Esgob Tyddewi
Llywodraethwr eglwysig Esgobaeth Tyddewi yng ngorllewin Cymru yw Esgob Tyddewi. Yn draddodiadol ystyrir Dewi Sant fel Esgob cyntaf Tyddewi. Mae cofnodion am y cyfnod cynnar yn gyfyngedig i ambell gofnod yn yr Annales Cambriae a Brut y Tywysogion. Er enghraifft, cofnodir i'r Daniaid anrheithio Tyddewi yn 999, a lladd yr esgob Morgeneu; y cyntaf o Esgobion Tyddewi, meddir, i dorri ar draddodiad Dewi o ymwrthod a bwyta cig.
Yn yr 11g roedd yr esgobion Sulien a'i fab Rhygyfarch ap Sulien yn ysgolheigion nodedig. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidiis ("Buchedd Dewi"), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Yn 1176, enwebwyd Gerallt Gymro yn esgob, ond gwrthododd y brenin Harri II o Loegr ei dderbyn, yn ôl pob tebyg oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth yr esgobaeth, ymgyrch a gafodd gefnogaeth Llywelyn Fawr.
Yn ystod ymrysonau crefyddol yr 16g, carcharwyd yr esgob Robert Ferrar am heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.
Yr esgob presennol yw'r Gwir Barchedig Dorrien Davies a benodwyd , ym mis Hydref 2023.
Rhestr o Esgobion Tyddewi
[golygu | golygu cod]Cyfnod | Esgob | Nodiadau |
---|---|---|
545 hyd 589 | Dewi | |
589 hyd 606 | Cynog | |
606 hyd c. 610 | Teilo | |
c. 610 hyd ??? | Ceneu | |
??? hyd ??? | Morfael | |
??? hyd ??? | Haerwnen | |
??? hyd ??? | Elfaed | |
??? hyd ??? | Gwrnwen | |
??? hyd ??? | Llunwerth I | |
??? hyd ??? | Gwrgwst | |
??? hyd ??? | Gwrgan | |
??? hyd ??? | Clydog | |
??? hyd ??? | Einion | |
??? hyd ??? | Elffod | |
??? hyd ??? | Ethelman | |
??? hyd ??? | Elane | |
??? hyd ??? | Maesgwyd | |
??? hyd 831 | Sadyrnin | |
831 hyd ??? | Cadell | |
??? hyd 840 | Sulhaithnay | |
840 hyd 874 | Nobis | |
874 hyd ??? | Idwal | |
??? hyd ??? | Arthfael | |
??? hyd ??? | Samson | |
??? hyd ??? | Ruelin | |
??? hyd ??? | Rhydderch | |
??? hyd ??? | Elwin | |
??? hyd ??? | Morbiw | |
??? hyd 873 | Llunwerth II | |
873 hyd 944 | Eneuris | |
944 hyd ??? | Sulhidyr (alias Hubert) |
|
??? hyd 978 | Ifor | |
978 hyd 999 | Morgeneu | |
999 hyd ??? | Nathan | |
??? hyd ??? | Ieuan (alias Jevan) |
|
??? hyd 1016 | Arwystl | |
1016 hyd 1023 | Erbin |
|
1023 hyd 1039 | Trahaearn | |
1039 hyd 1061 | Ioseff | |
1061 hyd 1071 | Bleiddud | |
1071 hyd 1072 | Sulien | |
1072 hyd 1078 | Abraham | |
1078 hyd 1088 | Sulien | Restored |
1088 hyd ??? | Rhygyfarch ap Sulien | |
??? hyd 1115 | Gruffudd (alias Wilfrid) |
|
1115 hyd 1115 | Deiniol (alias Daniel) |
Etholwyd ond nis cysegrwyd, daeth yn Archddiacon Powys |
1115 hyd 1148 | Bernard | Cangehellor i’r Frenhines Adelize]]; yr esgob cyntaf i dderbyn uchafiaeth Caergrawnt |
1148 hyd 1176 | David FitzGerald | Archddiacon Aberteifi |
1176 hyd 1198 | Peter de Leia | Prior Wenlock |
1198 hyd 1203 | Gerallt Gymro | Etholwyd ond nis derbyniwyd gan y brenin Harri II; ymddiswyddodd |
