Tolyatti
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Palmiro Togliatti ![]() |
Poblogaeth | 667,956 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Nikolay Rents ![]() |
Cylchfa amser | UTC+04:00, Amser Moscfa, Amser Samara, Amser Moscfa ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Okrug Dinesig Tolyatti ![]() |
Gwlad | Rwsia ![]() |
Arwynebedd | 314.78 km² ![]() |
Uwch y môr | 90 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Volga, Cronfa Kuybyshev ![]() |
Yn ffinio gyda | Ardal Stavropolsky, Zhigulyovsk, Sir Stavropolskiy ![]() |
Cyfesurynnau | 53.52°N 49.42°E ![]() |
Cod post | 445000–445999 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Tolyatti ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Nikolay Rents ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Vasily Tatishchev ![]() |
Dinas yn Oblast Samara, Rwsia, yw Tolyatti (Rwseg: Тольятти ), a adnabyddir mewn rhai ieithoedd fel Togliatti hefyd. Saif ar lan Afon Volga. Poblogaeth: 719,632 (Cyfrifiad 2010).
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd ei sefydlu fel caer yn 1737 wrth yr enw Stavropol a ddaeth i'w galw yn Stavropol-ar-Volga (Ста́врополь-на-Во́лге, Stavropol-na-Volge) er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a dinas Stavropol.
Cafodd cronfa fawr Kuybyshev ei hadeiladu yn y 1950au gan foddi'r hen safle a chodwyd dinas newydd gerllaw. Yn 1964, ailenwyd y ddinas yn Tolyatti er anrhydedd i Palmiro Togliatti, ysgrifennydd hir dymor Plaid Gomiwnyddol yr Eidal.
Economi
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd ffatri ceir Lada yn Tolyatti sy'n cyflogi 110,000 mewn cydweithrediad gyda Fiat (ers 1970) a General Motors (ers 2001).
Ers hynny mae diwydiannau eraill wedi'i sefydlu, yn cynnwys gweithfeydd petrogemegol a chynhyrchu gwrtaith artiffisial. Mae gan y ddinas borthladd prysur ar Afon Volga.
Addysg
[golygu | golygu cod]Ceir tair prifysgol yn y ddinas, yn cynnwys Prifysgol Wladol Tolyatti (Тольяттинский государственный университет ТГУ).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2019-06-03 yn y Peiriant Wayback
- (Rwseg) Prifysgol Wladol Tolyatti Archifwyd 2013-08-26 yn y Peiriant Wayback