Deuod allyrru golau
Mae deuod allyrru golau (DAG neu LED - light-emitting diode) yn fath o ddeuod ac yn rhan-ddargludydd (semiconductor) sy'n goleuo pan fo cerrynt trydanol yn llifo drwyddo. Fe'i cynrychiolir gan y symbol .
Cafodd ei ddyfeisio yn Rwsia gan Oleg Vladimirovich Losev yn 1927 ac yna'i gyflwyno yn ymarferol i'r Unol Daleithiau yn 1962.[1] Roedd y DAGau gwreiddiol yn rhoi'r lliw coch, ond cynhyrchir heddiw DAGau gwyn, gwyrdd, glas a myrdd o liwiau eraill. Nid yw'r gwyn yn wyn pur, ond cymysgedd sy'n ymddangos yn wyn i'r llygad. Cyn 1962 roedd y golau'n olau anweledig, sef golau is-goch. Defnyddiwyd hwy ar raddfa eang gan Hewlett-Packard yn eu cyfrifianellau yn 1968.[2]
Mae ganddo ddwy weiren, ac fel pob deuod, dim ond pan gysylltir y foltedd yn y cyfeiriad cywir mae'r ddyfais yn caniatau i'r cerrynt lifo; tipyn bach yn anghymesur ydy DAG felly (er bron yn gylchol yn amlaf), er mwyn helpu ei gysylltu'n gywir.
Mae'r math yma o fwlb yn defnyddio egni yn fwy effeithlon na bwlb ffilament neu bwlb "ynni isel". Defnyddir ef yn aml felly mewn dyfeisiau sy'n cael eu pweru gan fatri gwan, megis goleuadau ar gyfer beiciau.
Datblygiadau lampau a bylbiau LED
[golygu | golygu cod]Cafwyd datblygiad sylweddol yn y dechnoleg o greu bylbiau a lampau yn ystod y ddegawd diwethaf, gyda rhai mathau yn defnyddio cyn lleied ag 1W o drydan ond yn rhoi golau eitha cryf. Mae pris y math hwn o fylb yn eitha uchel - tua degpunt y bwlb yn 2009; erbyn Rhagfyr 2010 roedd yn bosibl prynnu bwlb 1W yn Tesco am £4. Mae golau stryd sy'n cael ei bweru gan gelloedd solar yn dechrau dod yn boblogaidd mewn rhai gwledydd.
Ffilament
[golygu | golygu cod]Yn rhyfeddol, wrth i dechnoleg yr LED ddatblygu, daeth bylbiau retro gyda ffilament amlwg yn ffasiynol. Copiwyd arddull Fictorianaidd a bylbiau gwreiddiol Edison yn ystod y 2010au, ond yn wahanol i'r bylbiau gwreiddiol, mae'r bylbiau hyn yn defnyddio llawer llai o drydan gan fod llai o wres yn cael ei gynhyrchu (80% yn llai) a mwy o olau. Mae'r gost felly yn llawer llai. Yn wahanol i lawer o fylbiau 'sbot' mae rhain yn goleuo 360 gradd, gan eu gwneud yn addas iawn yng nghanol ystafell, yn hytrach nag yn y nenfwd neu ar wal.
Erbyn 2015 gwelwyd ffilamentau hyblyg yn cael eu cynhyrchu yn ogystal â rhai syth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas M. Okon; James R. Biard (2015). "The First Practical LED" (PDF). EdisonTechCenter.org. Edison Tech Center. Cyrchwyd 2 Chwefror 2016.
- ↑ "The life and times of the LED — a 100-year history" (PDF). The Optoelectronics Research Centre, University of Southampton. Ebrill 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-09-15. Cyrchwyd 4 Medi 2012.