Teyrnas Aksum
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Axum |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 14.128397°N 38.717257°E |
Arian | Aksumite currency |
Teyrnas a fodolai yng ngogledd-ddwyrain Affrica o'r 1g i'r 10g oedd Teyrnas Aksum. Fe'i lleolwyd yn y tir sydd heddiw yn Ethiopia ac Eritrea, yn ogystal ag ehangu i gynnwys arfordir Iemen ar ochr draw'r Môr Coch. Ar ei hanterth, o'r 3g i'r 6g, Aksum oedd y brif bŵer yn ardal y Môr Coch, a chanddi'r farchnad fwyaf yng ngogledd-ddwyrain Affrica.
Yn hanesyddol, tybiai ysgolheigion i Aksum darddu o un o deyrnasoedd y Sabeaid, pobl Semitaidd yn ne-orllewin Arabia. Bellach, cydnabyddir iddi ddatblygu'n gyntaf yn Affrica cyn ymestyn dros y môr.[1] Wrth iddi dyfu yn y 2g a'r 3g, daeth i wrthdaro â Theyrnas Kush i'r gogledd. Cipiwyd Meroë, prifddinas Kush, gan oresgynwyr o Aksum yn y 4g, gan sicrhau rheolaeth dros Flaenau Afon Nîl a'r Nîl Las. Byddai marsiandïwyr Aksum yn teithio a masnachu mor bell ag Alecsandria a thu hwnt i aberoedd Afon Nîl i'r Môr Canoldir.
Trodd brenhinoedd Aksum yn Gristnogion yn y 4g, a daeth y deyrnas yn gysylltiedig felly â'r Aifft, a oedd dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd. Yr Eglwys Goptaidd oedd y grefydd swyddogol. Yn y cyfnod hwn hefyd dechreuodd Aksum ehangu ei ddylanwad dros y Môr Coch, ac erbyn canol y 6g gorfodwyd Iemen i ildio i dra-arglwyddiaeth Aksum. Fodd bynnag, goresgynnwyd deheudir Arabia gan Ymerodraeth Persia yn niwedd y 6g, a daeth goruchafiaeth Aksum yno i ben. Dirywiodd dylanwad y deyrnas hefyd yn y gogledd, wrth i'r Arabiaid Mwslimaidd orchfygu'r Lefant a Gogledd Affrica ac atal y fasnach rhwng Aksum a'r Môr Canoldir. Cwtogwyd yn sylweddol ar rym Aksum, ond llwyddodd i reoli'r fasnach yng Ngwlff Aden, rhwng arfordir deheuol Arabia a phorthladd Zeila yn rhanbarth Adal (bellach Somaliland) hyd at ddiwedd y 9g.
Wrth i rym y brenhinoedd wanychu, esgynnodd tywysogion y bobl Agau i rym, a sefydlwyd brenhinllin y Zagwe yn y 12g.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Aksum. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ebrill 2023.