Starship SpaceX
Enghraifft o'r canlynol | teulu o rocedi |
---|---|
Math | arch-gerbyd lansio all godi pwysau trwm, reusable launch vehicle |
Deunydd | SAE 304 stainless steel |
Màs | 5,000 tunnell, 11,000,000 pwys |
Gwlad | UDA |
Rhan o | cerbydau lawnsio SpaceX, rhaglen Artemis, rhaglen rhyngblanedol SpaceX, Rocket Cargo, rhaglen datblygu system lansio ailddefnyddiadwy SpaceX |
Dechrau/Sefydlu | 2005 |
Perchennog | SpaceX |
Yn cynnwys | Super Heavy, Starship |
Gwneuthurwr | SpaceX |
Rhagflaenydd | Big Falcon Rocket |
Gwefan | https://www.spacex.com/vehicles/starship/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Starship yn gerbyd lansio dwy ran ac yn llong ofod enfawr sy'n cael ei datblygu gan y cwmni Americanaidd SpaceX. Dyma'r cerbyd lansio trymaf, talaf a mwyaf pwerus sydd wedi hedfan i'r gofod.[1]
Bwriedir i Starship fod yn gwbl ailddefnyddiadwy, sy'n golygu y bydd y ddau gam yn cael eu hadfer ar ôl cenhadaeth a'u hailddefnyddio. Enwyd y roced cyfan hwn ar ôl y rhan uchaf; enw'r rhan isaf yw Heavy Booster.
Mae'r llongofod Starship wedi'i gynllunio i ddisodli rocedi Falcon 9 a Falcon Heavy, ehangu'r rhwydwaith o loerenau Starlink, a lansio criwiau i'r Lleuad ac i blaned Mawrth. Mae SpaceX, un o gwmniau Elon Musk, yn bwriadu defnyddio cerbydau Starship hefyd fel tanceri tanwydd (methylocs), er mwyn cyflenwi tanwydd i Starships eraill. Mae SpaceX wedoi arwyddo cytundeb gyda NASA i gludo gofodwyr i'r Lleuad, tua 2025, fel rhan o'r raglen Artemis NASA. Ar ddiwedd y dydd, pwrpas Starship yw gwireddu breuddwyd Elon Musk o wladychu'r blaned Mawrth.
Fel y nodwyd, mae Starship yn cynnwys dwy ran: y Super Heavy booster a'r llong ofod Starship ei hun. Mae'r Booster a'r llongofod yn cael eu pweru gan beiriannau Raptor, sy'n llosgi methan hylifol ac ocsigen hylifol (sef Methylocs). Mae'r ddau gam wedi'u hadeiladu'n bennaf o ddur gwrthstraen (stainless steel), sy'n ddeunydd ysgafn ond anarferol i'w gael mewn roced. Atgyfnerthir y Starship gan deils clai pan mae'n dychwelyd i atmosffer y Ddaear, ac mae'n arafu ei hun (drwy roced pwrpasol), cyn cael ei ddal gan bâr o freichiau mecanyddol (y chopsticks) sydd ynghlwm wrth y tŵr lansio.Mae hefyd yn defnyddio symudiad belly flop lle mae'r llong ofod yn troi o safle fertigol i safle llorweddol, cyn troi'n ôl, tanio rocedi a glanio'n fertigol.
