C.P.D. Tref Cwmbrân
Enw llawn | Cwmbrân Town Association Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Crows, Y Brain | ||
Sefydlwyd | 1951 | ||
Maes | Stadiwm Cwmbrân Cwmbrân (sy'n dal: 10,500 (2,200 sedd)) | ||
Cadeirydd | Gareth Griffiths | ||
Rheolwr | Nicky Church | ||
Cynghrair | Gwent County League Division One | ||
2017–18 | 4ydd (o 16) | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Mae C.P.D. Tref Cwmbrân neu Cwmbrân Town yn un o brif dimau pêl-droed tref Cwmbrân, Torfaen, Gwent. Maent bellach yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Sir Gwent, sydd yn y bumed haen o system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Buont am gyfnod yn yr 1990au yn un o brif dimau Uwch Gynghrair Cymru pan sefydlwyd hwnnw yn 1992.[1]
Ceir clwb arall arwahân yn y dref, Cwmbrân Celtic, nid yr un tîm ydynt.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y clwb yn 1951 gan chwarae yng nghynghrair uchaf sir Fynwy (Monmouthshire Senior League), a chwarae ym Mharc Cwmbrân. Yn 1960 ymunodd y clwb â Cynghriar Cymru (Y De) gan symud i'w maes chwarae cartref yn Stadiwm Cwmbrân yn 1975. Cafwyd cyfnod o esgyn a chodi rhwng adrannau nes iddynt ddod yn drydydd yn y gynghrair yn 1986-87 a bron ennill y teitl yn 1989-90. Yn sgil y llwyddiant yma a seiliau'r clwb, gwahoddwyd Cwmbrân i fod yn un o aelodau sefydlu cynghrair newydd genedlaethol pêl-droed Cymru yn 1992-93, sef Uwch Gynghrair Cymru a adnabwyd ar y pryd fel Cynghrair Konika Cymru ar ôl y noddwyr Konika.
Uwch Gynghrair Cymru ac Ewrop
[golygu | golygu cod]Daeth ymuno â'r gynghrair newydd â llwyddiant a bri i glwb Cwmbrân.
Yn nhymor 1992-92 enillodd Cwmbrân y Gynghrair newydd yn ei thymor gyntaf gan fod pump pwynt yn glir o'r ail safle, Inter Caerdydd, ac ildio dim ond 22 gôl a cholli ond tair gêm (i gyd yn 1-0). Yn 1993-94, yn sgîl ennill y Gynghrair, bu'r tîm yn cystadlu yn y UEFA Champions League gan gystadlu yn erbyn Cork City F.C. o'r Iwerddon. Er i Gwmbrân ennill y gêm gyntaf 3-2 (ar ôl bod 3-0 ar un adeg) ac er iddynt sgorio'r gôl gyntaf yn y gêm yn yr Iwerddon, gollon nhw 1-2 a gan hynny beidio mynd drwyodd i'r ail-rownd. Cafwyd wedyn gemau yn 1998 yn erbyn FC Național București o Rwmania ac yn 1999 - chwarae yn Ewrop yn erbyn Celtic o'r Alban. Roedd gêm gystadleuol olaf y clwb yn Ewrop yn 2003–04 gan golli 6–0 ar agretate i Maccabi Haifa F.C. o Israel, gan chwarae y gêm oddi cartref yn İzmir, Twrci.
Mae'r clwb wedi chwarae sawl gwaith yn ffeinal Cwpan Cymru ond byth wedi ennill.
- 1995-96 - Ffeinal Cwpan Cymru, colli 2-1 i C.P.D. Tref Y Barri
- 1999–2000 - Ffeinal, colli i Dinas Bangor
- 2002–03 - colli eto i'r Barri gyda chiciau o'r smotyn.
Trafferthion y Clwb o 2004 Ymlaen
[golygu | golygu cod]O 2003-04 ymlaen dechreuwyd gweld trafferthion yn y Clwb ar y gau ac yn ariannol oddi arno. Penllanw hyn oedd i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd tymor 2006-07 am y tro cyntaf yn ei hanes gan chwarae y tymor nesa nôl yn Cynghrair Cymru (Y De) (y Welsh League). Ond gan orffen yn yr 17fed safle fe ddisgynon nhw eto wedi iddynt golli 5-1 yn erbyn C.P.D. Llanelli ar 20 Ebrill.
Roedd hefyd cwmwl ariannol dros y Clwb pan ddaeth yn amlwg ym mis Tachwedd 2006 nad oedd chwaraewyr yn cael eu talu. Er i'r clwb wadu hyn i gychwyn, cadarnhawyd y si ar 30 Tachwedd.[2] Gadawodd nifer o'r prif chwaraewyr. Cynigiodd C.P.D. Casnewydd (Newport County) chwarae gêm gyfeillgar gyda'r holl elw yn mynd tuag at y Clwb.[3]
Ar ddiwedd tymor 2007-08 disgynodd y clwb o Adran 1 Cynghrair Cymru (Y De) i Adran 2. Ar ddiwedd tymor nesa, 2008-09, cwympo nhw eto allan o Adran 2 i Adran 3. Ar ddiwedd tymor 2010-11 cwympodd y clwb unwaith eto y tro yma allan o system Cynghrair Cymru (Y De) ac i mewn i Adran 1 Cynghrair Sir Gwent. Gorffennodd y clwb yn y 4ydd safle yn 2017-18 gan dal i obeithio am ddyrchafiad i system Cynghrair Cymru (Y De).
Record Domestig
[golygu | golygu cod]- Cynghrair Cymru (Uwch Gynghrair Cymru, bellach) enillwyr cyntaf 1992–93
- Cwpan Cymru Ail: 1997, 2000, 2003
- Cwpan Cynghrair Cymru Ail: 2001
- Cynghrair Cymru (Y De) Adran 2 Pencampwyr: 1967–68
- Office Interiors Welsh League Cup Enillwyr: 1990–91
- Cwpan Hŷn Gwent (Gwent Senior Cup) Enillwyr: 1994–95, 1995–96, 2005–06
- Cwpan Her Sir Fynwy (Monmouthshire Challenge Cup) Enillwyr: 1954–55, 1955–56
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Gwrthwynebwyr | Cymal Cartref | Cymal Oddi cartref | Cyfanswm Sgôr |
---|---|---|---|---|---|---|
1993–94 | UEFA Champions League | Rownd Rhagbrofol 1 | Cork City | 3–2 | 1–2 | 4–4 |
1997–98 | UEFA Cup Winners' Cup | Rownd Rhagbrofol 1 | National Bucureşti | 2–5 | 0–7 | 2–12 |
1999–2000 | Cwpan UEFA | Rownd Rhagbrofol 1 | Celtic | 0–6 | 0–4 | 0–10 |
2000 | UEFA Intertoto Cup | Rownd Rhagbrofol 1 | Nistru Otaci | 0–1 | 0–1 | 0–2 |
2001–02 | Cwpan UEFA | Rownd Rhagbrofol 1 | Slovan Bratislava | 0–4 | 0–1 | 0–5 |
2003–04 | Cwpan UEFA | Rownd Rhagbrofol 1 | Maccabi Haifa | 0–3 | 0–3 | 0–6 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.s4c.cymru/cy/ffeithiol/stori-pl-droed-cymru/post/2361/uwch-gynghrair-cymru/[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-14. Cyrchwyd 2018-10-25.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-14. Cyrchwyd 2018-10-25.