Westminster
Math | ardal o Lundain, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.4995°N 0.1333°W |
Cod OS | TQ295795 |
Cod post | SW1 |
- Gweler hefyd: Senedd y Deyrnas Unedig
Westminster yw'r enw a roddir ar ardal yng nghanol Llundain. Dyma ganolbwynt gwleidyddol y Deyrnas Unedig am i'w Senedd gyfarfod ym Mhalas San Steffan yn y fangre. Crëwyd y fwrdeistref fodern llawer ehangach, Dinas Westminster, ym 1900.
Hen enw Saesneg yr ardal yw Thorney Island, o'r dyddiau pan oedd y tir yn gorsiog ac yn anaddas ar gyfer adeiladu. Cyfeiria'r enw modern Westminster at Abaty a leolir yma. Yn Gymraeg defnyddir yr enw "San Steffan" i gyfeirio at y Senedd mewn modd tebyg ag y defnyddir Westminster yn Saesneg, ond nid yw'n ddilys cyfeirio at yr ardal fel "San Steffan" yn Gymraeg.[1]
Gyferbyn â Phalas San Steffan y mae Abaty Westminster, hen adeilad crefyddol a sefydlwyd gan Edward y Cyffeswr yn yr 11g. Mae coroni bron pob brenin a brenhines Lloegr wedi digwydd yn yr eglwys hon ers 1066, ac mae llawer ohonynt wedi'u claddu yno, ynghyd ag amryw o enwogion eraill. Penodwyd yr ardal sy'n cynnwys y Palas, yr Abaty ac Eglwys y Santes Fererid yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1987.
Yng nghanol yr ardal hon mae Sgwâr y Senedd (Parliament Square), lle ceir nifer o gerfluniau o wleidyddwyr o bwys, gan gynnwys un o Winston Churchill gan y cerflunydd Cymreig Ivor Roberts-Jones. Yn 2007 dadorchuddiwyd cerflun o David Lloyd George ar blinth o lechfaen Chwarel y Penrhyn, ac yn fwy diweddar ychwanegwyd cerfluniau o Nelson Mandela, Mahatma Gandhi a'r etholfreintwraig Millicent Fawcett. Mae Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, Neuadd Canolog y Methodistiaid a Chanolfan Cynadledda Brenhines Elisabeth II hefyd gerllaw, fel y mae ysgol bonedd Westminster.
I'r gogledd mae Whitehall, Sgwâr Trafalgar a Pharc Iago Sant, i'r gorllewin mae ardal gorsaf reilffordd Victoria a Phalas Buckingham, i'r de mae Pimlico ac i'r dwyrain dros afon Tafwys mae Lambeth.
Cyfieiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "Westminster"
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Westminster, gan Syr Walter Besant, Geraldine Edith Mitton a Mrs A. Murray Smith, 1902, o Brosiect Gutenberg