Neidio i'r cynnwys

Pontypridd

Oddi ar Wicipedia
Pontypridd
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth31,206 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTref Pontypridd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Taf Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5967°N 3.3368°W Edit this on Wikidata
Cod OSST075895 Edit this on Wikidata
Cod postCF37 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMick Antoniw (Llafur)
AS/au y DUAlex Davies-Jones (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Pontypridd.[1] Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o tua 33,000. Mae Llundain yn 224.1 km.

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lan Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r nifer o bontydd a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.

Y Bont

[golygu | golygu cod]
Pontypridd: yr Hen Bont

Honnir i bont Pontypridd fod ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont rhychwant sengl hiraf yn y byd. Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789)[2] a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunan-ddysgedig.

Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth fwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Roedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.

Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.

William Edwards, yr Adeiladydd

Diwydiant

[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd camlas Morgannwg ar ddiwedd y 18g, gan gyrraedd Pontypridd yn 1794. Dyma oedd dechrau datblygiad diwydiannol Pontypridd. Cafwyd twf aruthrol ym Mhontypridd yn sgil twf diwydiannau Cymoedd Rhondda. Pontypridd, wrth aber afon Rhondda, a ddaeth yn brif dref farchnad yr ardal. Prif ffatri’r dref oedd gwaith cadwynau Brown Lenox, a ddechreuwyd yn 1816.[3]

Clwb y Bont

[golygu | golygu cod]

Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Sefydlwyd y clwb i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau. Mae ystafell gyfarfod uwchben y clwb lle cynhelir gwersi Cymraeg a dosbarthiadau llên.

Corau Cymraeg yr Ardal

[golygu | golygu cod]

Côr Godre’r Garth

[golygu | golygu cod]

Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf a daw'r aelodau o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.[4]

Eisteddfodau

[golygu | golygu cod]

Mae Pontypridd wedi cynnal dau Eisteddfod, yn 1893 ac Eisteddfod 2024 hefyd.

Cangen Merched y Wawr

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd cangen Pontypridd o Ferched y Wawr yn y flwyddyn 2008. Rhyw 20 o aelodau sydd i'r gangen.[5]

Preswylwyr enwog

[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontypridd (pob oed) (32,694)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontypridd) (3,978)
  
12.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontypridd) (26754)
  
81.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontypridd) (5,478)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 16 Mehefin 2024
  2. Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I-Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf-William Edwards, yr Adeiladydd
  3. Gol. J Davies, M Baines, N Jenkins a P Lynch, Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig, t737 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
  4. Gwefan Côr Godre’r Garth
  5. tudalen Pontypridd ar wefan Merched y Wawr[dolen farw]
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]