Neidio i'r cynnwys

Spencer Compton Cavendish, 8fed Dug Devonshire

Oddi ar Wicipedia
Spencer Compton Cavendish, 8fed Dug Devonshire
Ganwyd23 Gorffennaf 1833 Edit this on Wikidata
Cannes Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 1908 Edit this on Wikidata
Cannes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Lywydd y Cyngor, Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, arweinydd y Blaid Ryddfrydol, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi, llywydd corfforaeth, Arweinydd yr Wrthblaid, Lord Lieutenant of Derbyshire Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol, Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadWilliam Cavendish, 7fed Dug Dyfnaint Edit this on Wikidata
MamBlanche Howard Edit this on Wikidata
PriodLouisa Cavendish, Duges Dyfnaint Edit this on Wikidata
LlinachCavendish family Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Urdd y Gardas, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd Spencer Compton Cavendish, 8fed Dug Devonshire KG, GCVO, PC, (23 Gorffennaf 183324 Mawrth 1908), (yr Arglwydd Cavendish o Keighley rhwng 1834 a 1858 ac Ardalydd Hartington rhwng 1858 a 1891), yn wladweinydd Prydeinig. Gwasanaethodd fel arweinydd ar dair wleidyddol; bu yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhŷ'r Cyffredin (1875–1880), yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol (1886–1903) a'r Unoliaethwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi (1902–1903). Gwrthododd cynnig i ddod yn Brif Weinidog ar dri achlysur.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]
8fed Dug a Duges Devonshire

Roedd yn fab hynaf i William Cavendish, 2il Iarll Burlington, a olynodd ei gefnder i ddod yn 7fed Dug Devonshire ym 1858, a Blanche Cavendish (née Howard). Wrth i'w dad dyfod yn Ddug Devonshire, caniatawyd i'w fab hynaf defnyddio ei is deitl Ardalydd Hartington fel teitl cwrteisi, gan mae teitl cwrteisi ydoedd yr oedd yr ardalydd ddim yn cael lle yn Nhŷ'r Arglwyddi a gan hynny yn cael sefyll etholiadau ar gyfer Tŷ'r cyffredin

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd MA ym 1854. Derbyniodd gradd LLD er anrhydedd ym 1862 a DCL er anrhydedd ym 1878 gan Brifysgol Rhydychen.

Ym 1892 yn 59 mlwydd oed, priododd Louisa Frederica Augusta von Alten, gweddw'r diweddar William Drogo Montagu, 7fed Dug Manceinion[2], ni fu iddynt blant. Cyn ei briodas bu Catherine Walters, putain llys ffasiynol, yn feistres iddo.

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Etholaethau

[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Cavendish fel Aelod Seneddol pedwar etholaeth rhwng 1857 a 1891. Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Gogledd Swydd Gaerhirfryn ym 1857, gan golli'r sedd i'r Ceidwadwyr ym 1868. Yn union ar ôl etholiad 1868 ymneilltuodd Richard Green-Price, AS Rhyddfrydol Bwrdeistref Maesyfed, o'r Senedd er mwyn galluogi i Ardalydd Hartington sefyll isetholiad a dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin[3] Fe fu'n llwyddiannus yn yr isetholiad a gwasanaethodd fel AS Maesyfed hyd 1880, pan benderfynodd dychwelyd i Swydd Gaerhirfryn i sefyll yn etholaeth gogledd orllewin y sir[4]. Diddymwyd etholaeth Gogledd-orllewin Swydd Gaerhirfryn ar gyfer etholiad 1885 a safodd yr Ardalydd yn etholaeth newydd Rossendale gan gynrychioli'r etholaeth hyd 1891 pan olynodd ei dad fel Dug Devonshire[5] a chael ei godi i Dŷ'r Arglwyddi.

Y Blaid Ryddfrydol

[golygu | golygu cod]

Rhwng 1863 a 1874 gwasanaethodd Hartington mewn nifer o swyddi amrywiol yn y Llywodraeth, gan gynnwys swydd Arglwydd y Morlys a Swydd yr Is-ysgrifennydd dros Ryfel o dan brif weinidogaethau Palmerston ac Iarll Russell, ac yna fel y Postfeistr Cyffredinol, a Phrif Ysgrifennydd yr Iwerddon yn y llywodraeth gyntaf Gladstone.

Trechwyd Llywodraeth Gladstone yn etholiad Cyffredinol 1874 - ac ymddiswyddodd Gladstone fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol ac fe wnaed Hartington yn Arweinydd y wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin. Ym 1876 dychwelodd Gladstone i fywyd gwleidyddol gweithgar, trwy ei ymgyrchu yn etholaeth Midlothian ym 1879 a 1880 ac fe ddaeth, unwaith yn rhagor, yn ymgyrchydd cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r Rhyddfrydwyr.

Enillodd y Rhyddfrydwyr etholiad cyffredinol 1880 a chafodd Hartington gwahoddiad gan y Frenhines i ffurfio llywodraeth, ond gwrthododd - fel y gwnaeth Iarll Granville, Arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi - ar ôl i Gladstone datgan na fyddai'n gwasanaethu o dan unrhyw Brif Weinidog ond ef ei hun. Penodwyd Hartington i wasanaethu yn ail lywodraeth Gladstone fel Ysgrifennydd Gwladol India (1880-1882) a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel (1882-1885).

