Neidio i'r cynnwys

Tokusatsu

Oddi ar Wicipedia
Tokusatsu
Math o gyfrwnggenre mewn ffilm, arddull teledu Edit this on Wikidata
Mathffilm ffuglen ddyfaliadol, tokusatsu Edit this on Wikidata
Enw brodorol特撮 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre ffilm a theledu o Japan yw tokusatsu (Japaneg: 特撮とくさつ, "ffilmio arbennig"). Mae tokusatsu yn defnyddio yn helaeth effeithiau arbennig sydd wedi'u seiliedig ar weithredu byw. Mae'n un o'r mathau mwyaf poblogaidd o adloniant yn Japan. Mae cysylltiad agos rhwng tokusatsu a ffuglen wyddonol, ffuglen ryfel, ffuglen arswyd a ffantasi.

Mae is-genres o tokusatsu yn cynnwys ffilmiau sy'n seiliedig ar kaiju (angenfilod enfawr) fel Godzilla a Gamera, archarwyr fel Kamen Rider a Metal Hero, arwyr kyodai (cymeriadau a all dyfu i faint aruthrol) fel Ultraman a Gridman; a mecha (robotiaid anferth) fel Giant Robo a Super Robot Red Baron.

Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.