Valérie Trierweiler
Valérie Trierweiler | |
---|---|
Ganwyd | Valérie Massonneau 16 Chwefror 1965 Angers |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, gwleidydd |
Swydd | spouse of the President of France |
Cyflogwr | |
Priod | Denis Trierweiler, Franck Thurieau |
Partner | François Hollande |
Plant | Léonard Trierweiler |
Gwobr/au | Uwch Cordon Urdd y Goron Anwyl |
llofnod | |
Llenor benywaidd o Ffrainc yw Valérie Trierweiler (née Massonneau; ganwyd 16 Chwefror 1965) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a gwleidydd. Mae wedi cadeirio rhaglenni teledu gwleidyddol ac wedi cyfrannu i'r cylchgrawn 'Paris Match'. Hyd at Ionawr 2014 hi oedd parter François Hollande, Arlywydd Ffrainc.[1]
Fe'i ganed yn Angers ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Pantheon-Sorbonne, Prifysgol Gorllewin Paris a Nanterre La Défense. Priododd Denis Trierweiler ac mae Léonard Trierweiler yn blentyn iddi.[2][3][4][5] [6]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Valérie Massonneau yn Angers, y pumed plentyn o chwech. Roedd ei thad, Jean-Noël Massonneau, wedi colli ei goes ar ffrwydryn-tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd yn 13, a bu farw yn 53 oed, pan oedd Valérie yn 21 oed. Roedd ei mam yn gweithio mewn derbynfa canolfan sglefrio iâ yn Angers yn dilyn marwolaeth ei gŵr.[7]
Astudiodd Hanes a Gwyddor Gwleidyddol a chafodd radd Meistr mewn gwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Paris 1 Pantheon-Sorbonne.[8]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 2005, dechreuodd gynnal sioeau siarad gwleidyddol, yn enwedig cyfweliadau, ar sianel deledu Direct 8. Cyflwynodd y sioe siarad wleidyddol wythnosol Le Grand 8 tan 2007, a gyda Mikaël Guedj mae wedi cyd-gynnal y sioe wythnosol Politiquement parlant ("siarad yn wleidyddol") ers mis Medi'r flwyddyn honno.
Yn 2012, cyhoeddodd y byddai'n cadw ei chytundeb fel newyddiadurwr gyda'r cylchgrawn Paris Match er gwaethaf i'w chariad gael ei hethol yn Arlywydd Ffrainc.[9]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Uwch Cordon Urdd y Goron Anwyl (2013)[10] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Valérie Trierweiler, la femme discrète, Le Point, 24 Chwefror 2011
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Valérie Trierweiler".
- ↑ "François Hollande officialise sa séparation avec Valérie Trierweiler". Le Monde. Cyrchwyd 26 Ionawr 2014.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.mofa.go.jp/mofaj/gaiko/protocol/jokun_h25.html.
- ↑ ""Valérie Trierweiler sort de l'ombre" par Marion Van Renterghem". Le Monde. 21 Hydref 2011. Cyrchwyd 16 Mai 2013.
- ↑ "Valérie Trierweiler, la femme discrète". Le Point. 24 Feb 2011. Cyrchwyd 2 Ebrill 2014.
- ↑ "Valérie Trierweiler, partner of new French President François Hollande: What you need to know". The Periscope Post. 15 Mai 2012. Cyrchwyd 16 Mai 2013.
- ↑ https://www.mofa.go.jp/mofaj/gaiko/protocol/jokun_h25.html.