Twyn Llech
Gwedd
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 703.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.0083°N 3.0847°W |
Cod OS | SO2552335390 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 155 metr |
Cyfnod daearegol | Defonaidd |
Rhiant gopa | Waun Fach |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du |
Deunydd | tywodfaen |
- Gweler hefyd Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin) a Mynydd Du (Mynwy).
Mynydd yng nghadwyn y Mynydd Du, Powys, de-ddwyrain Cymru, yw Twyn Llech (Saesneg: Black Mountain).[1] Dyma'r unig fryn sydd â'i gopa'n gorwedd yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda'r mynydd yn cael ei rannu rhwng Powys a Swydd Henffordd. Ei uchder yw 703 m (2,306 tr).
Rhed Clawdd Offa a'r llwybr pellter hir sy'n ei ddilyn ar hyd crib Twyn Llech, o'r de i'r gogledd, tra bo llwybr arall, mwy syrth, yn dringo o'r hostel ieuenctid yn Nyffryn Ewyas i'r gorllewin. Ni nodir y copa gan bwynt trigonometrig. Waun Fach yw'r bryn agosaf.
Er bod copaon uwch yn agos i'r mynydd yng Nghymru, Twyn Llech yw'r pwynt uchaf yn Lloegr i'r de o'r Yorkshire Dales.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Myrddyn Phillips, 'Twyn Llech (SO 255 353)'; gwelwyd 4 Medi 2018.