Dolgarrog
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 446, 429 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,479.56 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.191°N 3.844°W ![]() |
Cod SYG | W04000115 ![]() |
Cod post | LL32 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolgarrog.[1][2] Saif ar ffordd y B5106 ar hyd glan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tal-y-bont a Threfriw.
Mae Afon Porth-llwyd, sy'n llifo o Lyn Eigiau a thrwy gronfa ddŵr Coedty, yn ymuno ag Afon Conwy ger rhan ogleddol y pentref, tra mae Afon Ddu, sy'n llifo o Lyn Cowlyd, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw'r rhan ddeheuol. Mae gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ar yr ochr arall i'r afon, a phont i gerddwyr yn ei chysylltu â'r pentref.

Hanes
[golygu | golygu cod]Nodir fod melin flawd ar Afon Porthlwyd yn y 18g. Dechreuwyd cynllunio y gwaith aliwminiwm yma yn 1895, ac agorwyd y gwaith yn 1907. Mae'n defnyddio trydan dŵr. Mi r'oedd y ffatri yn eiddo i Dolgarrog Aluminium Ltd ac ar hyn o bryd wedi ei gau.
Ar 2 Tachwedd, 1925, torrodd argae Llyn Eigiau, ac o ganlyniad i'r dŵr yn rhuthro i lawr y llethrau i gronfa Coedty, torrwyd yr argae yma hefyd. Boddwyd 16 o bobl yn Nolgarrog. Agorwyd llwybr coffa yn 2004 yn mynd heibio mannau arwyddocaol ac yn egluro'r digwyddiad.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]-
Gwaith trydan Dolgarrog
-
Dwy bibell uwchlaw'r pentref yn cludo dŵr o Lynnoedd Lyn Eigiau a chronfa ddŵr Coedty.
-
Y pibellau'n fforchio
-
Awyrlun o'r pentref
-
Dyffryn Conwy a rhan ddeheuol y pentref
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]- Coed Dolgarrog (SoDdGA)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan