Neidio i'r cynnwys

Aber-banc

Oddi ar Wicipedia
Aber-banc
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0494°N 4.3994°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Llandyfrïog, Ngheredigion yw Aber-banc[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar dro cas ar yr A475 tua 4 milltir i’r dwyraIn i Gastell Newydd Emlyn.

Mae Nant Gwylan ac Afon Cwerchyr yn ymuno ag Afon Cynllo yma ac mae nifer o orchmynion Cadw Coed ar hyd glannau gogledd ddwyreiniol Afon Cynllo. Mae canolbwynt hanesyddol y pentref yn cynnwys tai arbennig wedi eu gwneud o gerrig, yn unigol ac yn dai teras. Mae'r datblygiadau mwy diweddar ar ffurf clwstwr estynedig ar fryn i gyfeiriad y gorllewin allan o'r dyffryn ar hyd yr A475. Mae'r pentref yn cynnwys rhagor na 25 o aneddau. Mae Capel y Methodistiaid yn adeilad rhestredig.

Mae gan y pentref ysgol gynradd sy’n gwasanaethu’r cymunedau cyfagos ym Mhenrhiw-llan a Henllan. Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn feunyddiol. Mae Aber-banc yn dibynnu ar Gastellnewydd Emlyn am wasanaethau beunyddiol ac am ei brif wasanaethau. Mae ar lwybr bysys rhwng Llandysul a Chastellnewydd Emlyn ac mae gwasanaeth bob dydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 24 Ionawr 2023
  2. British Place Names; adalwyd 24 Ionawr 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU