Gwerinlywodraeth Lloegr
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Llundain |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 130,395 km² |
Cyfesurynnau | 52°N 0.000000°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | y Senedd gynffon |
Arian | punt sterling |
Y weriniaeth a reolodd yn gyntaf Lloegr, ac yna Iwerddon a'r Alban rhwng 1649 a 1660 oedd Gwerinlywodraeth Lloegr. Rhwng 1653-1659 fe'i adwaenid fel Gwerinlywodraeth Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.[1] Ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr a dienyddiad Siarl I, datganwyd bodolaeth y weriniaeth gan "Deddf yn datgan Lloegr yn Werinlywodraeth"[2] a fabwysiadwyd gan Senedd y Gweddill ar 19 Mai 1649. Roedd pwerau gweithredol wedi'u trosglwyddo i Gyngor y Wladwriaeth eisoes. Rhwng 1653 a 1659, galwyd y llywodraeth yn Y Diffynwriaeth, ac fe'i rheolwyd gan Oliver Cromwell. Ar ôl ei farwolaeth, cymerodd ei fab, Richard, yr awenau fel Arglwydd Amddiffynnydd; arweiniodd hyn i'r wladwriaeth gael ei enwi'n "weriniaeth goronog". Serch hynny, defnyddir y term Gwerinlywodraeth i ddisgrifio'r math o lywodraeth yn ystod yr holl gyfnod rhwng 1649 a 1660, pan oedd Lloegr yn de facto, ac o bosib yn de jure, gweriniaeth (neu'n Rhyngdeyrnasiad Lloegr o safbwynt breninaethwyr).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Scotland and the Commonwealth: 1651–1660. Archontology.org (2010-03-14).
- ↑ en:Wikisource:An Act declaring England to be a Commonwealth