Neidio i'r cynnwys

Pentre'r Eglwys

Oddi ar Wicipedia
Pentre'r Eglwys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,021 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanilltud Faerdref Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5699°N 3.3216°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMick Antoniw (Llafur)
AS/au y DUAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanilltud Faerdref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, ydy Pentre'r Eglwys (Saesneg: Church Village). Saif ger Pontypridd.

Yn 2011, roedd 2,501 (17.1%) o boblogaeth (3 oed a throsodd) y Gymuned yn gallu siarad Cymraeg.[1]

Aiff hanes y gymuned yn ôl i ganol y 19g pan nad oedd ond cartref saer coed a dau adeilad neu dŷ gwag yno, yn ôl cyfrifiad 1841. Tyfodd y pentref yn ystod y deng mlynedd canlynol ond eto, gan mai bach iawn oedd, dan enw pentref cyfagos Cross Inn y'i cofnodwyd yng nghyfrifiad 1851, pan oedd 91 o bobl yn byw yno mewn 14 cartref.[2]

Hen Lyfrgell Carnegie, Pentre'r Eglwys.

Cynhaliwyd ysgol mewn stablau ger fferm Tir Bach cyn symyd i ystafell hir y tu ôl i Tafarn y Groes yng nghanol y pentref. Roedd yr ystafell hefyd yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig. Adeiladwyd Capel yn ddiweddarach ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Erbyn cyfrifiad 1861, roedd tuag 11 o bobl yn byw mewn 22 cartref.[2] Erbyn heddiw mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg yn y pentref. Agorwyd Llyfrgell yno ar 1 Ebrill 1965; symudwyd hi ynghyd ag Ysgol Gyfun Rhydfelen i adeilad newydd ar hen safle'r ysgol gynradd[3] ym Mhentre'r Eglwys ac agorwyd hi ar 4 Medi 2006. Mae cynlluniau i adeiladu miloedd o dai newydd yn y pentref. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ffordd-osgoi Penter'r Eglwys, mae hyn wedi bod ar y gweill ers 2006 ond nid oes gwaith wedi dechrau esioes (2007).[4][5]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Alex Davies-Jones (Llafur).[6][7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tabl KS207WA Cyfrifiad 2011
  2. 2.0 2.1 "Pentre'r Eglwys, gwefan Rhondda Cynon Taf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-14. Cyrchwyd 2007-10-16.
  3. (Saesneg) Church Village Library, gwefan Rhondda Cynon Taf Archifwyd 2007-10-19 yn y Peiriant Wayback
  4. (Saesneg) Development Control Committee Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback 5 Gorffennaf 2006
  5. (Saesneg) No more excuses Pontypridd Observer 1 Chwefror 2007
  6. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  7. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.