Wici SpynjBob Pantsgwâr
Wici SpynjBob Pantsgwâr
Mr Cranci

Caradog Cranci, a elwir yn fwy cyffredin fel Mr. Cranci (Saesneg: Mr. Krabs) yw un o ddeg prif gymeriad y gyfres. Cranc coch cybyddlyd yw e sy'n byw mewn angor ym Pant y Bicini gyda ei ferch, Perl Cranci. Perchennog a sylfaenydd y Crancdy yw e ble mae'n cyflogi SpynjBob Pantsgwâr fel sieff ffrio a Sulwyn Surbwch fel ariannwr yn y tŷ bwyta.

Mae gan Mr Cranci obsesiwn afiach am arian ac mae'n mynd i gryn dipyn i gynyddu ei gyfoeth, i'r pwynt ble mae'n ffafrio arian na phobl. Unig gystadleuaeth fusnes Mr. Cranci ddaw o'r Abwydal-gi, bwyty diffygiol sy'n cael ei redeg gan Al-gi a'i wraig Karen. Mae'r ddau yn cynllunio'n barhaus i ddwyn fformiwla cudd y Byrgyr Cranci, y peth sy'n gwneud y Crancdy mor llwyddiannus.

Mae Mr. Cranci yn cael ei leisio gan Clancy Brown yn y fersiwn Saesneg wreiddol a gan Rhys Parry Jones yn y trosleisiad Cymraeg.

Oriel[]