Baner yr Eidal
Baner drilliw yw baner yr Eidal â thri stribedyn unionsyth mewn gwyrdd (ar y chwith), gwyn a choch. Cyfeirir ati yn Eidaleg fel Il Tricolore. Defnyddiwyd patrwm tebyg ond â stribedi gorweddol, gan y Repubblica Cispadana ('Gweiniaeth Cispadanaidd'), gweriniaeth a sefydlwyd yng ngogledd yr Eidal yn 1796 gyda nawdd byddin Ffrainc o dan Napoléon Bonaparte. Mabwysiadwyd y faner drilliw ganddi ar 7 Ionawr 1797. Roedd nifer o weriniaethau bychan yn yr Eidal yn defnyddio baneri trilliw ar y pryd ar batrwm baner drilliw Ffrainc. Dewisiwyd coch a gwyn, lliwiau baner Milano, a gwyrdd, lliw gwisg Lleng Lombardi. Pryd ffurfiwyd y Repubblica Cisalpina ('Gweriniaeth Cisalpaidd') yn 1798, dewisodd faner sgwâr â stribedi unionsyth, yn debyg iawn i faner yr Eidal heddiw, a gafodd ei ddefnyddio tan 1802. Daeth y faner drilliw yn symbol o'r ymdrechion i uno'r Eidal yn ystod canol y 19eg ganrif, ac roedd nifer o weriniaethau yr Eidal yn defnyddio amrywiaethau arni. Pryd cyhoeddwyd Teyrnas yr Eidal yn 1861, mabwysiadwyd baner Teyrnas Sardegna-Piemonte fel baner genedlaethol y deyrnas newydd: roedd hon yn cynnwys arfbais Brenhinllin Savoia ar gefndir y faner drilliw. Parhaodd y faner hon tan 1948, pryd mabwysiadwyd y faner ar ei ffurf bresennol gyda diddymiad y brenin a datganiad Gweriniaeth Eidalaidd.