Gwent
Math | siroedd cadwedig Cymru, cyn endid gweinyddol tiriogaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,553 km² |
Yn ffinio gyda | De Morgannwg, Morgannwg Ganol, Powys, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw |
Cyfesurynnau | 51.789°N 3.018°W, 51.8°N 3°W |
- Gweler hefyd Teyrnas Gwent
Mae Gwent yn 'sir seremonïol' yn ne-ddwyrain Cymru. Bu'n sir weinyddol rhwng 1974 a 1996. Fe'i cedwir at bwrpasau seremonïol sy'n ymwneud â swydd Uchel Siryf Gwent fel cynrychiolydd Brenhines y DU yn unig. Defnyddir yr enw gan sawl cymdeithas ranbarthol hefyd, e.e. Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae hanes hir o ddefnyddio'r enw am y rhan hon o Gymru ar ochr orllewinol rhan fwyaf deheuol Glawdd Offa. Roedd Teyrnas Gwent yn un o hen deyrnasoedd y Cymry. Mae tiriogaeth sir seremonïol Gwent yn debyg i diriogaeth yr hen Sir Fynwy, a grëwyd adeg y Deddfau Uno, ac am flynyddoedd byddai cyfeirio mewn ffynonellau Seisnig at 'Gymru a Sir Fynwy' (Wales & Monmouthshire). Yr unig wahaniaeth rhyngddi a siroedd eraill Cymru oedd ei bod yn rhan o gylchdaith llysoedd Rhydychen yn hytrach na Chymru.
Edrychir ar yr ardal heddiw fel ardal Seisnig ond roedd yn ardal Gymreig iawn tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol. Yn y 14g a'r 15g roedd beirdd fel Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi yn cael nawdd gan ŵyr mawr yr ardal. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at un o deulu'r Morganiaid Ifor ap Llywelyn fel Ifor Hael.
Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ffurfiwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yng Ngwent. Yr enwocaf oedd Cymdeithas y Cymreigyddion.
Gwent heddiw
[golygu | golygu cod]Y siroedd cyfoes yn ardal Gwent yw:
- Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Dinas Casnewydd
- Sir Fynwy
- Bwrdeistref Sirol Torfaen
|