Phil Hopkins
Phil Hopkins | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1880 Pontardawe |
Bu farw | 26 Medi 1966 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe |
Safle | Asgellwr |
Roedd Phil Hopkins (31 Ionawr 1880 - 26 Medi 1966) [1] yn asgellwr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe. Enillodd bedwar cap i Gymru a chafodd dylanwad pwysig ar y tîm a enillodd Y Goron Driphlyg ym mhencampwriaeth 1909.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Philip Lewis Hopkins yn Llangyfelach, yn drydydd blentyn i Evan Hopkins, swyddog adfer, a Catherine (née John) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Golegol Pontardawe a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel rheolwr gwaith tunplat. Ym 1913 priododd Maud Stanhope, merch Mr a Mrs. Stanhope, Cas-gwent.[2] Bu farw yn Abertawe yn 86 oed.
Gyrfa rygbi
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf ar lefel bechgyn ysgol i Ysgol Golegol Pontardawe, ac ar ôl iddo gael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, bu'n aelod o dîm y coleg. Roedd yn sbortsmon amryddawn bu'n chware sawl camp i safon uchel, gan gynnwys pêl-droed, tenis a hoci. Rhwyfodd dros Brifysgol Bangor yn Henley ac roedd yn eilydd i dîm hoci Cymru a'r tîm pêl-droed amatur.[3]
Ar lefel clwb, chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Pontardawe, ei dîm lleol cyn iddo symud i glwb rygbi Abertawe ym 1902[4]. Ym 1908 daeth Hopkins i'r amlwg pan wynebodd dîm teithiol cyntaf Awstralia ar dri achlysur, ar lefel clwb, sir a rhyngwladol. Ei gyfarfod cyntaf gyda'r Awstraliaid oedd pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm wahodd Sir Forgannwg . Yn y gêm, a chwaraewyd ym Mhontypridd, enillodd y twristiaid 16-3. Dau fis yn ddiweddarach, dewiswyd Hopkins ar gyfer ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm Cymru i wynebu Awstralia. Cafodd Hopkins gêm nodedig yn sgorio un o ddau gais Cymru, mewn buddugoliaeth agos.[5] Yna ar 26 Rhagfyr 1908, wynebodd Hopkins Awstralia am y tro olaf pan chwaraeodd dros Abertawe mewn buddugoliaeth hanesyddol dros y twristiaid.
Chwaraeodd Hopkins nesaf i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1909, a chwaraeodd mewn dwy o'r gemau, yn erbyn Lloegr ac Iwerddon. Sgoriodd Hopkins gais yn y ddwy gêm. Gyda Chymru’n curo’r tri gwrthwynebydd yn y twrnamaint, daeth Hopkins yn rhan o dîm a enillodd y Goron Driphlyg. Chwaraeodd Hopkins mewn dim ond un gêm arall i Gymru, ei gêm ryngwladol cyntaf mewn carfan a gollodd, mewn gêm oddi cartref i Loegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pum Gwlad 1910.
Gemau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Cymru
Roedd Hopkins yn sbortsmon amryddawn, ac yn chware pêl droed y gynghrair, hoci, tenis a chriced yn ogystal â rygbi.[10]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Philip Hopkins rugby profile Scum.com
- ↑ "PHIL HOPKINS MARRIED - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-02-01. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ "Wallabies in Swansea - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-12-26. Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ "BANGOR AND DISTRICT - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1902-10-17. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ "Saturday's Great Match - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-12-14. Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ Pearce, Walter Alfred (1908-12-12). "New Weish Caps -". Papurau Cymru LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ Pearce, Walter Alfred (1909-01-07). "Wales v England". Papurau Cymru LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ Jenkins, T. (1910-01-21). "TRIUMPH FOR ENGLAND -". Papurau Cymru LlGC. The Cambrian. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ Pearce, Walter Alfred (1909-03-13). "TRIPLE CROWN -". Papurau Newyddion LlGC. Evening Express. Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ "PHIL HOPKINS RETIRING - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-09-17. Cyrchwyd 2021-04-22.