Sandy Griffiths
Sandy Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1909 Abertyleri |
Bu farw | 21 Ionawr 1974 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dyfarnwr pêl-droed y gymdeithas |
Chwaraeon |
Roedd Benjamin Mervyn "Sandy" Griffiths (17 Ionawr 1909 - 21 Ionawr 1974) yn ddyfarnwr pêl-droed Cymreig o Abertyleri. Yn ei fywyd pob dydd roedd yn athro.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei swydd gyntaf fel athro yn Nyfnaint cyn dychwelyd i Gymru i ddysgu yng Nghasnewydd. Dechreuodd ei yrfa fel dyfarnwr ym 1934. O fewn pum tymor fe'i penodwyd yn llumanwr yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr [1]. Wedi'r Ail Ryfel Byd dyfarnodd ei gêm ryngwladol gyntaf rhwng Lloegr a'r Alban ym 1949. Ym 1953 dyfarnodd gêm derfynol Cwpan yr FA (a adnabuwyd fel y Mathews Final ar y pryd). Dyfarnodd rownd derfynol Cwpan Cymdeithas Pêl Droed Cymru ar chwe achlysur.[2]
Cynrychiolodd Griffiths Gymru yng nghystadlaethau Cwpan y Byd fel dyfarnwr ym 1950, 1954 a 1958. Ym 1950 dyfarnodd y gêm agoriadol, ym 1954 bu'n dyfarnu yn y gêm gynderfynol rhwng Hwngari ac Wrwgwái bu hefyd yn ddyfarnwr cynorthwyol yn gêm derfynol rhwng Hwngari a Gorllewin yr Almaen. Ym munudau olaf y gêm gyda Gorllewin yr Almaen yn ennill 3-2, cododd ei luman i ddyfarnu bod Ferenc Puskás yn camsefyll wrth iddo ddanfon y bêl i'r rhwyd.[3]
Ef oedd y Cymro cyntaf i ddyfarnu gêm ryngwladol yn Wembley, a'r Cymro cyntaf i ddyfarnu rownd derfynol Cwpan yr FA a thrwy ei rôl fel dyfarnwr cynorthwyol yn gêm derfynol 1954 ef yw'r unig Gymro i ymddangos mewn ffeinal Cwpan y Byd (hyd yn hyn).
Ym 1958 cyhoeddodd hunangofiant The man in the Middle .[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ World Referee - referee - Mervyn Griffiths – bio[dolen farw] adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ 2.0 2.1 Refereeing Books: The Man in the Middle – Mervyn Griffiths Archifwyd 2018-11-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ Mervyn Griffiths The Welsh World Cup Ref Who Flagged Up A European Uprising adalwyd 24 Hydref 2018