Yswiriant
Enghraifft o'r canlynol | cangen economaidd, categori o gynhyrchion |
---|---|
Math | financial product, gwasanaethau ariannol, mitigation |
Rhan o | quaternary sector of the economy, rheoli risg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maeyswiriant yn ffurf o amddiffyniad rhag colled ariannol. Mae'n cael ei ddefnyddio i reoli risg, yn bennaf yn erbyn y risg o golled annisgwyl.
Mae endid sy'n darparu yswiriant yn cael ei alw'n yswiriwr, cwmni yswiriant, cludwr yswiriant neu warantwr. Mae'r person neu endid sy'n prynu'r yswiriant yn cael ei adnabod fel y sawl sydd wedi'i yswirio neu ddeiliad polisi. Mae'r sawl sy'n cael ei yswirio yn derbyn colled fechan sicr a hysbys ar ffurf taliad i'w yswiriwr er mwyn derbyn addewid gan yr yswiriwr y byddai'n ei ddigolledu pe byddai'r risg o golled fwy yn cael ei gwireddu. Gallai'r golled fod yn ariannol neu beidio, ond mae'n rhaid gallu ei drafod mewn termau ariannol, ac mae fel arfer yn ymwneud â rhywbeth y mae gan y sawl sy'n cael ei yswirio fudd ynddo trwy berchnogaeth, eiddo neu berthynas.
Mae'r sawl sy'n cael ei yswirio yn derbyn cytundeb sy'n cael ei alw'n bolisi yswiriant ac yn cynnwys manylion yr amodau ac yn disgrifio o dan amgylchiadau y byddai'r yswiriwr yn ei ddigolledu. Mae swm yr arian sy'n cael ei godi am yr yswiriant yn cael ei nodi yn y polisi yswiriant a'i alw'n premiwm. Os yw'r sawl sydd wedi'i yswirio yn wynebu colled sy'n dod o dan y polisi, mae'n cyflwyno cais i'r yswiriwr i'w brosesu gan aseswr ceisiadau. Gall yr yswiriwr gael sicrwydd yn erbyn risg ei hun trwy gymryd adyswirianr, ble mae cwmni yswiriant arall yn cytuno i ysgwyddo peth o'r risg, yn arbennig os yw'r prif yswiriwr yn ystyried y risg yn rhy fawr i'w ysgwyddo ei hun.
Roedd dulliau o drosglwyddo neu wasgaru risg yn cael eu defnyddio gan fasnachwyr Tsieiniaidd a Babylonaidd yn y drydedd a'r ail fileniwm cyn Crist.[1]
Tua 800 CC, creodd trigolion Rhodes y 'cyfartaledd cyffredinol' er mwyn galluogi grwpiau o fasnachwyr i dal i yswirio'r nwyddau oedd yn cael eu cludo ar y llongau.[2]
Cafodd cytundebau yn unswydd at ddibenion yswiriant eu llunio am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, yn Genova yn y 14g. Mae'r cynharaf wedi'i ddyddio 1347.[3]
Daeth yswiriant yn llawer mwy soffistigedig yng nghyfnod yr Oleuedigaeth yn Ewrop, a datblygwyd ffurfiau mwy arbenigol, yn cynnwys yswiriant eiddo, yswiriant busnes, yswiriant iechyd a bywyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gweler e.e., E. J.Vaughan, Risk Management (New York: Wiley, 1997).
- ↑ "Lex Rhodia: The Ancient Ancestor of Maritime Law - 800 BC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-28. Cyrchwyd 2018-09-03.
- ↑ J. Franklin, The Science of Conjecture: Evidence and Probability Before Pascal (Baltimore: Johns Hopkins University Press, 2001), tt. 274-77.