1203 hyd 1214 | Geoffrey de Henlaw | |
1214 hyd 1229 | Gervase (alias Iorwerth) |
Bu farw yn y swydd |
1230 hyd 1248 | Anselm De la Grace | |
1248 hyd 1256 | Thomas Wallensis | |
1256 hyd 1280 | Richard Carew | |
1280 hyd 1298 | Thomas Bek | Archddiacon Dorset |
1298 hyd 1328 | David Martyn | |
1328 hyd 1347 | Henry Gower | |
1347 hyd 1350 | John Thoresby | Arglwydd Ganghellor; daeth yn Esgob Caerwrangon |
1350 hyd 1353 | Reginald Brian | Daeth yn Esgob Caerwrangon |
1353 hyd 1361 | Thomas Fastolf | Person Fakenham, Norfolk |
1361 hyd 1389 | Adam Houghton | Arglwydd Ganghellor |
1389 | Richard Metford | Etholwyd ond rhoddwyd heibio gan y pab |
1389 hyd 1397 | John Gilbert | Cynt yn Esgob Henffordd |
1397 hyd 1408 | Guy Mone | |
1407 hyd 1408 | Gruffudd Yonge | Apwyntiwyd gan Owain Glyndŵr |
1408 hyd 1414 | Henry Chichele | Archddiacon Caersallog; daeth yn Archesgob Caergaint |
1414 hyd 1415 | John Catterick | Daeth yn Esgob Caerlwytgoed |
1415 hyd 1417 | Stephen Patrington | Daeth yn Esgob Chichester |
1417 hyd 1433 | Benedict Nichols | Cynt yn Esgob Bangor |
1433 hyd 1442 | Thomas Rodburn | Archddiacon Sudbury |
1442 hyd 1446 | William Lyndwood | Arglwydd y Sêl Gyfrin |
Ionawr 1447 hyd Mai 1447 | John Langton | Canghellor Caergrawnt; bu farw yn y swydd |
15 Medi 1447 hyd 1460 | John De la Bere | Deon Wells |
1460 hyd 1482 | Robert Tully | Mynach o Gaerloyw |
1482 hyd 1483 | Richard Martin | Canghellor y Cyfrin Gyngor hyd oes Edward IV o Loegr |
1483 hyd 1484 | Thomas Langton | Prebend Wells |
1484 hyd 1485 | Andrew … | |
1485 hyd 1496 | Hugh Pavy | Archddiacon Wiltshire |
1496 hyd Mai 1504 | John Morgan (neu John Young) |
Deon Windsor; bu farw yn y swydd |
1505 hyd 1509 | Robert Sherborne | Deon St Paul, Llundain; daeth yn Esgob Chichester |
1509 hyd c.1521 | Edward Vaughan | Prebend St Paul, Llundain; bu farw yn y swydd |
1523 hyd 1536 | Richard Rawlins | Warden Coleg Merton, Rhydychen, Prebend St Paul, Llundain |
1536 hyd 1549 | William Barlow | Cynt yn Esgob Llanelwy; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells |
1549 hyd 1553 | Robert Ferrar | Cysegrwyd 9 Medi 1548; diswyddwyd gan y Frenhines Mari a llosgwyd am heresi. |
1553 hyd 1559 | Henry Morgan | diswyddwyd gan y Frenhines Elizabeth |
1559 hyd 1561 | Thomas Young | Canghellor Tyddewi; daeth yn Archesgob Efrog |
1561 hyd 7 Tachwedd 1581 | Richard Davies | Cynt yn Esgob Llanelwy; Bu farw yn y swydd |
1582 hyd 1592 | Marmaduke Middleton | Cynt yn Esgob Waterford; diswyddwyd ac alltudiwyd. |
1592 hyd 1594 | yn wag | |
1594 hyd 1615 | Anthony Rudd | Deon Caerloyw |
1615 hyd 1621 | Richard Milbourne | Deon Rochester; daeth yn Esgob Caerliwelydd |
1621 hyd 1627 | William Laud | Deon Caerloyw; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells |
1627 hyd 1635 | Theophilus Field | Cynt yn Esgob Llandaf |
1635 hyd 1653 | Roger Mainwaring | Deon Caerwrangon; bu farw yn y swydd |
1653 hyd 1660 | yn wag | Hyd at adferiad y frenhiniaeth |
1660 hyd 1677 | William Lucy | Rheithor High Clere, Swydd Huntingdon; daeth yn Esgob Caerwrangon |
1677 hyd 1686 | Lawrence Womach | Archddiacon Suffolk |
1686 hyd 1687 | John Lloyd | Priathro Coleg Iesu, Rhydychen |
1687 hyd 1699 | Thomas Watson | diswyddwyd am gamymddygiad, yn cynnwys simoniaeth |
1699 hyd 1705 | yn wag | am 5 mlynedd |
1705 hyd 1710 | George Bull | Archddiacon Llandaf |
1710 hyd 1712 | Philip Bisse | Daeth yn Esgob Henffordd |
1712 hyd 1723 | Adam Ottley | Archddiacon Salop a Prebend Henffordd |
1723 hyd 1730 | Richard Smalbroke | Trysorydd Llandaf; daeth yn Esgob Caerlwytgoed |
1730 hyd 1731 | Elias Sydall | Deon Caergaint; daeth yn Esgob Caerloyw |
1731 hyd 1743 | Nicholas Clagget | Deon Rochester; daeth yn Esgob Caerwysg |
1743 hyd 1744 | Edward Willes | Deon Lincoln; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells |
1744 hyd 1752 | Yr AnrhydeddusRichard Trevor | Canon Windsor; daeth yn Esgob Durham |
1752 hyd 1761 | Anthony Ellis | Prebendari Caerloyw |
1761 hyd 1766 | Samuel Squire | Deon Bryste |
1766 hyd 1766 | Robert Lowth | Prebendary of Durham; daeth yn Esgob Rhydychen |
1766 hyd 1774 | Charles Moss | Archddiacon Colchester; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells |
1774 hyd 1779 | Yr Anryd.James York | Deon Lincoln; daeth yn Esgob Caerloyw |
1779 hyd 1783 | John Warren | Archddiacon Caerwrangon; daeth yn Esgob Bangor |
1783 hyd 1788 | Edward Smallwell | Daeth yn Esgob Rhydychen |
1788 hyd 1793 | Samuel Horsley | Daeth yn Esgob Rochester |
1793 hyd 1800 | Yr AnrhydeddusWilliam Stuart | Canon Eglwys Crist, Rhydychen,; daeth yn Archesgob Armagh |
20 Rhagfyr 1800 hyd 3 Mehefin 1803 | Arglwydd George Murray | Bu farw yn y swydd |
25 Mehefin 1803 hyd 1825 | Thomas Burgess | Daeth yn Esgob Caersallog |
18 Mehefin 1825 hyd 7 Gorffennaf 1840 | John Banks Jenkinson | Bu farw yn y swydd |
23 Gorffennaf 1840 hyd 1874 | Connop Thirlwall | |
1874 hyd 1897 | William Basil Jones, DD | |
1897 hyd 1926 | John Owen | Esgob ar adeg greu Yr Eglwys yng Nghymru |
1926 hyd 1950 | David Lewis Prosser, LLD | Archesgob Cymru 1944-1949 |
1950 hyd 1956 | William Thomas Havard, MC, TD, DD | |
1956 hyd 1971 | John Richard Richards, DD | |
1971 hyd 1982 | Eric Matthias Roberts, MA | |
1982 hyd 1991 | George Noakes | Archesgob Cymru 1987-1991 |
1991 hyd 1995 | J. Ivor Rees | |
1995 hyd 2002 | David Huw Jones | |
2002 hyd y 2008 | Carl N. Cooper | |
2008 hyd 2016 | John Wyn Evans | |
2016 hyd 2023 | Joanna Penberthy | Y fenyw gyntaf yn y swydd |
2023 hyd heddiw | Dorrien Davies[1] |
- ↑ Archdeacon Dorrien Davies to be Bishop of St Davids; Church Times, 18 Hydref 2023