Rhyfel Cartref Yemen (2015–presennol)
Mae Rhyfel Cartref Yemen yn wrthdaro a ddechreuodd yn 2015 rhwng dwy garfan: y llywodraeth sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, dan arweiniad Abdrabbuh Mansur Hadi, a mudiad arfog Houthi, ynghyd â'u cefnogwyr a'u cynghreiriaid. Mae'r ddwy garfan yn honni eu bod yn ffurfio llywodraeth swyddogol Yemen.[1] Mae lluoedd Houthi sy'n rheoli'r brifddinas Sanaʽa, ac sy'n gysylltiedig â lluoedd sy'n deyrngar i'r cyn-arlywydd Ali Abdullah Saleh, wedi gwrthdaro â lluoedd ffyddlon i lywodraeth Abdrabbuh Mansur Hadi, sydd wedi'u lleoli yn Aden . Mae Al-Qaeda ym Mhenrhyn Arabia a Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant hefyd wedi gweithredu ymosodiadau, gydag Al-Qaeda yn rheoli darnau o diriogaeth yn y cefnwlad, ac ar hyd rhannau o'r arfordir.[2]
Ar 21 Mawrth 2015, ar ôl cymryd rheolaeth o Sanaʽa a llywodraeth Yemen, cyhoeddodd Prif Bwyllgor y Chwyldro dan arweiniad Houthi eu bod yn cynnal ymgyrch i ddymchwel llywodraeth Hadi a sefydlu eu rheolaeth drwy yrru i mewn i daleithiau'r de.[3] Dechreuodd cyrch yr Houthi, ynghyd â lluoedd milwrol a oedd yn deyrngar i Saleh, y diwrnod canlynol gydag ymladd yn Lahij. Erbyn 25 Mawrth, roedd Lahij dan reolaeth yr Houthis ac roedden nhw wedi cyrraedd cyrion Aden, sedd grym llywodraeth Hadi;[4] penderfynodd Hadi ffoi o'r wlad yr un diwrnod.[5][6] Ar yr un pryd, lawnsiodd clymblaid dan arweiniad Saudi Arabia ymosodiadau milwrol gan ddefnyddio cyrchoedd awyr i adfer hen lywodraeth Yemen. Rhoddodd yr Unol Daleithiau gefnogaeth ymchwil a logisteg i'r ymgyrch.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig a ffynonellau eraill, lladdwyd 8,670–13,600 o bobl yn Yemen rhwng mis Mawrth 2015 a mis Rhagfyr 2017, gan gynnwys mwy na 5,200 o sifiliaid. Yn ogystal â hynny, amcangyfrifir bod newyn oherwydd y rhyfel wedi arwain at fwy na 50,000 o farwolaethau.[7][8][9] Mae'r gwrthdaro wedi cael ei ystyried yn eang fel estyniad i'r gwrthdaro rhwng Iran a Saudi Arabia ac fel ffordd o frwydro yn erbyn dylanwad Iran yn y rhanbarth.[10][11] Yn 2018, rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig fod 13 miliwn o sifiliaid Yemen yn wynebu newyn, ac y gallai fod yn y "newyn gwaethaf a welodd y byd ers 100 mlynedd."[12]
Mae'r gymuned ryngwladol wedi condemnio'r ymgyrch fomio dan arweiniad Saudi Arabia, sydd wedi cynnwys bomio ardaloedd sifil.[13] Yn ôl Prosiect Data Yemen, cyhoeddwyd ym Mawrth 2019 bod yr ymgyrch fomio wedi lladd neu anafu 17,729 o sifiliaid.[14] Er gwaethaf hyn, nid yw'r argyfwng wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol o'i gymharu â rhyfel cartref Syria.[15][16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Orkaby, Asher (25 March 2015). "Houthi Who?". Foreign Affairs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 March 2015. Cyrchwyd 25 March 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Yemen in Crisis". Council on Foreign Relations. 8 July 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 May 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Abdul-Aziz Oudah. "Yemen observer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 November 2015. Cyrchwyd 18 November 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Yemen's president flees Aden as rebels close in". The Toronto Star. 25 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2015. Cyrchwyd 25 March 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Saudi Arabia: Yemen's President Hadi Arrives In Saudi Capital Riyadh". The Huffington Post. 26 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 March 2015. Cyrchwyd 26 March 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Abed Rabbo Mansour Hadi, Yemen leader, flees country". CBS.CA. 25 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 March 2015. Cyrchwyd 26 March 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Yemen war: Saudi-led air strike 'kills 26 at Saada market'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 November 2017. Cyrchwyd 1 November 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "20 Killed in Saudi Airstrike in Yemen". Cyrchwyd 31 December 2017.
- ↑ Press, Associated. "50,000 children in Yemen have died of starvation and disease so far this year, monitoring group says". chicagotribune.com. Cyrchwyd 2018-07-07.
- ↑ https://www.bbc.com/news/world-middle-east-29319423
- ↑ https://www.theguardian.com/world/2018/nov/21/who-are-the-houthis-fighting-the-saudi-led-coalition-in-yemen
- ↑ "Yemen could be 'worst famine in 100 years'". BBC. 15 October 2018. Cyrchwyd 15 October 2018.
- ↑ Saudi Arabia and al-Qaeda Unite in Yemen Error in Webarchive template: URl gwag., Huffington Post, "Despite the international community's condemnation of Saudi Arabia's bombing of civilian areas in Yemen, ... "
- ↑ Raghavan, Sudarsan (27 March 2019). "Airstrike by Saudi-led coalition said to hit near Yemeni hospital, killing 8, including 5 children". The Washington Post. Cyrchwyd 31 March 2019.
- ↑ https://news.sky.com/feature/yemen-faces-of-the-worlds-forgotten-war-11516374
- ↑ https://www.amnesty.org/en/latest/news/2015/09/yemen-the-forgotten-war/