Wicipedia:Ar y dydd hwn/Awst
1 Awst: Dydd Gŵyl Calan Awst ('Lughnasadh' yn Iwerddon; 'Lammas' yn yr Alban)
- 1530 – ganwyd Twm Siôn Cati, hynafiaethydd, arwyddfardd a herwr o Dregaron.
- 1714 – ganwyd yr arlunydd Richard Wilson ym Mhenegoes ger Machynlleth
- 1909 – arwyddwyd y siec gyntaf am filiwn o bunnau yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd
- 1914 – ymosododd yr Almaen ar Lwcsembwrg, cyhoeddodd yr Almaen ryfel yn erbyn Rwsia.
- 1944 – ganwyd yr actores a chyflwynwraig Cymreig Heulwen Hâf (m. 2018)
- 1100 – lladdwyd Wiliam II, brenin Lloegr mewn damwain hela
- 1921 – bu farw'r canwr opera Eidalaidd Enrico Caruso
- 1934 – cyhoeddodd Adolf Hitler ei hun yn "Führer und Reichskanzler" (Arweinydd a Changhellor yr Ymerodraeth) pan fu farw'r Arlywydd Paul von Hindenburg
- 1961 – saethwyd Arthur Rowlands (y 'Plisomon Dall') gan leidr ar bont Machynlleth
- 1990 – ymosododd Irac (العراق ) ar Ciwait (دولة الكويت) a barodd i UDA ymateb gyda Rhyfel y Gwlff
3 Awst: Diwrnod annibyniaeth Niger (1960)
- 1460 – bu farw Iago II, brenin yr Alban yn 29 oed
- 1904 – cynhaliwyd Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf, yn Aberystwyth
- 1908 – chwaraewyd y gêm pêl-fâs ryngwladol gyntaf rhwng Cymru a Lloegr
- 2003 – bu farw Norah Isaac, ymyrchydd dros addysg Gymraeg a phrifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf, yn 88 oed.
- 2012 – enillodd y seiclwr Cymreig Geraint Thomas y fedal aur yn aelod o dîm Ras Ymlid Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 ynghŷd â Steven Burke, Ed Clancy a Peter Kennaugh.
- 1788 – bu farw Evan Evans (Ieuan Fardd), 57, ysgolhaig a llenor
- 1875 – bu farw Hans Christian Andersen, 70, awdur Daneg; un o'i storiau i blant oedd Dillad Newydd yr Ymerawdwr
- 1894 – ganwyd Ambrose Bebb; gwleidydd, llenor a hanesydd Cymreig; tad Dewi Bebb ac awdur Llydaw (1929)
- 1914 – Prydain yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen yn sgil ymosodiad yr Almaen ar Wlad Belg
- 1962 – sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mewn enw, yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais.
- 2020 – digwyddodd dau ffrwydrad enfawr yn Beirut, prifddinas Libanus.
- 641 (neu 642) – ymladdwyd Brwydr Maes Cogwy rhwng Oswallt, brenin Northumbria a Penda, brenin Mersia; yn ôl Canu Heledd, roedd Cynddylan o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd
- 1914 – gosodwyd y goleuadau traffig trydan cyntaf ar waith yn Cleveland, Ohio
- 1925 – sefydlwyd Plaid Cymru yn Neuadd Maesgwyn, Pwllheli gan Saunders Lewis, Lewis Valentine, H. R. Jones ac eraill
- 1984 – bu farw Richard Burton, 58, yr actor o Bontrhydyfen.
6 Awst Dydd Gŵyl y seintiau Arthfael a Rhedyw.
- 1945 – Unol Daleithiau America yn bomio Hiroshima â bom atomig; erbyn diwedd y flwyddyn roedd 140,000 wedi marw
- 1928 – ganwyd yr arlunydd Americaniad Andy Warhol († 1987)
- 1946 – ganwyd Ron Davies, gwleidydd Cymreig, a 'phensaer' y syniad o Ddatganoli
- 1962 – Jamaica'n torri'n rhydd o Brydain gan ddod yn wladwriaeth annibynnol
- 1991 – Tim Berners-Lee yn "dyfeisio'r" We Fyd Eang drwy gyhoeddi memo yn gwahodd pobl y tu allan i CERN i gydweithio ar y prosiect.
