Thiamin
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | thiazole alkaloid, thiamin |
Màs | 265.112 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₂h₁₇n₄os⁺ |
Clefydau i'w trin | Pelagra, wernicke encephalopathy, niwropatheg alcoholig, beriberi, clefyd metaboledd |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america a |
Rhan o | thiamine(1+) chloride, thiamine hydrochloride dihydrate, monophosphothiamine, thiamine(1+) diphosphate, thiamine binding, thiamine metabolic process, thiamine biosynthetic process, thiamine catabolic process, response to vitamin B1, cellular response to vitamin B1, thiamine salvage, thiamine diphosphokinase activity, thiamine kinase activity, ABC-type thiamine transporter activity, thiamine pyridinylase activity, thiaminase activity, thiamine oxidase activity, thiamine transmembrane transporter activity, thiamine phosphate phosphatase activity |
Yn cynnwys | carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fitamin o deulu fitamin B yw thiamin neu fitamin B1. Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Ei ffurf arferol yw fel cemegolyn di-liw gyda fformiwla gemegol o C12H17N4OS. Mae'r math hwn o thiamin yn hydoddi mewn dŵr, methanol a glyserol ond nid mewn aseton, ether, clorofform na bensen ('benzene'). Math arall o thiamin yw TTFD, sydd â nodweddion hydoddi hollol wahanol, ac yn perthyn i'r teulu hwnnw o fitaminau sy'n hydoddi mewn olew. Mae ganddo gylch pyramidin a chylch thiasol.
Yn y corff dynol, mae'n holl bwysig ar gyfer metabolism iach (o ran carbohydrad iach) ac ar gyfer y system nerfol. Gall diffyg thiamin arwain at beriberi gyda phroblemau gyda'r galon a'r nerfau yn amlygu eu hunain. Mae ychydig o ddiffyg thiamin yn rhoi symtomau megis colli pwysau, 'malaise' a dryswch.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]Mae ychydig bach o thiamin i'w ddarganfod mewn llawer iawn o fwydydd. Iau ('Afu') a burum ydy ffynhonnell bwysicaf y fitamin hwn. Dyma lefydd eraill:[1]
- Burum
- Ceirch
- Reis brown
- Blawd cyflawn (rhug neu ŷd)
- Asparagws
- Bresych
- Blodfresych
- Tatws
- Orenau
- Porc
- Ham
- Iau (mochyn neu gig eidion)
- Wyau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ G. F. Combs, The vitamins: fundamental aspects in nutrition and health (Boston: Elsevier, 3/2008)