Rhyfel Cartref Syria
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel cartref, proxy war, communal violence |
---|---|
Lladdwyd | 570,000 |
Rhan o | Y Gwanwyn Arabaidd, Y Gaeaf Arabaidd |
Dechreuwyd | 15 Mawrth 2011 |
Yn cynnwys | foreign involvement in the Syrian civil war, Q110713767, Q105870657, War against the Islamic State |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr a gychwynodd yn Chwefror 2011 rhwng Llywodraeth Syria a gwrthryfelwyr a gefnogwyd gan rai gwledydd yn y Gorllewin a UDA oedd Gwrthryfel Syria, sy'n parhau i gael ei ymladd (2018).
Rhwng Chwefror 2011 a Chwefror 2017 bu farw 470,000 o bobl[1] 7.6 miliwn a chafwyd a ffodd dros 5 miliwn o bobl o'r wlad yn ôl UNHCR),[2] ac felly anodd iawn yw amcangyfrif union boblogaeth y wlad.
Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adwaenir fel "y Gwanwyn Arabaidd" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun hyd farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod â'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir bod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn ôl rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr.
Yng ngwanwyn 2011, yn fuan ar ôl i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl grŵp arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; bu llywodraeth Syria'n llawdrwm, gan ddefnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog.[3][4]. Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr dan faner "Byddin Rhyddid Syria" ac fe'u cefnogwyd gan lywodraethau Ewrop a UDA.
Yn ôl sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda thua hanner y nifer hwn yn sifiliaid.[5] Yn ôl y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn gyflwr o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill.[6] Ymunodd sawl grŵp arfog jihadaidd yn y rhyfel gan gynnwys Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Eu bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd.
Yn Awst 2013 dywedodd John Kerry (UDA) fod Bashar al-Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn sifiliaid[7] a chafwyd sawl cyhuddiad yn y 2000-2010au fod hawliau dynol sylfaenol wedi'u torri gan y Llywodraeth; yn ôl y Cenhedloedd Unedig (ar 9 Tachwedd 2011) lladdwyd dros 3500 gyda 250 ohonynt yn blant nifer o'r rheiny, yn enwedig bechgyn, wedi'u treisio gan filwyr Bashar al-Assad.[8][9]
Erbyn Awst 2014 credir bod 191,369 wedi marw yn y gwrthryfel ac erbyn Chwefror 2017 bu farw 470,000.
Cefnogaeth Rwsia ac ymyrraeth UDA
[golygu | golygu cod]Bu gan Rwsia gysylltiad agos gyda Syria ers y 1960au ac yn Haf 2015 symudwyd o leiaf 2,000 o bersonnel i'r wlad a llawer o arfau, llongau ac awyrennau. Ar ddiwrnod olaf Medi 2015 gollyngodd awyrennau Rwsia fomiau ar ISIS. Honodd UDA i'r bomiau gael eu gollwng ar sifiliaid a gwrthrefelwyr eraill, rhai ohonynt yn grwpiau a gefnogwyd gan Brydain.[10]
Ffyrnigwyd UDA a'u cynghreiriaid gan y ffaith i Rwsia dderbyn gwahoddiad gan Lywodraeth Syria i'w cynorthwyo i amddiffyn y wlad. Aryddodd Rwsia hefyd 1,571 o 'gytundebau' gydag arweinwyr lleol - a oedd yn cytuno i gefnogi Llywodraeth y wlad.[11]
Ar 7 Ebrill 2017 ymosoddodd yr UDA ar fyddin Syria (h.y. y 'tro cyntaf' yn agored-weladwy i'r cyhoedd) pan lansiwyd naw o daflegrau 'Cruise' o longau rhyfel. Bomiwyd maes awyr Shayrat Llywodraeth Syria, a honnodd y UDA mai'r maes awyr yma oedd man cychwyn yr ymosodiadau cemegol ar Khan Shaykhun a ddigwyddodd tri diwrnod cyn hynny. Ni ddangoswyd unrhyw dystiolaeth o hynny, fodd bynnag, a gwadai Syria fod unrhyw wirionedd yn yr honiadau.
Ar 7 Ebrill 2018, cafwyd adroddiadau o ymosodiad cemegol yn ninas Douma, gyda 70 o bobl wedi lladd a 500 wedi eu hanafu.[12][13] Dywedodd meddygon ar y safle mai achos y marwolaethau hynny oedd y nwy clorin a sarin.[14] Ni ddangoswyd unrhyw dystiolaeth mai Llywodraeth Syria oedd yn gyfrifol; ni ddangoswyd ychwaith unrhyw dystiolaeth mai asiantau ysgogol (ageant provocateurs) oedd yn gyfrifol. Er hynny, ar 13 Ebrill 2018, ymosododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Ffrainc a UDA ar dri tharged yn Syria.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ editor, Ian Black Middle East (10 Chwefror 2016). "Report on Syria conflict finds 11.5% of population killed or injured" – drwy The Guardian.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ (UNHCR), United Nations High Commissioner for Refugees. "UNHCR Syria Regional Refugee Response". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-19. Cyrchwyd 2018-04-15.
- ↑ "Syrian army tanks 'moving towards Hama'". BBC News. 5 Mai 2011. Cyrchwyd 20 Ionawr 2012.
- ↑ "'Dozens killed' in Syrian border town". Al Jazeera. 17 Mai 2011. Cyrchwyd 12 Mehefin 2011.
- ↑ "Syrian Observatory for Human Rights". Syriahr.com. Cyrchwyd 2012-06-05.
- ↑ Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 13 Mehefin 2012
- ↑ "Iran warns west against military intervention in Syria". The Guardian. Cyrchwyd 28 Awst 2013.
- ↑ Joe Lauria (29 Tachwedd 2011). "More than 250 children among dead, U.N. says". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2011.
- ↑ "UN report: Syrian forces commit 'gross violations' of human rights, CNN". 29 Tachwedd 2011.
- ↑ "Syria crisis: Russia begins air strikes against Assad foes" (yn english). ВВС News. 30 Medi 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Russia Insider: Military Briefing (Current Situation), posted 9 Mehfin 2017, Time: 0:45
- ↑ https://www.thesun.co.uk/news/6038885/syria-chemical-attack-nerve-agent-evidence-latest-news/
- ↑ "Syria attack: nerve agent experts race to smuggle bodies out of Douma". The Guardian (yn Saesneg). 12 Ebrill 2018.
- ↑ Graham, Chris; Krol, Charlotte; Crilly, Rob; Ensor, Josie; Swinford, Steven; Riley-Smith, Ben; Emanuel, Louis (8 April 2018). "Russia blames Israel for attack on Syrian air base as pressure mounts over gas atrocity". Cyrchwyd 9 Ebrill 2018 – drwy www.telegraph.co.uk.