Unoliaethwyr Rhyddfrydol

[golygu | golygu cod]

Daeth Hartington yn fwyfwy anesmwyth â pholisïau Gwyddelig Gladstone, yn enwedig ar ôl llofruddiaeth ei frawd iau, yr Arglwydd Frederick Cavendish ym Mharc Phoenix, Dulyn ym 1882[6]. Ym 1886 torrodd gyda Gladstone yn gyfan gwbl[7]. Gwrthododd i wasanaethu yn nhrydedd lywodraeth Gladstone, ac ar ôl pleidleisio yn erbyn y Mesur Rheolaeth Cartref Cyntaf daeth yn arweinydd yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol. Ar ôl Etholiad Cyffredinol yn 1886 Hartington gwrthododd cais arall i fod yn Brif Weinidog, gan ddewis yn hytrach i ddal y cydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin a rhoi cefnogaeth o'r meinciau cefn i'r ail lywodraeth Geidwadol yr Arglwydd Salisbury. Yn gynnar ym 1887, ar ôl ymddiswyddiad yr Arglwydd Randolph Churchill, cynigiodd yr Arglwydd Salisbury i gamu i lawr a gwasanaethu mewn llywodraeth dan Hartington, ond gwrthododd y cyfle am y drydedd tro.

Ar ddyfod yn Ddug Devonshire ym 1891 a symud i Dŷ'r Arglwyddi, ymunodd a thrydedd lywodraeth Salisbury ym 1895 fel Arglwydd Lywydd y Cyngor. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth yn 1903,[8] ac oddi wrth y Gymdeithas yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol y gwanwyn canlynol, mewn protest at gynllun Diwygio Tariff Joseph Chamberlain; roedd Chamberlain am gyflwyno diffyndollau ond roedd y Dug yn credu mewn marchnad gwbl rydd.[9] Wedi ymadael a'r Unoliaethwyr Rhyddfrydol ffurfiodd grŵp seneddol newydd Yr Unoliaethwyr Marchnad Rydd, a drodd wdyn i'r Blaid Unoliaethol cyn uno a'r Blaid Geidwadol ym 1912.

Tu allan i'r Senedd

[golygu | golygu cod]
Cerflyn Spencer Compton, 8fed Dug Devonshire, Horse Guards Avenue, Llundain SW1

Roedd gan y Dug diddordeb oes mewn rasio ceffylau, fel gŵr ifanc bu'n rasio fel joci o dan y ffug enw Mr J C Stuart. Enillodd un o'i geffylau Belphobe y Mil Gini ym 1877, ac enillodd un arall Morion y Royal Hunt Cup ym 1890 a Chwpan Aur Ascot ym 1891.[10]

Gwasanaethodd fel Capten yng nghatrawd Iwmyn Dug Caerhirfryn o 1855 i 1873 a bu'n Cyrnol er anrhydedd ym Mataliwn Milisia Catrawd Derbyshire o 1871 hyd ei farwolaeth ac Ail Gatrawd Gwirfoddol Magnelaeth Sussex o 1887 hyd ei farwolaeth.

Gwasanaethodd fel Ganghellor Coleg y Drindod, Caergrawnt o 1892 a Changhellor Prifysgol Manceinion o 1907; bu'n Arglwydd Rheithor Prifysgol Caeredin o 1877 i 1880.

Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Swydd Derby o 1892 ac Arglwydd Raglaw Waterford o 1895.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw'r 8fed Dug yn Cannes, Ffrainc ym 1908 o ganlyniad i drawiad ar y galon, cludwyd ei gorff yn ôl i Wledydd Prydain i'w claddu yn Eglwys Edensor, Swydd Buckingham; cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn Eglwys Santes Marged, Westminster, ar ddydd yr angladd. Olynwyd o yn y Dugaeth gan ei nai Yr Anrhydeddus Victor Cavendish.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "DUKE OF DEVONSHIRE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-03-24. Cyrchwyd 2015-08-23.
  2. "PRIODAS ARDALYDD HARTINGTON AS - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1891-04-04. Cyrchwyd 2015-08-23.
  3. "DYCHWELIAD ARDALYDD HARTINGTON DROS FWRDEISDREF MAESYFED - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1869-03-03. Cyrchwyd 2015-08-23.
  4. "Buddugoliaeth Arglwydd Hartington - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1880-04-16. Cyrchwyd 2015-08-23.
  5. "LORD HARTNGTON DUKE OF DEVONSHIRE - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-12-22. Cyrchwyd 2015-08-23.
  6. "Y Llofruddiaeth yn Dublin - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1882-05-26. Cyrchwyd 2015-08-23.
  7. "HARTINGTON AND CHAMBERLAIN - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1886-03-12. Cyrchwyd 2015-08-23.
  8. "DUKE OF DEVONSHIRE - The Cambrian". T. Jenkins. 1903-10-09. Cyrchwyd 2015-08-23.
  9. "DUKE OF DEVONSHIRE - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1903-12-19. Cyrchwyd 2015-08-23.
  10. "DUKE OF DEVONSHIRE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-03-24. Cyrchwyd 2015-08-23.
  11. "LATE DUKE OF DEVONSHIRE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-03-27. Cyrchwyd 2015-08-23.