Albendasol
Delwedd:Albendazole Structural Formulae V.1.svg, Albendazole.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | heterocyclic compound |
Màs | 265.088498 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₂h₁₅n₃o₂s |
Enw WHO | Albendazole |
Clefydau i'w trin | Echinococcosis, opisthorchiasis, hymenolepiasis, clonorchiasis, necatoriasis, systisercosis, trichuriasis, giardiasis, ancylostomiasis, clefyd heintus llyngyr parasitig, enterobiasis, filarial elephantiasis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | albendazole monooxygenase activity |
Yn cynnwys | nitrogen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae albendasol, a elwir hefyd yn albendasolm, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer trin amrywiaeth o lyngyr parasitig[1].
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae albendasol yn ddefnyddiol i ladd llyngyr giardia, chwip lyngyr, llyngyr ffilaria, llyngyr rhuban porc, llyngyr rhuban cŵn,[2], llyngyr tâp, llyngyr pin, ac eraill. Mae'n cael ei weini trwy'r genau.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfog, poenau'r abdomen, a chur pen. Mae sgil effeithiau difrifol bosibl yn cynnwys ataliad mêr yr esgyrn, sydd fel arfer yn gwella wrth atal y feddyginiaeth. Mae llid yr afu yn gallu ymddangos ymysg y sawl sydd â phroblemau afu blaenorol. Gall achosi niwed os bydd merched beichiog yn ei gymryd[3].
Defnydd milfeddygol
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â chael ei ddefnyddio fel meddyginiaeth i bobl fe'i defnyddir hefyd i drin llyngyr mewn gwartheg, defaid, cathod a chŵn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygwyd albendasol ym 1975 gan Robert J. Gyurik a Vassilios J. Theodorides ar gyfer cwmni SmithKline. Fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol fel cyffur i drin llyngyr mewn defaid gan gael ei ehangu i drin pobl ym 1982. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Enwau brand
[golygu | golygu cod]Mae enwau brand yn cynnwys:
- Albenza
- Alworm
- Andazol
- Eskazole
- Noworm
- Zentel
- Alben-G
- ABZ
- Cidazole
- Wormnil
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Web MD Albendazole Tablet adalwyd 8 Mawrth 2018
- ↑ Everyday Health - albendazole adalwyd 8 Mawrth 2018
- ↑ Drugs.com - albendazole adalwyd 8 Mawrth 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |