cymru.
- Adfywiad crefyddol dan arweiniad Humphrey Jones.
- Mae mudiad y Gymanfa Ganu yn cael ei lansio yn Aberdâr.[3]
- Mae Syr Charles Morgan, 3ydd Barwnig, yn cael ei greu yn Farwn Tredegar.[4]
Celfyddydau a llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwobrau
[golygu | golygu cod]- Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) yn ennill y gadair yn eisteddfod Merthyr Tudful.
Llyfrau newydd
[golygu | golygu cod]- Hugh Hughes (Tegai) - Y Drydedd Oruchwyliaeth [5]
- Nathaniel Jones - Fy Awenydd
- Richard Parry (Gwalchmai) - Adgofion am John Elias[6]
- Thomas Stephens & Gweirydd ap Rhys - Orgraff yr Iaith Gymraeg
- William Thomas (Gwilym Marles) - Prydyddiaeth
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]- John Roberts (Ieuan Gwyllt) - Llyfr Tonau Cynulleidfaol[7]
- Thomas Thomas - History of the Harp
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- 11 Ionawr - Sir Joseph Alfred Bradney, hanesydd (bu farw 1933)[8]
- 29 Ionawr - Syr George Lockwood Morris, diwydiannwr a chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu farw 1947)[9]
- 7 Chwefror - Frank Hancock, Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru (bu farw 1943)
- 16 Chwefror - Thomas Edward Ellis, gwleidydd (bu farw 1899)
- 18 Ebrill - Syr Evan Davies Jones, Barwnig 1af, peiriannydd sifil (bu farw 1949)
- (bedydd) 27 Ebrill - Lillie Goodisson arloeswr ym maes iechyd gwenerol a chynllunio teulu yn Ne Cymru Newydd (bu farw 1949)[10]
- 4 Mai - Syr Samuel Thomas Evans, Gwleidydd a barnwr (bu farw 1918)
- 22 Mai - Jonathan Ceredig Davies, awdur llyfrau taith (bu farw 1932)
- 27 Mai - Dan Davies (Alaw Glan Morlais), arweinydd côr (bu farw 1930) [11]
- 17 Gorffennaf - Ernest Rhys, awdur (bu farw 1946)
- 11 Hydref - Aneurin Williams, gwleidydd (bu farw 1924)
- 5 Rhagfyr - Edward John Lewis, Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru (bu farw 1925)
- 7 Rhagfyr - Leonard Watkins, Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru (bu farw 1901)
- 25 Rhagfyr - John Goulstone Lewis, Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru (bu farw 1935)
- Rhagfyr - Richard Bell, gwleidydd (bu farw 1930)
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- 19 Ionawr - Charles Vachell, henadur a chyn maer Caerdydd, 75.
- 19 Ebrill - Christopher Bethell, Esgob Bangor, 85? [12]
- 21 Mehefin - John Bowen, Esgob Sierra Leone, 43 (twymyn felen)
- 8 Gorffennaf - John Thomas (Siôn Wyn o Eifion), bardd, 78 [13]
- 10 Medi - Syr John Hay Williams, tirfeddiannwr, 65
- 24 Medi - Joseph Murray Ince, paentiwr, 53
- Hydref - Evan Jones (Ifan y Gorlan), telynor
- 1 Tachwedd - John Williams, naturiaethwr (g. 1801) [14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Carradice, Phil. "The great storm of 1859". BBC Wales. Cyrchwyd 10 April 2019.
- ↑ "Bute East Dock, Cardiff". Coflein. Cyrchwyd 10 April 2019.
- ↑ Gareth Williams (1998). Valleys of Song: Music and Society in Wales 1840-1914. University of Wales Press. tt. 38–39. ISBN 978-0-7083-1480-7.
- ↑ Thomas Nicholas (1872). Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales: Containing a Record of All Ranks of the Gentry... with Many Ancient Pedigrees and Memorials of Old and Extinct Families. Longmans, Green, Reader. t. 785.
- ↑ "Hughes, Hugh [pseud. Tegai] (1805–1864), poet and Congregational minister". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/14074. Cyrchwyd 2020-11-23.
- ↑ Harvard University Library (1970). Celtic literatures: classification schedule, classified listing by call number, chronological listing, author and title listing. Distributed by the Harvard University Press. t. 78.
- ↑ Geraint H. Jenkins (2007). A Concise History of Wales. Cambridge University Press. t. 209. ISBN 978-0-521-82367-8.
- ↑ Arthur Charles Fox-Davies (1910). Armorial Families: A Directory of Gentlemen of Coat-armour. T.C. & E.C. Jack. t. 178.
- ↑ Who was who: a companion to Who's who : containing the biographies of those who died during the period. A. & C. Black. 1967. t. 816.
- ↑ Foley, Meredith (1983). Meredith Foley, 'Goodisson, Lillie Elizabeth (1860–1947)', Australian Dictionary of Biography. 9. National Centre of Biography, Australian National University.
- ↑ "Davies, Daniel [Dan] (1859-1930), choral conductor". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/101146. Cyrchwyd 2020-11-22.
- ↑ Joseph Haydn (1866). Haydn's Dictionary of Dates Relating to All Ages and Nations: For Universal Reference. E. Moxon and Company. t. 76.
- ↑ Roberts, G. T., (1953). THOMAS, JOHN (‘Siôn Wyn o Eifion’; 1786 - 1859), bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 1 Awst 2019
- ↑ "WILLIAMS, JOHN (1801 - 1859), meddyg a naturiaethwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-12.
1800au: 1800 1801 1802 1803 1804 1805 1806 1807 1808 1809 - 1810au: 1810 1811 1812 1813 1814 1815 1816 1817 1818 1819 - 1820au: 1820 1821 1822 1823 1824 1825 1826 1827 1828 1829 - 1830au: 1830 1831 1832 1833 1834 1835 1836 1837 1838 1839 - 1840au: 1840 1841 1842 1843 1844 1845 1846 1847 1848 1849 - 1850au: 1850 1851 1852 1853 1854 1855 1856 1857 1858 1859 - 1860au: 1860 1861 1862 1863 1864 1865 1866 1867 1868 1869 - 1870au: 1870 1871 1872 1873 1874 1875 1876 1877 1878 1879 - 1880au: 1880 1881 1882 1883 1884 1885 1886 1887 1888 1889 - 1890au: 1890 1891 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899