- 1485 – glaniodd Harri Tudur ym Mhont y Pistyll (Dale), ger Hwlffordd, Penfro cyn teithio drwy Gymru i Faes Bosworth
- 1759 – ganwyd William Owen Pughe, geiriadurwr a golygydd († 1835), ym mhlwyf Llanfihangel y Pennant, Sir Feirionnydd
- 1938 – ganwyd Dewi Bebb, chwaraewr rygbi († 1996). Enillodd tri deg pedwar o gapiau dros Gymru fel asgellwr.
- 1975 – bu farw Jim Griffiths, 84, gwleidydd
- 2004 – bu farw Bernard Levin, 75, newyddiadurwr, darlledwr ac awdur Saesneg
8 Awst: Gŵyliau'r seintiau Hychan, Cwyllog a Crallo
- 1914 – bu farw yr ysgolhaig Syr Edward Anwyl un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
- 1930 – ganwyd Terry Nation yng Nghaerdydd
- 1966 – yn Tsieina, cyhoeddodd Mao Zedong ddechrau'r Chwyldro Diwylliannol; amcangyfrifir bod rhyw hanner miliwn wedi marw yn ei sgil
- 1975 – bu farw Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths
- 2004 – bu farw yr actores Fay Wray, arwres y ffilm eiconig King Kong (1933)
9 Awst: Diwrnod annibyniaeth Singapôr oddi wrth Brydain (1965)
- 117 – bu farw'r ymerodr Rhufeinig Trajan (neu Marcus Ulpius Traianus)
- 378 – trechwyd byddin Rufeinig gan y Gothiaid a'u cynghreiriaid ym Mrwydr Adrianople
- 1973 – Alan Llwyd yn gwneud y gamp ddwbwl yn Eisteddfod Rhuthun: cipio'r Gadair a'r Goron
- 1974 – ymddiswyddodd Richard Nixon, arlywydd Unol Daleithiau America
- 1975 – bu farw'r cyfansoddwr Rwsiaidd Dmitri Shostakovich
- 1675 – gosodwyd maen sylfaen Arsyllfa Frenhinol Greenwich, Llundain
- 1793 – ym Mharis, agorwyd y Musée du Louvre yn swyddogol, ac a ailenwyd yn "Musée Napoléon" yn 1803
- 1825 – bu farw'r llenor Joseph Harris, golygydd Seren Gomer
- 1874 – ganwyd Herbert Hoover, arlywydd Unol Daleithiau America
- 1940 – oherwydd y Rhyfel, darlledwyd Eisteddfod ar yr Awyr drwy wledydd Prydain; T. Rowland Hughes enillodd y Gadair.
11 Awst: Diwrnod annibyniaeth Tsiad (1960) oddi wrth Ffrainc
- 1614 – bu farw'r arlunydd o Eidales Lavinia Fontana
- 1809 – ganwyd y llenor Robert Thomas (Ap Vychan) ym mhlwyf Llanuwchllyn, Meirionnydd
- 1892 – ganwyd y bardd Albanaidd Hugh MacDiarmid
- 1929 – ganwyd y cyfansoddwr Alun Hoddinott ym Margoed, Morgannwg
- 1937 – bu farw Edith Wharton, nofelydd Americanaidd o dras Gymreig
12 Awst: Diwrnod Rhyngwladol yr Eliffant
- 30 CC – hunan-lofruddiad Cleopatra (Groeg: Κλεοπάτρα Φιλοπάτωρ)
- 1805 – claddwyd yr emynydd Ann Griffiths yn 29 oed
- 1848 – bu farw George Stephenson, peiriannydd, yn Chesterfield, Swydd Derby
- 1935 – bu farw'r newyddiadurwr Gareth Jones, a ddaeth yn enwog am ei adroddiadau am y newyn yn yr Wcrain
- 1947 – daeth ymraniad is-gyfandir India i ben gyda sefydlu Pacistan ac India yn wledydd annibynnol.
