Neidio i'r cynnwys

Casineb

Oddi ar Wicipedia
Casineb
Engrafiad gan M. Engelbrecht (?), 1732
Enghraifft o'r canlynolemosiwn negyddol Edit this on Wikidata
Mathaversion Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcariad Edit this on Wikidata
Rhan otermau seicoleg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Disgrifia'r gair casineb teimlad dwys o anhoffter. Gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau, o gasineb tuag at wrthrychau neu anifeiliaid, i gasineb o bobl eraill, grŵpiau cyfan o bobloedd, neu bobl yn gyffredinol.

Safbwyntiau athronyddol

[golygu | golygu cod]

Cynigia athronwyr sawl diffiniad dylanwadol o gasineb. Ystyriai René Descartes casineb fel ymwybyddiaeth o rhywbeth gwael a'r awydd i ddianc rhagddo. Diffiniodd Baruch Spinoza casineb fel math o boen a achosir gan achos neu achosion allanol. Gwelai Aristotle casineb fel awydd nad yw amser yn gwella i ddistrywio gwrthrych. Ar y llaw arall, credai David Hume fod casineb yn deimlad na sydd yn lleihau ac nad oes modd diffinio'r teimlad o gwbl.

Fideo am gasineb, gan Lywodraeth Cymru

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am casineb
yn Wiciadur.