Neidio i'r cynnwys

Sparta

Oddi ar Wicipedia
Sparta
Mathdinas hynafol, polis, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, safle archaeolegol Groeg yr Henfyd Edit this on Wikidata
PrifddinasSparta Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hen Roeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Sparta Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd1.182 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.0819°N 22.4236°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholGerousia, Ecclesia Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadcrefydd Groeg yr Henfyd Edit this on Wikidata

Roedd Sparta neu Sbarta (Hen Roeg Sparte Σπάρτη), neu Lacedaimon (Hen Roeg Lakedaimon Λακεδαιμων) yn ddinas-wladwriaeth yn hen wlad Groeg. "Sparta" oedd enw'r ddinas ei hun, a "Lacedaimon" neu "Laconia" enw y ddinas-wladwriaeth, ond yn aml defnyddir y ddau enw fel pe baent yn gyfystyr. Erbyn hyn mae Sparta yn enw y dref a saif gerllaw safle'r hen ddinas.

Tiriogaeth Lacedaimon yng Ngwlad Groeg

Saif Sparta ar benrhyn y Peloponesos, gerllaw Afon Eurotas. Sefydlwyd y ddinas ar ôl concwest Mesenia gan drigolion Laconia rhwng 730 CC. a 710 CC.. Doriaid oedd y trigolion yn y cyfnod hanesyddol. Tyfodd y ddinas yn raddol, yn enwedig ar ôl y newidiadau a gyflwynwyd gan Licurgus yn y 7c CC.. Amcan y newidiadau oedd cryfhau Sparta yn filwrol, ac ystyrid mai gan Sparta yr oedd y fyddin gryfaf o ddinas-wladwriaethau Groeg.

Ymhlith yr enwocaf o frwydrau Sparta mae Brwydr Thermopylae yn 480 CC., pan laddwyd 300 o Spartiaid dan eu brenin Leonidas, ynghyd â 700 o Thesbiaid, wrth amddiffyn bwlch Thermopylae yn erbyn byddin enfawr Ymerodraeth Persia dan y brenin Xerxes. Y flwyddyn ganlynol gorchfygwyd y Persiaid yn derfynol ym Mrwydr Platea gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad Pausanias, brenin Sparta.

Wedi gorfchfygu'r Persiaid, roedd grym cynyddol Athen yn bryder i'r Spartiaid a'u cyngheiriaid, yn enwedig Corinth. O ganlyniad dechreuodd Rhyfel y Peloponesos, a barhaodd am dros ugain mlynedd. Yn 404 CC. bu raid i Athen ildio i Sparta a'i cyngheiriaid, ac am gyfnod nid oedd amheuaeth nad Sparta oedd y grym pennaf yng Ngroeg.

Yn 371 CC. gorchfygwyd y Spartiaid ym Mrwydr Leuctra gan fyddin Thebes dan eu cadfridog Epaminondas. Yn dilyn y frwydr yma, collodd Sparta ei safle fel dinas-wladwriaeth gryfaf Groeg. Yn 188 CC ymosododd Philopoemen, cadfridog Cynghrair Achaia, ar Laconia, dinistrio'r mur oedd wedi ei adeiladu o amgylch Sparta, a diddymu cyfraith Sparta gan roi'r gyfraith Achaeaidd yn ei lle.

Yn 192 CC ymatebodd Cynghrair Achaia i ymgais Sparta i adennill tiriogaethau coll trwy yrru llysgenhadaeth i Weriniaeth Rhufain. Yr un pryd ymosododd byddin Achaiaidd dan Philopoemen a llynges dan Tiso ar Gythium. Llwyddodd y Spartiaid i orchfygu'r llynges, ac wedi brwydr yn erbyn byddin Sparta tu allan i Gythium gorfodwyd Philopoemen i encilio i Tegea. Roedd ail ymosodiad Philopoemen ar Sparta yn fwy llwyddiannus; gorchfygodd fyddin Nabis, tyrannos Sparta. Apeliodd Nabis i Gynghrair Aetolia am gymorth, ond pan gyrhaeddodd 1,000 o ŵyr meirch Aetolaidd dan Alexamenus, llofruddiwyd Nabis a meddiannwyd Sparta gan yr Aetoliaid. Llwyddodd pobl Sparta i'w gorfodi i encilio o'r ddinas, ond manteisiodd Philopoemen a'r fyddin Achaiaidd ar y cyfle i gipio Sparta, a'i gorfodi i ymuno â Chynghrair Achaia. Daeth y cynghrair yn feistr ar y cyfan o'r Peloponnesos, a rhoddwyd diwedd ar annibyniaeth Sparta.

Gweddillion hen ddinas Sparta