Neidio i'r cynnwys

Tanau gwyllt De Califfornia Ionawr 2025

Oddi ar Wicipedia
Tanau gwyllt De Califfornia Ionawr 2025
Enghraifft o:tân gwyllt, trychineb naturiol Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Ionawr 2025 Edit this on Wikidata
Lladdwyd25 Edit this on Wikidata
Rhan oTanau gwyllt Califfornia 2025 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Ionawr 2025 Edit this on Wikidata
LleoliadLos Angeles County, Ventura County, San Bernardino County, Riverside County, San Diego County, Santa Barbara County Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPalisades Fire, Eaton Fire, Hurst Fire, Sunset Fire Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn cychwyn ar 7 Ionawr 2025, cafwyd cyfres barhaus o danau gwyllt trychinebus a effeithiodd ardal fetropolitan Los Angeles a'r rhanbarthau cyfagos. Roedd yr amodau a achosodd y tanau yn cynnwys aer gyda lleithder isel iawn, cyfnod hir o sychder, a gwyntoedd corwynt Santa Ana oedd mewn rhai mannau wedi cyrraedd 100 milltir yr awr (160 km/a).

Erbyn 19 Ionawr, roedd y tanau wedi lladd o leiaf 27 o bobl[1], ac wedi dinistrio neu ddifrodi mwy na 12,401 o strwythurau. Ar ei waethaf gorfodwyd dros 200,000 i adael eu tai dros dro. Mae'r rhan fwyaf o'r difrod wedi'i wneud gan y ddau dân mwyaf: Tân Palisades a Tân Eaton.[2]

Wrth i'r gwyntoedd ddechrau chwythu ar 7 Ionawr, datganodd Dinas Los Angeles gyflwr o argyfwng gan ragweld gwyntoedd dwysach. Cyhoeddwyd rhybudd storm llwch ar gyfer sawl sir yn Ne California, gan rybuddio y gallai’r gwyntoedd garw chwythu llwch a phridd i’r aer, gan ganiatáu iddo gael ei anadlu.[3]

Dangosodd ystadegau Wildfire Alliance mai tân y Palisades oedd y mwyaf dinistriol o bell ffordd yn rhanbarth Los Angeles, gydag o leiaf 1,000 o strwythurau wedi'u dinistrio, yn uwch na Thân Sayre a ddinistriodd 604 o strwythurau yn 2008, a Thân Bel Air a ddinistriodd bron i 500 o dai yn 1961.[4][5]

Llosgodd nifer o dai enwogion yn y tanau gwylltion, gan gynnwys cartrefi Mandy Moore, Cary Elwes, Eugene Levy, Billy Crystal, Paris Hilton, Adam Brody, Leighton Meester, Anthony Hopkins, Jeff Bridges, John Goodman, Miles Teller, James Woods, Mel Gibson, Diane Warren, Mark Hamill, Ricki Lake, ac Ed Harris.[6][4][7][8][9] Dinistriwyd cartref hanesyddol a ransh y digirifwr Will Rogers hefyd.[10][11]

Cafwyd adroddiadau ar raglenni a gwefan Newyddion S4C gan y gohebydd Maxine Hughes, yn adrodd profiadau rhai o'r Cymry sy'n byw yn Los Angeles.[12] Bu'r newyddiadurwyr Rhodri Llywelyn a Liam Evans o BBC Cymru yn gohebu yno hefyd.[13]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "What we know about the victims killed in the California wildfires". NBC News (yn Saesneg). 2025-01-18. Cyrchwyd 2025-01-19.
  2. "What to know about thousands of evacuations and homes burned in los Angeles-area fires". Associated Press News.
  3. "Fire explodes to more than 1,200 acres, reaches beach in Malibu". ABC7 Los Angeles (yn Saesneg). 8 Ionawr 2025. Cyrchwyd 8 Ionawr 2025.
  4. 4.0 4.1 Boone, Rebecca; Ding, Jaimie; Baumann, Lisa; et al. (8 Ionawr 2025). "Los Angeles-area wildfires: Live Updates from Jan. 8, 2025". AP News (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Ionawr 2025.
  5. "Wildfires latest: At least 5 people have died in Los Angeles-area fires". opb (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Ionawr 2025.
  6. "A-list couple's home destroyed in LA fires – Leighton Meester and Adam Brody forced to flee". news.com.au. 9 Ionawr 2025. Cyrchwyd 9 Ionawr 2025.
  7. "Celebrities among those who lost homes as devastating Los Angeles fires". AP News (yn Saesneg). 8 Ionawr 2025. Cyrchwyd 9 Ionawr 2025.
  8. Cain, Sian (9 Ionawr 2025). "Billy Crystal, Cary Elwes and Eugene Levy among celebrities to lose homes in California fires". The Guardian.
  9. Rahman, Abid (9 Ionawr 2025). "Mel Gibson's Malibu House Burned Down While He Was in Austin for Joe Rogan Interview: "My Place Looked Like Dresden"". Hollywood Reporter.
  10. "Will Rogers Ranch Foundation". Cyrchwyd 9 Ionawr 2025.
  11. Campa, Andrew J. (9 Ionawr 2025). "Will Rogers' ranch house and motel owned by William Randolph Hearst consumed by Palisades fire". Los Angeles Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Ionawr 2025.
  12. "Tanau LA: Profiadau rhai o'r Cymry sydd yno". newyddion.s4c.cymru. 2025-01-11. Cyrchwyd 2025-01-11.
  13. "Tanau LA: 'Y simneiau sy'n gofgolofn i'r cymunedau a fu'". BBC Cymru Fyw. 2025-01-12. Cyrchwyd 2025-01-12.