Neidio i'r cynnwys

ton

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Wicipedia
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
Ton ar y môr

Cynaniad

  • /tɔn/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol tonn o’r Gelteg *tundā o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)teud- ‘gwthio, curo, gyrru’, fel yn cystudd, neu o’r Gelteg *tusnā o’r gwreiddyn *teu̯h₂- ‘(ym)chwydd’, fel yn tyfu.[1][2] Cymharer â’r Gernyweg tonn ‘ton’, y Llydaweg tonn ‘moryn, caseg fôr’ a’r Wyddeleg tonn ‘ton’.

Enw

ton b (lluosog: tonnau)

  1. Aflonyddwch symudol mewn gwastadedd corff o ddŵr.
  2. (ffiseg) Aflonyddwch symudol mewn gwastadedd egni maes.
  3. Croen ar wyneb y tir h.y. tir sydd wedi magu croen am nad yw wedi aredig ers blynyddoedd. Mae i raddau yn gyfyngedig i dde-ddwyrain Cymru. Ceir mewn enwau lleoedd fel Ton-Du, Ton-teg, Tonypandy a Tonyrefail.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau

Cyfeiriadau

  1. Ranko Matasović: Etymological dictionary of Proto-Celtic, d.g. ‘*tunda-’, Leiden: Brill, 2009, tud. 394.
  2. Nicholas Zair: The reflexes of the Proto-Indo-European laryngeals in Celtic, Leiden: Brill, 2012, tud. 155.