Tyfrydog
Gwedd
Tyfrydog | |
---|---|
Ganwyd | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cysylltir gyda | Llandyfrydog |
Dydd gŵyl | 1 Ionawr |
Sant Cymreig oedd Tyfrydog (bl. 6C). Ef a sefydlodd eglwys Llandyfrydog ar ynys Môn, yn ôl traddodiad. Dethlir gŵyl Tyfrydog ar Ddydd Calan (1 Ionawr).
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn o wybodaeth sydd amdano. Yn ôl achau'r saint, roedd yn un o feibion Arwystli Gloff gan Dynwynedd ferch Amlawdd Wledig, ac felly o dras frenhinol.[1]
Ceir hanesyn gan Gerallt Gymro am 'ddial' y sant ar Huw Flaidd, Iarll Caer, yn 1098. Yn ôl Gerallt,
- Ar yr ynys hon, hefyd, y mae eglwys Sant Tyfrydog, cyffeswr. Pan letyodd Huw, Iarll Caer... ei gŵn dros nos ynddi, cafodd hwynt drannoeth y bore i gyd yn wallgof; a cyn pen mis syrthiodd ef ei hun yn farw mewn modd truenus.[2]
Lladdwyd Huw Flaidd fis ar ôl hynny gan Magnus III, brenin Norwy, mewn brwydr ar Afon Menai.