13 Awst: Diwrnod annibyniaeth Gweriniaeth Canolbarth Affrica (1960)
- 1532 – undeb Llydaw gyda Ffrainc yn dilyn marwolaeth Anna, Duges Llydaw yn 1512
- 1831 – crogwyd Dic Penderyn ar gam yng Nghaerdydd, am drywanu milwr yn ei goes gyda bidog yng Ngwrthryfel Merthyr
- 1906 – cynhyrchwyd trydan drwy rym dŵr am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain: yng Nghwm Dyli
- 1910 – bu farw'r nyrs Florence Nightingale
- 1926 – ganwyd Fidel Castro, cyn-arweinydd Ciwba
14 Awst: Diwrnod annibyniaeth Pacistan (1947)
- 1771 – ganwyd Walter Scott, bardd a nofelydd o'r Alban, awdur Ivanhoe (1819)
- 1941 – ganwyd John Hefin, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm, teledu a drama
- 1956 – bu farw'r dramodydd Bertolt Brecht
- 1963 – ganwyd yr actores Ffrengig Emmanuelle Béart
15 Awst: Diwrnod annibyniaeth Corea (1945), India (1947) a Gweriniaeth y Congo (1960)
- 778 – ymladdwyd Brwydr Ronsyfal rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid
- 1057 – bu farw Macbeth, brenin yr Alban; ei enw mewn Gaeleg yw MacBheatha mac Fhionnlaigh
- 1769 – yng Nghorscia, ganwyd Napoleone Buonaparte, a ddaeth i fod yn ymerawdwr Ffrainc
- 1827 – ordeiniwyd Samuel Roberts, Llanbryn-mair yn weinidog yng nghapel ei dad; gwrthwynebydd yn erbyn caethwasanaeth ac imperialaeth Lloegr.
- 1963 – ganwyd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru 2019-2022
- 1817 – ganwyd Rowland Williams ysgolhaig a ddaeth a Rygbi'r Undeb i Gymru
- 1857 – bu farw'r pregethwr John Jones, Talysarn, Mawr ŵr Duw roes Gymru ar dân
- 1888 – ganwyd Lawrence o Arabia yn "Gorphwysfa", Tremadog
- 1920 – ganwyd y llenor Americanaidd Charles Bukowski
- 1956 – bu farw'r actor Bela Lugosi, seren y ffilm Dracula (1931)
- 2014 – dardorchuddiwyd Cofeb y Cymry yn Fflandrys gan Carwyn Jones
17 Awst: Diwrnod annibyniaeth Indonesia (1945) a Gabon (1960)
- 1930 – ganwyd Ted Hughes, bardd yn yr iaith Saesneg, yng Ngorllewin Swydd Efrog
- 1942 – ganwyd y newyddiadurwr John Humphrys yng Nghaerdydd
- 1943 – ganwyd yr actor Americanaidd Robert De Niro; ef oedd Vito Corleone ifanc yn The Godfather Part II
- 1987 – bu farw Rudolf Hess yng Ngharchar Nürnberg, gwleidydd yn yr Almaen Natsaidd
18 Awst: Gŵyl Helena o Gaergystennin (Yr Eglwys Gatholig)
- 1227 – bu farw Genghis Khan (Mongoleg: Чингис Хаан, Tsieineeg: 成吉思汗) ym Mongolia
- 1503 – bu farw Pab Alecsander VI, un o babau mwyaf dadleuol y Dadeni oherwydd ei hoffder o nepotiaeth a'i anniweirdeb rhywiol
- 1831 – boddodd 120 yn llongddrylliad y Rothsay Castle yn Afon Menai
- 1900 – y Ffiwsilwyr Cymreig yn rhyddhau'r llysgenhadaeth Prydeinig yn Beijing oddi wrth y 'Bocswyr'; lladdwyd 28 o Gymry
- 2009 – bu farw y bardd a'r amaethwr Dic Jones, un o feirdd mwyaf yr 20fed ganrif.