Nod y system Starship yw lansio i'r gofod yn aml, am gost isel. Edrychir ar bob prawf fel gwersi pwysig, ac yn aml mae'r prawf yn ddinistriol (yn fethiant yng ngolwg rhai), profion ar gerbydau-gofod prototeip.[2] Cynhaliwyd prawf hedfan cyntaf y system Starship lawn ar 20 Ebrill 2023 a daeth i ben bedwar munud ar ôl ei lansio drwy ddinistrio'r cerbyd prawf. Digwyddodd yr ail brawf ar 18 Tachwedd 2023, ond tra bod y ddwy ran wedi gwahanu'n llwyddiannus, ffrwydrodd y Super Heavy yn syth ar ôl gwahanu, tra collwyd y rhan uchaf (Starlink ei hun) bron i wyth munud ar ôl ei lansio.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cysyniadau dylunio cynnar (2012-2018)
[golygu | golygu cod]Yn Nhachwedd 2005,[4] cyn i SpaceX lansio ei roced gyntaf y Falcon 1, [5] soniodd y Prif Swyddog Gweithredol Elon Musk am y cysyniad hwn o roced hirdymor gyda chynhwysedd uchel a allai lansio dros 100 tunnell i orbit isel y Ddaear.[4] Yn ddiweddarach yn 2012, cyhoeddodd Elon Musk gynlluniau i ddatblygu roced fyddfai'n rhagori ar rym a chynhwysedd Falcon 9, roced lwyddiannus arall gan SpaceX.[6] Galwodd SpaceX ef yn Gludwr Trefedigaethol Mawrth (Mars Colonial Transporter) gan mai holl bwrpas y roced fyddai cludo bodau dynol i'r blaned Mawrth a chreu trefedigaeth o filiwn o bobl yno.[7]
Yn 2016, newidiwyd yr enw i Interplanetary Transport System, gan fod y roced wedi'i gynllunio i deithio y tu hwnt i'r blaned Mawrth.[8] Roedd y dyluniad hwn wedi'i wneud o ffibr carbon,[9] byddai wedi dal dros 10,000 o dunelli o danwydd ac yn cario 300 tunnell i orbit isel y Ddaear, tra'n gobeithiwyd y gellid ei ailddefnyddio'n llawn.[9] Erbyn 2017, cafodd y roced fawr ei hail-alw'n Big Falcon Rocket am gyfnod byr a chyhoeddwyd nifer o gynlluniau ar gyfer addasiadau megis Starship cargo, tancer a chludo pobl.[10]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]- 2023
Mae'r canlynol yn ddisgrifiad o Starship yn Rhagfyr 2023:
Wedi ei bentyrru;n llawn a'i lenwi gyda thanwydd, mae gan Starship fàs o tua 5,000t (11,000,000 pwys) dry mass: 200 t (440,000 lb); Starship dry mass: <120 t (260,000 lb); Super Heavy propellant mass: 3,400 t (7,500,000 lb);[11] Starship propellant mass: 1,200 t (2,600,000 lb).[12] The total of these masses is about 5,000 t (11,000,000 lb).}}, diamedr o 9m (30ft)[13] ac uchder o 121m (397tr).[14] Mae'r roced wedi'i dylunio gyda'r nod o fod yn gwbl ailddefnyddiadwy i leihau'r costau. Gall gario 150t (330,000 pwys) i orbit isel o'r Ddaear, tra rhagwelir y ganddo cyn hir gapasiti llwyth o 250t (550,000 pwys).[15]
Mae'r roced yn cynnwys y cam cyntaf neu'r bwster Super Heavy, a'r Starship sef yr ail-gam sydd yn lllongofod,[16] ac sy'n cael ei bweru gan y peiriannau Raptor II.[17][18]
Mae'r bwster Super Heavy, yn 71m (233tr) o uchder a 9m (30tr) o led,[13] ac yn cynnwys 33 o beiriannau Adar Ysglyfaethus wedi'u trefnu mewn cylchoedd consentrig. [19] Mae'r cylch mwyaf allanol o 20 injan o'r cyfluniad "Raptor Boost", sydd heb actiwadyddion gimbal i arbed pwysau a chost. [20] Ar bŵer llawn, mae pob injan gyda'i gilydd yn cynhyrchu 74,400 kN (16,700,000 pwys) o wthiad.[15]
Yr injan Raptor
