Neidio i'r cynnwys

Trajan

Oddi ar Wicipedia
Trajan
GanwydMarcus Ulpius Traianus Edit this on Wikidata
18 Medi 0053 Edit this on Wikidata
Italica, Pedraza Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 117 Edit this on Wikidata
o y parlys mud Edit this on Wikidata
Selinus, Cilicia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd, gwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadMarcus Ulpius Traianus, Nerva Edit this on Wikidata
MamMarcia Edit this on Wikidata
PriodPompeia Plotina Edit this on Wikidata
PlantHadrian Edit this on Wikidata
LlinachUlpii Traiani, Nerva–Antonine dynasty Edit this on Wikidata

Caesar Nerva Traianus Germanicus neu Trajan (18 Medi 539 Awst 117), oedd Ymerawdwr Rhufain o 28 Ionawr 98 hyd ei farwolaeth. Ganwyd Marcus Ulpius Traianus.

Ganed Trajan yn y ddinas Rufeinig Italica (Santiponce heddiw), heb fod ymhell o ddinas Hispalis (Sevilla heddiw), rhan o dalaith Baetica. Roedd ei dad, oedd a'r un enw, yn un o ddilynwyr pwysicaf Vespasian. Dilynodd Trajan yr yrfa gyhoeddus draddodiadol, gan ddod yn gonswl yn 91. Priododd Ulpia Plotina, ond ni fu ganddynt blant.

Yn ystod teyrnasiad Nerva daeth Trajan yn rhaglaw talaith Germania Superior. Mabwysiadodd Nerva ef fel mab ac fel olynydd iddo. Roedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ôl dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd ar Afon Rhein ac Afon Donaw. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn 99. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Daciaid, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn Rwmania. Bu dau ryfel yn erbyn Decebalus, brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newydd Dacia. Adeiladwyd Colofn Trajan yn Rhufain i goffhau ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd crëwyd talaith Arabia Petraea.

Yr ymerodraeth Rufeinig ar ei heithaf yn 117, ar ddiwedd teyrnasiad Trajan

Yn 113 dechreuodd rhyfel yn erbyn y Parthiaid. Cipiodd Ctesiphon, prifddinas Parthia, yn 115, ac ymgorfforwyd Armenia, Asyria a Mesopotamia yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ôl o'r brwydro yma, yn Selinus, gerllaw y Môr Du, ar yr 8 Awst 117. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd Trajan Hadrian fel ei olynydd.

Rhagflaenydd:
Nerva
Ymerawdwr Rhufain
28 Ionawr 987 Awst 117
Olynydd:
Hadrian
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato