Castell Llanhuadain
Math | castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanhuadain |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 77.4 metr, 80 metr |
Cyfesurynnau | 51.822371°N 4.797617°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE024 |
Castell ym mhentref Llanhuadain, Sir Benfro yw Castell Llanhuadain (Cyfeirnod Arolwg Ordnans: Map OS 158: SN 073175). Mae'r safle yn cael ei gynnal gan Cadw.
Codwyd Castell Llanhuadain gan esgobion Tyddewi rhwng y 12g a'r 14eg. Codwyd y castell cyntaf ar y safle yn 1115 gan yr Esgob Bernard. Castell mwnt a beili nodweddiadol Normanaidd oedd y castell cynnar hwn, a dim ond y ffos a'r clawdd pridd sydd i'w gweld heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r adfeilion sydd i'w gweld ar y safle heddiw yn perthyn i'r ail gyfnod o adeiladu a gomisiynwyd gan yr esgob Adam de Houghton rhwng 1362 a 1389. Roedd hwn yn gastell llawer mwy sylweddol, gyda phedwar set o siambrau preswyl mawr ar y llawr cyntaf. Mae'n bosibl fod y tŵr porth mawr a welir yn y llun wedi'i ychwanegu fymryn yn ddiweddarach.
Arhosodd Rhisiart II, brenin Lloegr, yn Llanhuadain ar ei ymweliad i dde Cymru yn 1394. Erbyn hynny roedd y castell yn fwy o balas esgobol nag amddiffynfa. Fe'i defnyddid gan esgobion Tyddewi i reoli eu hystadau yn y rhan honno o Benfro. Roedd y stafelloedd yn foethus iawn. Roedd gan bob un o'r siambrau mawr stafell gysgu gyda thoiled: siambrau en suite o'r safon uchaf am y cyfnod.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995). Tud. 17.