[golygu | golygu cod]Teulu o beiriannau roced yw Raptor, teulu a ddatblygwyd gan SpaceX i'w defnyddio yn y cerbydau Starship a Super Heavy. Mae'n llosgi ocsigen hylifol a methan mewn cylch pŵer hylosgi effeithlon a chymhleth. Mae injan Raptor yn defnyddio methan yn hytrach na cerosin fel tanwydd, oherwydd mae methan yn perfformio'n well ac yn atal dyddodion rhag cronni yn yr injan;[21] gall methan gael ei syntheseiddio'n uniongyrchol o garbon deuocsid a dŵr, gan ddefnyddio'r adwaith Sabatier.[22] Mae felly'n danwydd gwyrdd iawn ac maen nhw wedi'u cynllunio er mwyn eu hailddefnyddio lawer gwaith, heb fawr o waith cynnal a chadw.[23]
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]Lleolir Starbase yn Boca Chica, Texas ac mae'r a cheir yno gyfleuster gweithgynhyrchu a safle lansio.[24] Mae'r ddau 'n gweithredu bedair awr ar hugain y dydd.[25] Dywedir y ceir uchafswm o 450 o weithwyr llawn amser ar y safle'n ddyddiol.[26] Bwriedir i'r safle gynnwys dau safle lansio, un cyfleuster prosesu'r nwyddau a gludir, un fferm solar saith erw, a chyfleusterau eraill.[26][27] Ar les mae'r tir, felly mae Starbase am brydlesu cyfleuster ymchwil STARGATE, sy'n eiddo i Brifysgol Texas Rio Grande Valley.[28]
Yn McGregor, Texas, ceir cyfleusterau datblygu'r roced sydd hefyd yn profi pob injan Raptor. Mae gan y cyfleuster ddau brif stand prawf: un stand llorweddol ar gyfer y ddau fath o injan ac un stand fertigol ar gyfer peiriannau roced sydd wedi'u hoptimeiddio ar gyfer lefel y môr.[29] Defnyddir llwyfanau prawf eraill ar gyfer gwirio thrusters Starship ac ar gyfer peiriannau Merlin Falcon.[29][30][29] Yn y dyfodol, bydd ffatri gerllaw yn gwneud y genhedlaeth newydd o Raptors ar gyfer lefel y môr tra bydd pencadlys SpaceX yng Nghaliffornia yn parhau i adeiladu'r Raptors Vacuum a phrofi dyluniadau newydd.[29]
Yn Florida, mae cyfleuster yn Cocoa sy'n puro silica ar gyfer teils-gwres Starship, gan gynhyrchu slyri sydd wedyn yn cael ei gludo i gyfleuster yn Cape Canaveral. Yn y gorffennol, adeiladodd gweithwyr brototeip Starship Mk2 mewn cystadleuaeth â chriwiau Starbase.[31] Mae Canolfan Ofod Kennedy, sydd hefyd yn Florida, wedi'i gynllunio i gynnal cyfleusterau Starship eraill, megis safleoedd lansio Starship yn Launch Complex 39A. Mae'r cyfleusterau cynhyrchu yma'n cael ei ehangu o "Hangar X", cyfleuster storio a chynnal a chadw bwsters rocedi Falcon. Bydd yn cynnwys adeilad 30,000 m, doc llwytho, a lle ar gyfer adeiladu adrannau tŵr.[32]
Safleoedd lansio
[golygu | golygu cod]Mae Starbase wedi'i gynllunio i gynnal dau safle lansio, sef Pad A a Pad B.[26] Mae gan y safle lansio yn Starbase gyfleusterau enfawr, fel casgliad o danciau (y fferm danciau), mownt lansio orbitol, a thŵr enfawr.[26] Mae'r tanciau o amgylch yr ardal yn dal methan, ocsigen, nitrogen, heliwm, hylif hydrolig, ac ati;[26] is-oeryddion a gosodwyd sawl cilometr o bibellau amrywiol. Ym mhob fferm danciau ceir wyth tanc, digon i gynnal un lansiad orbitol, on yn Rhagfyr 2023 gwelwyd gosod llawer o rai eraill. Mae gan y mownt lansio presennol ar Pad A system ddŵr newydd, sydd hefyd yn lleihau sŵn y roced wrth iddi godi, ugain clamp yn dal yr atgyfnerthydd, a mownt datgysylltu cyflym sy'n darparu tanwydd hylif a thrydan i'r Super Heavy ychydig cyn iddo godi.
