Neidio i'r cynnwys

Gemau'r Gymanwlad 2002

Oddi ar Wicipedia
Gemau'r Gymanwlad 2002
Enghraifft o'r canlynoledition of the Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Dyddiad2002 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Gorffennaf 2002 Edit this on Wikidata
Daeth i ben4 Awst 2002 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadManceinion Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 2002 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Manceinion Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
17eg Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol25 Gorffennaf
Seremoni cau4 Awst
Agorwyd yn swyddogol ganElizabeth II
XVI XVIII  >

Gemau'r Gymanwlad 2002 oedd yr ail tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Manceinion, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 25 Gorffennaf - 4 Awst. Pleidleisiodd Cyngor Gemau Gymanwlad Lloegr i enwebu Manceinion ar draul Llundain fel ymgeisydd y wlad ar gyfer cynnal Gemau 2002[1] ac wedi i ddiddordeb Adelaide, Awstralia a Cape Town, De Affrica bylu, cafodd Manceinion eu dewis fel lleoliad Gemau 2002 yn ystod cyfarfod o ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Bermiwda ym 1995[2].

Cyflwynwyd Tenis Bwrdd a Triathlon i'r Gemau am y tro cyntaf gyda Bowlio Deg a Chriced yn diflannu, dychwelodd Jiwdo i'r Gemau am y tro cyntaf ers 1990 ac am y tro cyntaf cafwyd cystadlaethau i athletwyr elît gydag anabledd ochr yn ochr ag athletau heb anabledd.

Dyma oedd y Gemau olaf i Simbabwe fynychu cyn gadael y Gymanwlad yn 2003.

Uchafbwyntiau'r Gemau

[golygu | golygu cod]

Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002. Roedd yna lwyddiant arbennig i ynys Nawrw yn y gystadleuaeth Codi Pwysau hefyd wrth i'r ynys fechan yn y Môr Tawel sydd a phoblogaeth o 9,434[3] sicrhau dwy fedal aur, pump medal arian ac wyth medal efydd.

Casglodd Sant Kitts-Nevis eu hunig medal yn hanes y Gemau hyd yma pan enillodd Kim Collins y 100m i ddynion a llwyddodd Ynysoedd Caiman a Sant Lwsia i gasglu eu medalau cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Kareem Streete-Thompson ennill y fedal efydd yn y naid hir ar ran Ynysoedd Caiman gyda Dominic Johnson yn ennill medal efydd yn y naid â pholyn i Sant Lwsia.

Ar ôl methu cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney am ei bod yn rhy ifanc[4], llwyddodd Nicole Cooke i gasglu medal aur i Gymru yn y ras lôn yn y gystadleuaeth Feicio..[5]

Yn y pwll Nofio llwyddodd Ian Thorpe o Awstralia i ennill chwe medal aur ac un arian a llwyddodd i dorri record byd yn y 400m dull rhydd gan ddod y person cyntaf i ennill 10 medal aur yn holl hanes y Gemau.[6][7]

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002

Tabl Medalau

[golygu | golygu cod]
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Awstralia Awstralia 82 62 63 207
2 Baner Lloegr Lloegr 54 52 60 166
3 Baner Canada Canada 31 41 46 118
4 Baner India India India 30 22 17 69
5 Baner Seland Newydd Seland Newydd 11 13 21 45
6 Baner De Affrica De Affrica 9 20 17 46
7 Baner Camerŵn Camerŵn 9 1 2 12
8 Baner Maleisia Maleisia 7 6 18 34
9 Baner Cymru Cymru 6 13 12 31
10 Baner Yr Alban Yr Alban 6 8 16 30
11 Baner Nigeria Nigeria 5 3 12 20
12 Baner Cenia Cenia 4 8 4 16
13 Baner Jamaica Jamaica 4 6 7 17
14 Baner Singapôr Singapôr 4 2 7 13
15 Baner Nodyn:Alias gwlad Bahamas Bahamas 4 0 4 8
16 Baner Nawrw Nawrw 2 5 8 15
17 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 2 2 1 5
18 Baner Cyprus Cyprus 2 1 1 4
19 Baner Pacistan Pacistan 1 3 4 8
20 Baner Ffiji Ffiji 1 1 1 3
20 Baner Sambia Sambia 1 1 1 3
22 Baner Simbabwe Simbabwe 1 1 0 2
23 Baner Namibia Namibia 1 0 4 5
24 Baner Tansanïa Tansanïa 1 0 1 2
25 Baner Bangladesh Bangladesh 1 0 0 1
25 Baner Gaiana Gaiana 1 0 0 1
25 Mosambic 1 0 0 1
25 Baner Sant Kitts-Nevis Sant Kitts-Nevis 1 0 0 1
29 Baner Botswana Botswana 0 2 1 3
30 Baner Wganda Wganda 0 2 0 2
31 Baner Samoa Samoa 0 1 2 3
32 Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago 0 1 0 1
33 Baner Barbados Barbados 0 0 1 1
33 Ynysoedd Caiman 0 0 1 1
33 Baner Ghana Ghana 0 0 1 1
33 Lesotho 0 0 1 1
33 Baner Malta Malta 0 0 1 1
33 Baner Mawrisiws Mawrisiws 0 0 1 1
33 Sant Lwsia 0 0 1 1
Cyfanswm 282 280 336 898

