Gwenynen fêl
Gwenynen Fêl | |
---|---|
Gwenynen ar flodyn afal | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Hymenoptera |
Is-urdd: | Apocrita |
Teulu: | Apidae |
Is-deulu: | Apinae |
Genws: | Apis Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
A. andrenifloris |
Pryf sydd yn cynhyrchu mêl yw'r wenynen fêl. Mae dyn yn cadw gwenyn ers o leiaf 4 mil o flynyddoedd ers i'r Eifftiaid eu cadw. Mae gwenyn mêl yn casglu neithdar a'i storio mewn lloches tebyg i nyth - fel ffynhonnell bwyd, yn arbennig yn y gaeaf. Er hwylustod i gasglu'r mêl mae dyn yn rhoi cwch gwenyn iddynt ymgartrefu ynddo. Gwenynwr yw rhywun sydd yn cadw a gofalu am y gwenyn mêl a'r cychod.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Mewn trefedigaeth gwenyn mae un mamwenynen, sef brenhines y drefedigaeth sydd yn dodwy wyau a channoedd o wenyn gormes, sef gwenyn gwrywol, ond mae llawer mwy o weithwyr. Fel arfer, mae rhwng 40,000 ac 80,000 o wenyn yn byw mewn cwch gwenyn yn ystod yr haf, ond llawer llai yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn cydweithio wrth hel mêl a chredir eu bod yn defnyddio "dawns" i nodi lleoliad blodau llawn neithdar i'r gwenyn eraill.
Mae gan y wenynen golyn a gallant bigo, ond fel arfer gwnant hynny'n unig pan gredant eu bod dan fygythiad.
Cynnyrch
[golygu | golygu cod]Paill
[golygu | golygu cod]Mae gwenyn yn peillio planhigion sydd yn blodeuo a cheir ardaloedd ble mae'r gwenynwyr yn gosod cychod gwenyn ger planhigion masnachol er mwyn gwneud yn siwr fod y gwenyn yn gwneud eu gwaith.
Mêl
[golygu | golygu cod]Defnyddir mêl i roi blas ar fwyd. Mae blas mêl yn dibynnu ar y blodau o gwmpas cwch wenyn.
Cŵyr gwenyn
[golygu | golygu cod]Mae'r wenynen weithgar yn cynhyrchu cŵyr gwenyn i aeiladu'r crwybr cŵyr. Er enghraifft, defnyddir cŵyr gwenyn i gynhyrchu canhwyllau a chŵyr dodrefn.
Traddodiadau
[golygu | golygu cod]
Mae gwenyn yn un o ryfeddodau natur sy'n ennyn ein cywreinrwydd. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf atynt yn y Gymraeg yn y gerdd fytholegol Cadair Taliesin:
Pan yw dien gwlith
a llad gwenith
a gwlith gwenyn
anglud ac ystor.
Llyfr Taliesin, 32.6-7, wedi'i ddiweddaru ychydig).
Yn fuan iawn yn hanes y ddynoliaeth daeth dyn i werthfawrogi mêl gwyllt fel ffordd o felysu bwyd a hefyd, yn ddiwedarach, i wneud y ddiod gadarn gyntaf (yng ngogledd Ewrop), sef medd. Credid mai 'bwyd y duwiau' oedd mêl oherwydd na wyddai neb sut y'i cynhyrchid.[1]
Yn yr Oesoedd Canol credai Cristnogion fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwenyn, Paradwys a phechod dyn, fel mae awdur Llyfr Cyfnerth yn esbonio: 'Bonhedd gwenyn o baradwys pan yw ac o achaws pechawt dyn y doethant odyno ac y dodes Duw y rat arnunt; ac wrth hynny ny ellir canu efferen heb y cwyr'.[2] Credid bod gwenyn yn moliannu Crist yn blygeiniol ar fore'r Nadolig.[3] Ond mae gwreiddiau'r goel Gristnogol i'w cael mewn traddodiad paganaidd hŷn. Yn ardal Abergele ar ddiwedd y 19 ganrif, yn ôl y bardd T. Gwynn Jones, gelwid 'crŵn gwenyn a chacwn a mân wybed eraill... yn "ganu'r Tylwyth Teg". Ymhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe", canu'r Tylwyth Teg.'[4] Naturiol, felly, oedd cyffelybu'r beirdd i wenyn. Mae Dafydd Nanmor yn cyfeirio at y beirdd a ymdyrrai i lys Rhys o'r Tywyn 'i gannu fel mêl gwenyn'[5] Dywed Tudur Aled fod y Glêr (mân-feirdd neu feirdd crwydrol) yn heidio fel gwenyn i lys y Deon Cyffin: 'Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr'[6] Credid bod gwenyn yn rhoddi rhagfynegiad o farwolaeth y penteulu naill ai drwy farw yn y cwch gwenyn neu gilio ohono.[7] Credid hefyd fod yna gysylltiad rhwng gwenyn a chorff Abel, brawd Cain, fel yn yr englyn hwn gan Bleddyn Ddu:
Cwning cân nwsing. Cywion isel - cainc,
Cyrff ifainc craff afel;
Cnwd o wybed cnawd Abel,
Cario maen' y cwyr a'r mêl. [8]
Roedd yn arferiad (ac efallai ei bod yn parhau) mewn rhai mannau yng Nghymru, pan fyddai rhywun yn marw i weddill y teulu fynd 'i ddweud wrth y gwenyn'.