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Yn yr ardaloedd cyfagos, cymysg fu'r derbyniad i ddatblygiad Starship, yn enwedig o ddinasoedd agos at borthladd gofod Starbase. Dywedodd y cwmni'n wreiddiol y byddai'r cwmni'n darparu arian, addysg a chyfleoedd gwaith i ardaloedd tlotaf y wlad. Mae gan lai nag un rhan o bump o'r rhai 25 oed neu'n hŷn yn Nyffryn Rio Grande radd baglor, o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o draean.[33] Cafwyd datganiad gan y llywodraeth leol bod y cwmni wedi rhoi hwb i’r economi leol drwy gyflogi trigolion a buddsoddi, gan gynorthwyo’r tair rhan o ddeg o’r boblogaeth a oedd yn byw mewn tlodi.[34]
Chwydodd prawf hedfan cyntaf Starship lawer iawn o dywod a rhanau o goncrid i'r awyr a'r ardal leol, gan gyrraedd cymunedau o fewn radiws 10-km (6 milltir).[35][36] Roedd pryderon am effaith y lansiad ar iechyd trigolion a rhywogaethau mewn perygl oherwydd y ffrwydrad hwn.[35][36]
Ers y 2020au cynnar, i gystadlu â Starship SpaceX, mae CASC ac eraill yn Tsieina wedi bod yn gweithio ar eu roced methylocs hwythau; mae'n debyg iawn i Starship a gellir ei hailddefnyddio'n llawn - y Long March 9. Cododd yn llwydiannus ganol Rhagfyr 2023 ac achosodd hyn gryn ddychryn ymhlith seryddwyr America.[37][38][39]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ businessinsider.com; adalwyd Rhagfyr 2023.
- ↑ Wall, Mike (2023-04-21). "What's next for SpaceX's Starship after its historic flight test?". Space.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ebrill 2023. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
- ↑ Skipper, Joe; Roulette, Joey; Gorman, Steve (2023-11-18). "SpaceX Starship launch presumed failed minutes after reaching space". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-18.
- ↑ 4.0 4.1 Foust, Jeff (14 Tachwedd 2005). "Big plans for SpaceX". The Space Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Tachwedd 2005. Cyrchwyd 16 Medi 2018.
- ↑ "SpaceX rocket fails first flight". BBC News (yn Saesneg). 24 Mawrth 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Ionawr 2015. Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.
- ↑ Rosenberg, Zach (15 October 2012). "SpaceX aims big with massive new rocket". Flight Global. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2016.
- ↑ Belluscio, Alejandro G. (7 Mawrth 2014). "SpaceX advances drive for Mars rocket via Raptor power". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Medi 2015. Cyrchwyd 25 Medi 2016.
- ↑ Berger, Eric (18 September 2016). "Elon Musk scales up his ambitions, considering going "well beyond" Mars". Ars Technica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2016. Cyrchwyd 19 September 2016.
- ↑ 9.0 9.1 Bergin, Chris (27 September 2016). "SpaceX reveals ITS Mars game changer via colonization plan". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 September 2016. Cyrchwyd 27 Medi 2016.
- ↑ Foust, Jeff (27 September 2016). "SpaceX's Mars plans call for massive 42-engine reusable rocket". SpaceNews (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2022. Cyrchwyd 16 Mawrth 2022.
- ↑ Sesnic, Trevor (11 Awst 2021). "Starbase Tour and Interview with Elon Musk". The Everyday Astronaut (Cyfweliad) (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2021. Cyrchwyd 12 Hydref 2021.
- ↑ Lawler, Richard (29 Medi 2019). "SpaceX's plan for in-orbit Starship refueling: a second Starship". Engadget (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2019. Cyrchwyd 31 December 2021.
- ↑ 13.0 13.1 Dvorsky, George (6 August 2021). "SpaceX Starship Stacking Produces the Tallest Rocket Ever Built". Gizmodo (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2022. Cyrchwyd 11 Ionawr 2022.
- ↑ Foust, Jeff (2023-06-24). "SpaceX changing Starship stage separation ahead of next launch". SpaceNews (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-07-23.
- ↑ 15.0 15.1 "SpaceX - Starship". SpaceX. Cyrchwyd December 8, 2023.
- ↑ Amos, Jonathan (6 August 2021). "Biggest ever rocket is assembled briefly in Texas". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Awst 2021. Cyrchwyd 30 May 2022.
- ↑ Ryan, Jackson (21 Hydref 2021). "SpaceX Starship Raptor vacuum engine fired for the first time" (yn Saesneg). CNET. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mehefin 2022. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
- ↑ Shayotovich, Eli (2022-09-23). "Why SpaceX's Starship Is Made Out Of Stainless Steel According To Elon Musk". SlashGear (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-21.
