Seychelles
République des Seychelles (Ffrangeg) | |
Arwyddair | Mae Diwedd y Gwaith yn ei Goroni |
---|---|
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth archipelagig |
Enwyd ar ôl | Jean Moreau de Séchelles |
Prifddinas | Victoria, Seychelles |
Poblogaeth | 95,843 |
Sefydlwyd | Datganiad o Annibyniaeth ar 29 Mehefin 1976 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Koste Seselwa |
Pennaeth llywodraeth | Wavel Ramkalawan |
Cylchfa amser | UTC+04:00, Indian/Mahe |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Saesneg, Seychellois Creole |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi |
Gwlad | Seychelles |
Arwynebedd | 459 km² |
Yn ffinio gyda | Ffrainc, Y Comoros, Tansanïa, Madagasgar, Mawrisiws |
Cyfesurynnau | 7.1°S 52.76667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd y Seychelles |
Pennaeth y wladwriaeth | Wavel Ramkalawan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd y Seychelles |
Pennaeth y Llywodraeth | Wavel Ramkalawan |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,287 million, $1,588 million |
Arian | Seychellois rupee |
Cyfartaledd plant | 2.3 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.785 |
Ynysoedd a gwlad yng Nghefnfor India yw Seychelles. Y brifddinas yw Victoria, ar y brif ynys Mahé.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn ddaearyddol mae'r Seychelles yn perthyn i gyfandir Affrica, er eu bod yn gorwedd yng Nghefnfor India. Ceir 87 o ynysoedd wedi eu gwasgaru yn y cefnfor i'r gogledd-ddwyrain o ynys Madagasgar. Mahé yw'r ynys fwyaf, lle ceir y brifddinas Victoria, ac yno y mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn byw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd gwladfa ar yr ynysoedd, a oedd heb bobl yn byw arnynt cyn hynny, gan Ffrainc yn y 18g i fydu sbeis. Cafodd y wladfa ei chipio gan Brydain Fawr ym 1794. Roedd yn diriogaeth ddibynnol ar Mawrisiws o 1814 tan 1903, pan wnaethpwyd yr ynysoedd yn un o wladfeydd y Goron. Ym 1976 daeth yn weriniaeth annibynnol o fewn y Gymanwlad Brydeinig. Enwyd yr Ynysoedd yn 1756 fel teyrnged i Weinidog Cyllid Ffraing, Jean Moreau de Séchelles, ac addaswyd y sillafu i Seychelles gyda rheolaeth Brydeinig yn yr 19g.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Gweriniaeth yw'r Seychelles.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae llawer o'r boblogaeth o dras gymysg Ewropeaidd ac Affricanaidd ac mae eu diwylliant yn adlewyrchu hynny, gyda phobl yn siarad Ffrangeg, Saesneg a'r Creol leol.
Economi
[golygu | golygu cod]Mae'r ynysoedd yn dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth ac yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer gwyliau moethus gan bobl o Ewrop.