19 Awst: Gŵyl mabsant Clydog; Diwrnod annibyniaeth Affganistan (1919)
- 1662 – bu farw Blaise Pascal, athronydd a mathemategwr, ffisegwr a diwinydd
- 1875 – bu farw Robert Ellis (Cynddelw), bardd, golygydd a geiriadurwr
- 1911 – ymosododd 200 o bobl ar siopau Iddewon yn Nhredegar a Chwm Rymni, Glynebwy
- 1946 – ganwyd Bill Clinton yn Hope, Arkansas, arlywydd Unol Daleithiau America
- 1969 – bu farw'r pensaer Syr Percy Thomas, enillydd Gwobr Pensaerniaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1903.
20 Awst: Diwrnod annibyniaeth Estonia (1991)
- 1748 – ganwyd yr Aelod Seneddol Thomas Johnes, pensaer tirwedd, ffermwr, cyhoeddwr, llenor a datblygwr ystâd Hafod Uchtryd, ger Pontarfynach
- 1868 – ganwyd William Williams (Creuddynfab), beirniad llenyddol a golygydd
- 1868 – lladdwyd 33 o bobl yn Nhrychineb rheilffordd Abergele
- 1888 – bu farw'r Aelod Seneddol y Parchedig Henry Richard, yr "Apostol Heddwch"
- 1993 – gosododd Colin Jackson y record ar gyfer ras clwydi 110 metr; record a barodd hyd 2006.
- 1911 – cafodd y Mona Lisa, peintiad gan Leonardo da Vinci, ei ddwyn o Amgueddfa'r Louvre
- 1940 – ym Mecsico, lladdwyd Leon Trotsky dan orchymyn Joseff Stalin
- 1948 – caewyd Rheilffordd Corris
- 2005 – bu farw Robert Moog, dyfeisiwr Americanaidd ac arloeswr cerddoriaeth electronig
22 Awst: Gŵyl mabsant Gwyddelan
- 1485 – meddiannodd Harri Tudur goron Lloegr ym Mrwydr Bosworth
- 1864 – sefydlwyd mudiad y Groes Goch yng Ngenefa, y Swistir
- 1943 – darganfuwyd celc o arteffactau Celtaidd yn Llyn Cerrig Bach, Môn
- 1922 – bu farw Michael Collins, arweinydd y gwrthryfel Gwyddelig yn erbyn Prydain
- 1972 – yn yr Ariannin, llofruddiwyd 16 o bobl yng Nghyflafan Trelew
23 Awst: Gŵyl mabsant Tudful; Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Fasnach Gaethweision a'i Diddymiad
- 1305 – dienyddiwyd William Wallace, arwr Albanaidd, yn Smithfield, Llundain, drwy grogi, diberfeddu a chwarteru
- 1634 – bu farw Tomos Prys (neu 'Tomos Prys o Blas Iolyn'): bardd, milwr a m��r-leidr
- 1942 – yn yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd Brwydr Stalingrad
- 1945 – ganwyd Anthony Crockett, Esgob Bangor
24 Awst: Diwrnod annibyniaeth Wcráin (1991)
- 79 – ffrwydrodd y llosgfynydd Vesuvius, gan ddinistrio trefi Pompeii a Herculaneum
- 1552 – ganwyd yr arlunydd o Eidales Lavinia Fontana
- 1890 – ganwyd Jean Rhys, awdures yn yr iaith Saesneg, yn Nominica
- 1943 – ganwyd Dafydd Iwan, ymgyrchydd carismatig dros y Gymraeg, ac un o gantorion pop mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif.
25 Awst: Gŵyl Elen Luyddog, cymeriad yn y chwedl Breuddwyd Macsen Wledig
- 1688 – bu farw'r môr-leidr Harri Morgan yn Jamaica
- 1900 – bu farw'r athronydd o Almaenwr Friedrich Nietzsche
- 1930 – ganwyd yr actor Sean Connery yng Nghaeredin
- 1952 – bu farw James Kitchener Davies, bardd, dramodydd a chenedlaetholwr
- 1346 – ymladdwyd Brwydr Crécy, brwydr fawr gyntaf y Rhyfel Can Mlynedd, rhwng byddinoedd Lloegr a Ffrainc
- 1839 – bu farw Edward Jones, Bathafarn, tad Methodistiaeth Wesleaidd Cymru yn Leek, swydd Stafford
- 1892 – ffrwydrad Glofa Parc Slip yn Nhon-du, ger Pen-y-bont ar Ogwr; bu farw 112 o fechgyn a achoswyd gan un o'r lampiau Davy
- 1910 – ganwyd y genhades Y Fam Teresa
- 1958 – bu farw'r cyfansoddwr Ralph Vaughan Williams, roedd ei dad Arthur Vaughan Williams (1834–1875) o dras Gymreig.
