Y Swyddfa Gymreig
Enghraifft o'r canlynol | Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, defunct government institution |
---|---|
Daeth i ben | 1 Gorffennaf 1999 |
Dechrau/Sefydlu | 1965 |
Olynydd | Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru |
Pencadlys | Cymru |
Adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o feysydd polisi Cymru oedd y Swyddfa Gymreig (1965 - 1999). Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym 1965 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn gweithredu polisïau Llywodraeth Prydain yng Nghymru. Daethai swydd yr Ysgrifennydd Gwladol i fodolaeth ym mis Hydref y flwyddyn gynt. Tŷ Gwydyr yn Whitehall, Llundain oedd cartref y Swyddfa Gymreig.
Roedd cyfrifoldebau'r Swyddfa Gymreig yn cynnwys iechyd, addysg, yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, llywodraeth leol, gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth, amddiffyn yr amgylchedd a chadwraeth natur, defnydd tir, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd, henebion, cynllunio gwlad a threfol, ffyrdd, twristiaeth, gweithrediad Cronfa Ddatblygu Ewrop yng Nghymru a materion eraill yr Undeb Ewropeaidd. Wrth ei sefydlu, felly, cymerodd y Swyddfa Gymreig gyfrifoldeb am faterion yr oedd sawl adran wahanol o lywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt cyn hynny.
Newidiodd pethau ar ôl refferendwm datganoli 1997, a chafodd y Swyddfa Gymreig ei diddymu yn swyddogol ar 1 Gorffennaf 1999 pan drosglwyddwyd mwyafrif ei chyfrifoldebau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Pennaeth Swyddfa Cymru yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru bellach.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |