Wales, Massachusetts
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 1,832 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Massachusetts House of Representatives' 1st Hampden district, Massachusetts Senate's Worcester, Hampden, Hampshire and Middlesex district, Massachusetts Senate's Worcester, Hampden, Hampshire, and Franklin district |
Sir | Hampden County |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 16 mi² |
Uwch y môr | 289 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 42.0694°N 72.2228°W |
Cod post | 01081 |
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Tref yn Hampden County, yn nhalaith Massachusetts, Unol Daleithiau America, yw Wales. Y boblogaeth yn ôl cyfrifiad 2000 yw 1,737. Mae gan y dref sawl adeilad hanesyddol yn yr arddull pensaernïol sy'n nodweddiadol o Massachusetts.
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth yr ymsefydlwyr Ewropeaidd cyntaf i Wales yn 1726 a chafodd ei chorffori'n swyddogol ar 23 Awst 1775 fel South Brimfield ; newidiwyd yr enw i Wales ar 20 Chwefror 1828 ar ôl ei noddwr cyfoethog James Lawrence Wales.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn ôl gwybodaeth Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y dref arwynebedd o 41.3 km² (16.0 milltir²). Mae 40.8 km² (15.8 milltir²) ohoni yn dir a 0.5 km² (0.2 mi² ; 1.32%) yn ddŵr. Ffinir Wales i'r gorlewin gan Monson; i'r de gan Stafford (Connecticut) ac Union (Connecticut); i'r dwyrain gan Holland; ac i'r gogledd gan Brimfield.