27 Awst: Diwrnod annibyniaeth Moldofa (1991)
- 1576 – bu farw'r arlunydd Tiziano Vecellio
- 1591 – bu farw Catrin o Ferain, a elwir hefyd yn 'Fam Cymru'
- 1881 – pasiwyd Deddf Cau Tafarnau ar y Sul, y ddeddfwriaeth Seneddol gyntaf ers 17g i gyfeirio'n benodol at Gymru
- 1908 – ganwyd yr actores Elen Roger Jones
- 1981 – cychwynnodd Gorymdaith Heddwch y Merched o Neuadd Dinas Caerdydd i Greenham Common.
28 Awst: Gŵyl Sant Awstin o Hippo
- 1749 – ganwyd Johann Wolfgang von Goethe, llenor Almaenig
- 1913 – ganwyd Hugh Cudlipp yng Nghaerdydd, brenin y tabloids; yn 24 oed, ef oedd golygydd ieuengaf Stryd y Fflyd
- 1934 – bu farw Edgeworth David, fforiwr Awstralaidd o dras Gymreig
- 1942 – ganwyd yr hanesydd a'r archaeolegydd Wendy Davies
- 1963 – traddododd Martin Luther King ei araith "Mae gen i freuddwyd" yn ystod rali hawliau sifil yn Washington, D.C.
29 Awst - Gŵyl Ieuan y Moch (neu yn y de: Gwyl Ieuan y Cols) - y dyddiad cyntaf pan oedd yn gyfreithlon i yrru moch i'r coed i’w pesgi ar fes ar gyfer y mesobr (pannage).
- 1915 – ganwyd Ingrid Bergman, actores. Bu hefyd farw ar y dydd hwn yn 1982.
- 1975 – bu farw Éamon de Valera, 82, Taoiseach cyntaf Iwerddon
- 1982 – crëwyd yr elfen gemegol Meitneriwm am y tro cyntaf gan ddau wyddonydd o'r Almaen
- 1982 – lansiwyd y papur Sul Cymraeg Sulyn gan Eifion Glyn a Dylan Iorwerth; cyhoeddwyd 14 rhifyn
- 1797 – ganwyd Mary Shelley, awdures y nofel Gothig Frankenstein, or The Modern Prometheus († 1851)
- 1836 – sefydlwyd tref Houston ger glannau Buffalo Bayou; fe dderbyniodd statws dinas yn 1837
- 1962 – bu farw'r bardd Cymraeg Edgar Phillips (neu Trefin), teiliwr a fu'n Archdderwydd rhwng 1960 ac 1962
- 2013 – bu farw'r bardd Gwyddelig Seamus Heaney, awdur Death of a Naturalist (1966) a Door into the Dark (1969)
- Diwrnod annibyniaeth Cirgistan oddi wrth yr Undeb Sofietaidd (1991).
- 1568 – bu farw'r hynafiaethydd a'r awdur Cymreig Humphrey Lhuyd yn Ninbych
- 1881 – ganwyd yr hanesydd a'r awdur Cymreig Robert Thomas Jenkins (R. T. Jenkins), yn Lerpwl
- 1892 – dadorchuddiwyd cloc y dref yn goron ar Neuadd y Dref, neu'r Guildhall, Aberteifi
- 1921 – ganwyd Raymond Williams, awdur ac arloeswr ym maes astudiaethau diwylliannol, yn y Pandy, Sir Fynwy
- 1997 – lladdwyd Diana, Tywysoges Cymru, ym Mharis yn 36 oed
|