- ↑ Bergin, Chris (9 June 2022). "Starbase orbital duo preps for Static Fire campaign – KSC Starship Progress". NASASpaceFlight.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2022. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2022.
- ↑ Bergin, Chris (19 Gorffennaf 2021). "Super Heavy Booster 3 fires up for the first time". [NASASpaceFlight.com] (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2021. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2022.
- ↑ O'Callaghan, Jonathan (31 Gorffennaf 2019). "The wild physics of Elon Musk's methane-guzzling super-rocket" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 February 2021. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2021.
- ↑ Sommerlad, Joe (28 Mai 2021). "Elon Musk reveals Starship progress ahead of first orbital flight of Mars-bound craft". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2021. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2021.
- ↑ "The rockets NASA and SpaceX plan to send to the moon". The Washington Post.
- ↑ Berger, Eric (2 Gorffennaf 2021). "Rocket Report: Super Heavy rolls to launch site, Funk will get to fly". Ars Technica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Hydref 2021. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2021.
- ↑ Berger, Eric (5 March 2020). "Inside Elon Musk's plan to build one Starship a week—and settle Mars". Ars Technica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2021.
- ↑ 26.0 26.1 26.2 26.3 26.4 "Final Programmatic Environmental Assessment for the SpaceX Starship/Super Heavy Launch Vehicle Program at the SpaceX Boca Chica Launch Site in Cameron County, Texas" (PDF). Federal Aviation Administration a SpaceX. June 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 Mehefin 2022. Cyrchwyd 14 Mehefin 2022.
- ↑ Grush, Loren (6 Ebrill 2022). "Army Corps of Engineers closes SpaceX Starbase permit application citing lack of information". The Verge (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2022. Cyrchwyd 26 Mehefin 2022.
- ↑ "STARGATE – Spacecraft Tracking and Astronomical Research into Gigahertz Astrophysical Transient Emission". University of Texas Rio Grande Valley. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 August 2021. Cyrchwyd 30 December 2021.
- ↑ 29.0 29.1 29.2 29.3 Davenport, Justin (16 September 2021). "New Raptor Factory under construction at SpaceX McGregor amid continued engine testing". NASASpaceFlight.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2021. Cyrchwyd 12 Ionawr 2022.
- ↑ "SpaceX rocket explodes during test flight in Texas - CBS News". www.cbsnews.com (yn Saesneg). 2014-08-22. Cyrchwyd 2023-12-09.
- ↑ Bergeron, Julia (6 April 2021). "New permits shed light on the activity at SpaceX's Cidco and Roberts Road facilities". NASASpaceFlight.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 December 2021. Cyrchwyd 23 Mehefin 2022.
- ↑ Bergin, Chris (22 Chwefror 2022). "Focus on Florida – SpaceX lays the groundwork for East Coast Starship sites". NASASpaceFlight.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2022. Cyrchwyd 4 March 2022.
- ↑ Fouriezos, Nick (9 March 2022). "SpaceX launches rockets from one of America's poorest areas. Will Elon Musk bring prosperity?". USA Today (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2022. Cyrchwyd 10 Mawrth 2022.
- ↑ Sandoval, Edgar; Webner, Richard (24 May 2021). "A Serene Shore Resort, Except for the SpaceX 'Ball of Fire'". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ebrill 2022. Cyrchwyd 31 March 2022.
- ↑ 35.0 35.1 Kolodny, Lora (April 24, 2023). "SpaceX Starship explosion spread particulate matter for miles". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ebrill 2023. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
- ↑ 36.0 36.1 Leinfelder, Andrea (2023-08-02). "SpaceX Starship sprinkled South Texas with mystery material. Here's what it was". Houston Chronicle (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-20.
- ↑ "China space authorities name Elon Musk's SpaceX 'unprecedented challenge'". South China Morning Post (yn Saesneg). 2023-12-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-12-06. Cyrchwyd 2023-12-08.
- ↑ Beil, Adrian (2023-03-03). "Starship debut leading the rocket industry toward full reusability". NASASpaceFlight.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-08.
- ↑ Adrian Beil (27 April 2023). "How Chang Zheng 9 arrived at the "Starship-like" design". NASASpaceflight.com. Cyrchwyd 12 Mai 2023.