Thebai
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 21,545, 21,929, 20,038, 22,883 |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Thiva, Commune of Thiva, Viotia |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 830 km² |
Uwch y môr | 215 metr, 180 metr |
Cyfesurynnau | 38.3208°N 23.3178°E |
Cod post | 32200 |
- Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler Thebes, Yr Aifft. Gweler hefyd Thebes.
Roedd Thebai ( hefyd Thebes; Hen Roeg: Θῆβαι — Thēbai) yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref fodern ar y safle yw Thiva (Groeg: Θήβα).
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Cadmos, mab brenin Sidon. Tua diwedd y 6g CC daeth Thebai i wrthdrawiad ag Athen am y tro cyntaf, pan gynorthwyodd yr Atheniaid ddinas lai Plataea yn eu herbyn. Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar y Groegiaid yn 480 CC, gyrroedd Thebai 700 o filwyr i ymladd ym Mrwydr Thermopylae dan Leonidas, ond roedd rhain yn ŵyr oedd yn gwrthwynebu polisi llywodraethwyr y ddinas. Ymunodd yr uchelwyr oedd mewn grym yn Thebai â Xerxes yn erbyn y Groegiaid eraill, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Plataea yn 479 CC. Cefnogodd Thebai Sparta yn erbyn Athen yn y Rhyfel Peloponnesaidd, ac yn 424 CC gorchfygasant Athen ym Mrwydr Delium.
Wedi buddugoliaeth Sparta yn y rhyfel, trôdd Thebai yn ei herbyn. Ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC enillodd Thebai dan Epaminondas fuddugoliaeth syfrdanol dros Sparta, a'i gwnaeth y ddinas fwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Daeth y cyfnod yma i ben pan laddwyd Epaminondas ym Mwydr Mantinea yn 362 CC.