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru; y nifer fwyaf erioed. Llwyddodd David Morgan i ddod yr athletwr Cymreig mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau wrth ennill dwy fedal aur ac un arian yn y gystadleuaeth Codi Pwysau er mwyn sicrhau cyfanswm o naw medal aur a thair medal arian rhwng 1982 a 2002.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Nicole Cooke Beicio Ras lôn
Aur Jamie Arthur Bocsio 60 kg
Aur David Morgan Codi Pwysau 77 kg (Cyfuniad)
Aur David Morgan Codi Pwysau 77 kg (Pont a hwb)
Aur Michaela Breeze Codi Pwysau 56 kg (Cipiad)
Aur Ceri Dallimore
a Johanne Brekke
Saethu Parau Reiffl 50m Tra'n Gorwedd
Arian Colin Jackson Athletau 110m dros y clwydi
Arian Matt Elias Athletau 400m dros y clwydi
Arian Hayley Tullett Athletau 1500m
Arian Iwan Thomas
Jamie Baulch
Tim Benjamin
a Matt Elias
Athletau 4x400m
Arian Huw Pritchard Beicio Ras scratch 20 km
Arian John Gronow
Derek Dowling
a Kevin George Woolmore
Bowlio Lawnt Triawd gydag anabledd corfforol
Arian David Morgan Codi Pwysau 77 kg (Cipiad)
Arian Michaela Breeze Codi Pwysau 56 kg (Cyfuniad)
Arian Michaela Breeze Codi Pwysau 56 kg (Pont a hwb)
Arian Jo Melen Jiwdo o dan 78 kg
Arian Angharad Sweet Jiwdo dros 78 kg
Arian Ryan Jenkins
ac Adam Robertson
Tenis Bwrdd Dyblau'r dynion
Arian Leanda Cave Triathlon Merched
Efydd Richard Vaughan Badminton Senglau'r dynion
Efydd Kevin Evans Bocsio dros 91 kg
Efydd Anwen Butten
ac Joanna Weale
Bowlio Lawnt Parau
Efydd Robert Weale Bowlio Lawnt Senglau
Efydd Jason Greenslade
David Wilkins
Richard Bowen
ac Ian Slade
Bowlio Lawnt Pedwarawd dynion
Efydd Ann Sutherland
Gillian Dawn Miles
Nina Shipperlee
ac Pam John
Bowlio Lawnt Pedwarawd merched
Efydd Gary Cole Jiwdo o dan 60 kg
Efydd Claire Scourfield Jiwdo o dan 63 kg
Efydd Timothy Davies Jiwdo o dan 66 kg
Efydd Luke Preston Jiwdo o dan 81 kg
Efydd David Roberts Nofio 100m Dull rhydd i'r anabl
Efydd James Birkett-Evans
a Michael Wixey
Saethu Parau trap

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2013-09-28.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-18. Cyrchwyd 2013-09-28.
  4. http://news.bbc.co.uk/sportacademy/hi/sa/special_events/cycling/newsid_3909000/3909169.stm
  5. http://www.thecgf.com/sports/results.asp[dolen farw]
  6. http://news.bbc.co.uk/sport3/commonwealthgames2002/hi/swimming/newsid_2166000/2166261.stm
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-01. Cyrchwyd 2013-09-28.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Kualar Lumpur
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Melbourne