XIII.
Nid haeriad dwl yw y dywediad fod y gwaed a'r anian Geltaidd wrth wraidd mawredd Prydain. Y mae fel ystof ar ba un y gweuwyd y genedl gyfansawdd fawr a elwir yn "British Nation." Y genedl neu yr ach Geltaidd yw yr ystof, a'r Rufeinaidd, y Sacsonaidd, y Ddanaidd a'r Normanaidd yw yr amrywiol we. Fel y dywed Matthew Arnold, i hon y mae y Saeson yn ddyledus am eu hysbryd annibynol, eu hyni, eu cariad at ryddid, eu cydymdeimlad ag egwyddor cyfiawnder, gonestrwydd, uniondeb mewn llysoedd barn, &c. Y gwaed Celtaidd yn nghalon y Sais gyfrifa am ei fod yn well na'r Ellmyn, ei lysfrawd, ar y Cyfandir. Y mae mwy o waed y Cymro yn y Sais nag sydd ynddo o'i waed ei hun! Ond, cofier mai gwaed y Cymro yn ei amser goreu sydd yn y Sais, nid y Cymro dirywiedig presenol. Gwaed y Cymro pan oedd yn arwrol ac yn rhamantus. Diau fod llawer o'r gwaed a'r awen Geltaidd hon yn Shakespeare a Milton, Byron, Burns ac eraill. Y dyddiau hyn, y mae wedi myned yn ffasiwn i haeru fod y Celtiaid yn anwadal ac yn ddiddyfalwch. Y maent mewn rhyw ystyr yn hyny, ond mewn ystyr arall y maent y bobl ddyfalaf a chyndynaf ar lawr y ddaear. Y maent yn ddiarebol o ymlyngar wrth rai pethau, a