Hen ddulliau o gadw gwenyn
[golygu | golygu cod]Arferid cadw cychod gwenyn, o wneuthuriad gwellt wedi ei blethu, mewn gwagle wedi ei neilltuo ar eu cyfer mewn waliau ar ffermydd. Mae nifer o adfeilion ger hên ffermdy yng Nghoed Glanrafon, GNG Coedydd Maentwrog.

Mi fu William Linnard yn ysgrifennu am furiau gwenyn yng nghyffiniau Maentwrog yn yr wythdegau. Roedd fferm o’r enw Mur Gwenyn ym Mhrenteg.[9] Mae "Mur Gwenyn" arall yn y Fachwen, Arfon.
Defnyddid cychod pren i gadw gwenyn mêl yn ddiweddarach fel y dengys y llun hwn 20ed ganrif gynnar o hen ffermdy’r Barcdy ger Talsarnau, Meirionnydd lle gwelir cychod gwenyn yn y cefndir (de uchaf).
Ffenoleg
[golygu | golygu cod]- 2010
Bu cynnwrf mawr yn Heol Watling, Llanrwst, Mehefin 18 2010 wrth i gannoedd ar gannoedd o wenyn heidio. Rhaid oedd gofyn am gymorth arbenigwr lleol.[10]
- 1914
Cofnododd Griffith Thomas o ardal Rhiw, Pen Llŷn, yn ei ddyddiadur bod “gwenyn yn codi o gwch Penarfynydd heddiw” y 10 Gorffennaf 1914, ac wedyn 27 Mehefin 1914, 6ed Gorffennaf 1914, 21 Mehefin 1914[www.rhiw.com]
- Dyddiadau eraill
Dyma’r dyddiadau eraill a gofnododd y gwenyn yn codi: 1 Gorffennaf 1915, 23 Gorffennaf 1916, 1 Awst 1916, 5 Awst 1916.[www.rhiw.com]
Onid oedd y dyddiad “codi” yn Llanrwst yn 2010 yn gynnar o’i gymharu â dyddiadau Griffith Thomas? Meddai'r gwenynwr Paul Williams: “Mae'r tywydd yn arwain at heidio yn anuniongyrchol. Gwn am wenyn yn Llanfachreth sydd wedi heidio yn y dyddiau d'wytha hefyd [21 Mehefin 2010]. Y prif gyfnod heidio ydi diwedd y gwanwyn/dechrau'r haf.”[11]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ gw. Marged Haycock, 'Canu y Medd o Lyfr Taliesin', Dwned 1 (1995), 7-24, am drafodaeth.
- ↑ Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol, Caerdydd 1986, t. 165.
- ↑ John Jones (Myrddin Fardd), Llen Gwerin Sir Gaernarfon, Caernarfon, d.d.=1908, t. 144, 268
- ↑ T. Gwynn Jones, Brithgofion, Llandebie, 1944, t. 10.
- ↑ Thomas Roberts (gol.), The Poetical Works of Dafydd Nanmor, Cardiff 1928, II.32.
- ↑ T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, Caerdydd 1926, VIII.21; cf. LI.51-2.
- ↑ gw. Evan Isaac, Coelion Cymru, Aberystwyth 1938, t. 84.
- ↑ R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu, Aberystwyth 1994, cerdd 9. Ymhellach ar wenyn yn llên yr Oesoedd Canol yn gyffredinol, gweler Drych yr Oesoedd Canol t. 163-5. a hefyd T. Charles-Edwards & F. Kelly (ed.), Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping, Dublin 1983, tt. 192-205.
- ↑ Nia Mair Watkin Powell
- ↑ Alun Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30
- ↑ Paul Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30